Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. DIWEDD BLWYDDYN.—Dyma'r rlifyn olaf am y flwyddyn hon, ac er cystal y bu i'n darllenwyr, boed i'r newydd fod yn llawer gwell. Dyna'r dymuniad goreu allwn roddi wrth groesi'r trothwy o un flwyddyn i'r llall. Y GWYLIAU.—Yr ydym yn cyhoeddi'r rhifyn hwn cyn y Nadolig, am hynny, rhoddir yr adroddiadau am ein cynulliadau yn ystod yr Wyl hon yn ein rhifyn nesaf. CYFARFODYDD.—Ar yr awr olaf, daw hanes am lu o gynulliadau cartrefol ynglyn a'n capelau yn ystod y Nadolig. 0 dipyn i bei h gwneir yr oil o'r addoldai Cymreig yn fath. o gyrchfanau adloniadol i'n ieuainc di- gartref. Da iawn hyn hefyd. YR IEOHYD.—Sut i ofalu am yr iechyd, dytia oedd pwnc araith a gaed yng Nhapel y Tabernacl nos Iau diweddaf. Egluro dylan- wad niweidiol y diodydd meddwol ar y corff oedd amcan y darlithydd, Mr. F. O. Edwards, F.C.S., a dangosodd hynny drwy nifer o engreifftiau meddygol. Da yw argraffu ar feddwl yr ieuanc mor ddinistriol yw alcohol i'r corff, yn ogystal ag i amhuro'r meddwl. EALING. Cynhaliwyd yr ail gyfarfod adloniadol y tymor hwn, dan nawdd y Gym- deithas Ddiwylliadol yr Eglwys uchod, yn Swift Assembly Rooms, Ealing Green, nos Fercher, yr lleg cyfisol, dan lywyddiaeth T. Jay Evans, Ysw. (Fulham), yr hwn a ddan- gas odd ei haelioni at yr achos mewn gwedd arianol. Yn ystod y cyfarfod, trwy garedig- rvvydd Mr. a Mrs. Clifford Evans (Acton), mwynhawyd gwledd o ddanteithion melus. Ea hymdrech a'u gweithgarwch hwy fu y moddion i wneud y cyfarfod yn llwyddiant yrn mhob ystyr. Sicrhawyd talentau galluog ym myd y canu. Cafwyd caneuon fel y eanlyn Cryd gwag fy mhlentyn yw a Dim ond deilen gan Miss Lizzie Roberts, yn effeithiol iawn, ag ail-ganodd Y Deryn pur mewn llais swynol a phur Gyda'r Wawr" a'r Slave Song gan Miss Gippie Jones; Break, break, break" gan Miss Lily Niblock. Canodd Mr. Cowley Merch y Cadben" a "Bedouin Slave Song," a gorfu iddo ail ganu; ac hefyd, cafwyd can gan Mr. Way. Adroddwyd The Twins gan Master Clifford Evans; Cartref gan Miss Edie Rees "Bob Sawyer's Party a Wolsey's Speech to Cromwell gan Master Gwilym Hughes. Cyfeiliwyd gan Miss F. B. Ooleman (Hanwell). Wedi talu y diolchgarwch arferol i'r Cadeirydd a'r personau a gymerodd ran yn y cyfarfod, terfynwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau." DEWI SANT, PADDINGTON.—Y Gvmdeithas Leiiy(ttlol.-Nos Fawrth, Rhagfyr 17eg, yn Ystafell Eglwysig Dewi Sant, o dan nawdd y Gymdeithas hon, cafwyd dadl hynod ddyddorol ac adeiladol, ar y testyn amserol a phriodol, A ddylai y rheilffyrdd fod yn eiddo y Llywodraeth ? Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Tom Jenkins, a'r ochr nacaol gan Mr. Dan Jones, ysgrifennydd gweithgar y Gymdeithas. Daeth cynulliad rhagorol ynghyd, a theimlai pawb yn bur awyddus i gael clywed dwy ochr y ddadl. Wedi i'r ddau arwr uchod osod i lawr eu gosodiadau, cymerwyd i fyny y ddadl yn frwdfrydig gan aelodau ereill y Gymdeithas. Ategwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Griffith James, a chefnogwyd gan Mr. David Evans; a'r ochr nacaol gan Mr. James Williams, yn cael ei gefnogi gan Mr. Edward Owen. Siaradwyd yn alluog gan bob un. Pan roddodd y cadeirydd y bleidlais i'r cyfarfod, cafwyd mwyafrif sylweddol o blaid y nacaol, sef, na ddylai y rheilffyrdd fod yn eiddo y Llywodraeth. Miss DILYS JONES.