Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
T ::H:E CENTRAL INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the, Liverpool, and London & Globe Insurance Co. Assets exceed 411,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, Loss of Profits, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.G. HUGH LEWIS, Manager and Secretary. STANDARD MILK CANS. MILK 5ANDARD OUTFIT C-Lo As the Hall-mark on Silver, So the above Trade Mark is the Guarantee of Highest Quality. Our manufacturing facilities enable us to sell these cans at prices which cannot be equalled when strength and durability are considered. RAILWAY CHURNS, SPILL PROOF, as well as DUST and RAIN PROOF. Price List post free. Prompt Deliveries. DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, Aberystwyth (ONE OF THE CONSTITUENT COLLEGES OF THE UNIVERSITY OF WALES). President-THE RIGHT HON. LORD RENDEL. Principal-T. F. ROBERTS, M.A. (OXON.), LL.D. (YICT.). STUDENTS are prepared tor Degrees in Arts, i3 Science (including the applied Science of Agricul- ture), Law, and Music. Sessional Composition Fee, 210, with additional Laboratory Fees foi Science Students. Registration Fee, 21. Men students reside in registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel-Warden: Professor J. W. Marshall, M.A. Women students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women-Warden: Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A Registrar. MAISON ROUGE, 67, EDG-WARB ROAD LONDON, W. T ADIES in request of a Really Good Dressmaker I J and Ladies' Tailor should try MADAME WHITE, 67, Edgware Road, Marble Arch, W. Her cut and fit are excellent, and she makes charming simple autumn and evening frocks from 2 guineas. Tailor-made Costumes from 3 guineas. Ladies' own materials, Remodelling. Welsh spoken, Bydd yn hyfp'dwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau ac erthyglau i'w hystyried, ond nis gellir ymrwymo i ddychwelyd ysgtifan degwrthodig.
BARN Y WLAD.
BARN Y WLAD. Cyn y daw y rhifyn presennol i ddwylaw ein darllenwyr bydd mwyafrif etholwyr Prydain wedi rhoddi eu dyfarniad ar Gyll- ideb y weinyddiaeth Ryddfrydig. Ac mae'n amlwg na fydd y ddedfryd honno yn un mor ffafriol ag y disgwylid ar y cychwyn. Mae'n wir nas gellid gobeithio am y fath Iwyddiant ag a gaed yn 1906, pan yr ysgubodd Rhydd- frydiaeth yr ysbryd rhyfelgar o'r tir, ac y gosodwyd cynrychiolwyr y bobl, yn hytrach na chynrychiolwyr y mawrion, mewn awdurdod ar fuddiannau y wlad. Yr oedd yr etholwyr wedi hen flino ar gael eu traws-reoli gan yr uchelwyr a'r bendefigaeth, ac mae'r baich llethol a adawsant ar ol, yng nghynnydd y ddyled wladol, yn aros fel hunllef ar yddfau y treth- dalwyr hyd heddyw. A'r syndod yw, fod miloedd y werin wedi hen anghofio y cyfnod anffodus hwnnw ac yn barod unwaith eto i ail-orseddu y mawrion mewn awdurdod arnynt. Ac nid yn unig ail-osod y mawrion mewn awdurdod a wneir os llwydda'r Toriaid gael mwyafrif clir yn yr etholiad hon. Golyga'r ennill fod Ty'r Arglwyddi i gael ei gadarn- hau mewn gallu a dylanwad, yr hyn a'i gwna yn fwy haerllug nag erioed pan