-Wele gantores arall wedi ymuno mewn priodas, a'r gwr ffodus yw Mr. Arthur Rhys Roberts, y cyfreithiwr adnabyddus. Ym Methesda, Arfon, y cym- erodd y briodas le ddydd Sadwrn diweddaf, a chadd y par ieuanc groesaw cynnes gan lu o gyfeillion ar yr achlysur hapus. Ond er fod Miss Jones wedi newid ei hystad, nid yw yn bwriadu rhoddi heibio ei galwedigaeth fel cantores ac mae i ymddangos yn Covent Garden yn ystod mis Ionawr, ac mewn nifer o'u prif gyngherddau o hyn i'r pasc. CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.—Cynhaliwyd y cyfarfod diweddaf o G.M. Llundain am 1907 yn Jewin nos Fercher, Rhagfyr 18, a daeth cynulliad pur dda ynghyd, Mr. Richard Thomas yn y gadair. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Morgan Morgans, Falmouth Road. Darllenwyd llythyr oddiwrth deulu y diweddar Mrs. Watts Hughes yn cydnabod gyda diolch- garwch gydymdeimlad y C.M. a hwy yn eu profedigaeth. Coffhawyd yn dyner am y diweddar Barch. William Jones, Ton, Pentre (tad Mrs. Havard, Wilton Square), a phenderfynwyd anfon datganiad o gydym- deimlad y C.M. a'r weddw ac a Mr. a Mrs. Havard. Penderfynwyd hefyd anfon cofion y C.M. at Mr. James Richards, Shirland Road, a'r Parch. T. J. Wheldon, Bangor, yn eu gwaeledd. Galwodd y Parch. J. E. Davies sylw at gyfrol y Parch. J. H. Morris, Liverpool, ar Hanes Cenhad- aeth Dramor y Methodistiaid Calfin- aidd Cymreig," cyhoeddedig gan Lyfr- fa'r Cyfundeb am 3/6, ac apeliai am gylchrediad helaeth i'r llyfr. Baich adrodd- iad Pwyllgor yr Achosion Seisnig ydoedd, nad yw'r cynygiad i sefydlu achosion o'r fath yn amserol, ond gofynwyd i'r Pwyllgor fyned ymhellach i mewn i'r mater a dwyn ffrwyth eu hymchwiliad i'r C.M. Etbolwyd fel y canlyn am 1908 :—Llywyddion, y Parch. R. 0. Williams, Holloway, a Mr. W. W. Griffith, Wilton Square. Cynrychiolwyr i'r Gymanfa Gyffredinol, y Parchn. R. 0. Williams a J. E. Davies, M.A., a'r Mri. Morgan Morgans a John Jenkins, Wilton Square. I Gymdeith- asfa'r Gogledd, y Parch. S. E. Prytherch a Mr. William Jones, Lewisham. Archwilwyr, Mri. A. H. Parry a Humphrey Hughes. Enwyd hefyd yr amrywiol bwyllgorau ar gyfer 1908. Yr oedd y Parch. J. Gerlan Williams, B.Sc., y cenhadwr, yn bresennol, a chroesawyd ef ar ran y C.M. gan y Cadeirydd, ar gais yr hwn y traddododd Mr. Williams anerchiad byr ond pwrpasol, yn rhoddi ychydig o hanes y Genhadaeth, ac yn cyflwyno cofion y Cenhadon a'r Cristionogion brodorol i'r C.M. Amlygwyd llawenydd wrth weled a chlywed Mr. Williams, a phender- fynwyd anfon cofion cynhesaf y frawdoliaeth at y brodyr a'r chwiorydd ym Mryniau Cassia a'r gwastadedd trwy law Mr. Williams. Derbyniwyd adroddiad o Walham Green yn hysbysu fod yr Eglwys yno yn symud i gael bugail, a bod pwyllgor wedi ei ethol at yr amcan. Etholwyd Mr. William Evans, Wilton Square, yn gynrychiolydd ar bwyll- gor Dyledion Capelau," yn ol penderfyniad cymdeithasfa Llandudno. Galwodd Mr. Burrell sylw at dysteb y Parch. Thomas Levi, ac apeliai am gefnogaeth cyffredinol gan fod y gronfa i'w chau ddiwedd y flwyddyn. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Gerlan Williams, B.Sc.

Advertising

Y DYFODOL.

Advertising