fydd raid i'r blaid Ryddfrydol i ymwneud ag ef mewn unrhyw drafodaeth ymerodrol ar ol hyn. Ar y goreu, nis gall Ty'r Cyffredin ond awgrymu deddfau a gwelliantau, canys gan y Ty Uchaf yn hollol fydd y llais pennaf i osod yr awgrymiadau neu'r deddfau hynny mewn gweithrediad. Trwy hyn cyll y wlad yr hawl i reoli ei hun, a gall y mawrion a'r bendefigaeth wneud fel y mynnont a'r ethol- wyr hyd nes y dihunir y werin o'u cwsg, ac y rhyddheir hi o'r ysbryd gwasaidd a chyn- ffongar sydd mor nodweddiadol o honi ar hyn o bryd. Mae'n amheus a gaed etholiad erioed ym Mhrydain yn yr hon y eymerwyd mwy o ddyddordeb gan bob plaid ac adran. Mae holl alluoedd yr wrthblaid a phob math o glymbleidiaeth ariannol wedi eu galw i'r frwydr. Ar yr amddiffynfa mae'r Rhydd- frydwvr, a gwaith anhawdd yw amddiffyn iawnder bob amser. Myn y wlad fyned rhagddi, a chred llawer o bobl mai'r ffordd hawddaf i gael gwelliantau ydyw trwy osod yr "ochr arall" i fewn mewn awdurdod. Ar rai amgylchiadau y mae hyn yn ddigon gwir; ond mewn gornest fel hon, lie mae hawl y werin ac honiadau1 Ty'r Arglwyddi yn cael eu gosod yn] wrthgyferbyniol i'w gilydd, yr oeddem yn hyderu y byddai gan yr etholwyr ddigon o hunanbarch fel ag i gadw y gallu llywodraethol yn eu dwylaw eii hunain, ac y rhoddent y fath fwyafrif i Mr. Lloyd George fel ag i'w alluogi i osod taw oesol ar haerllugrwydd y rhai a geisiant ein rheoli, heb awdurdod, ac heb un math o gyfrifoldeb i'r rhai sy'n gorfod dwyn y beichiau trethol a osodir arnynt gan y Senedd. Fel y saif y pleidiau yn awr, ni fydd gan y naill na'r Hall ond mwyafrif bychan, a bydd hyn yn galondid i Dy'r Arglwyddi i herio pob diwygiad a gynygir o hyn allan gan aelodau Ty'r Cyffredin.
LLOFRUDDIO CYMRO ANTURIAETHUS.
LLOFRUDDIO CYMRO ANTURIAETHUS. Trist iawn yw'r newydd gaed yr wythnos ddiweddaf am ddiwedd anffodus y Cymro enwog Llwyd ap Iwan, yr hwn a lofrudd- iwyd gan y brodorion ar gyffiniau yr Andes, ym mhellafoedd y Wladfa Gymreig yn Patagonia. Hyd yn hyn, nid yw'r manylion wedi cyrraedd ei berthynasau yn y wlad hon, ond mae'r ychydig wybodaeth sydd wedi dod yn cadarnhau y syniad mai gwaith rhyw adran o'r brodorion ydyw neu rhyw un, feallai, a chanddo deimladau chwerw tuag at y llywodraeth tros yr hon y gweith- redai y boneddwr hwn. Yn ol fel y cesglir, yr oedd y Bonwr Llwyd ap [wan yn fath o ragredegydd ar ran y Weinyddiaeth leol i blith Indiaid yr Andes. Iddo ef yr ymddiriedwyd y gwaith o gael allan beth oedd hinsawdd a gwerth y miloedd erwau o dir bras sydd yn gorwedd rhwng y Wladfa a rhannau isaf yr Andes, o'r tu gorllewinol i'r dalaeth Gymreig. Yr oedd y Bonwr wedi myned yno i drefnu'r gwaith ac i wneud ymholiadau ar ran y weinyddiaeth leol, ac mae'n briodol casglu mai yn un o'i gabanau pell y daeth ei ddiwedd. Un o feibion yr hyglod Michael Jones o'r Bala oedd Llwyd ap Iwan, ac yr oedd wedi cael yr addysg oreu ym more ei oes. Yr oedd yn Gymro gwych, yn deall y Saesneg a'r Hispaenaeg yn drwyadl, ac yn wr a fawr berchid gan y rheolwyr Ysbaenaidd ym mhrif ddinas y Wladfa. Yr oedd yn briod a chwaer i'r fonesig Eluned Morgan, ac mae amryw o'i berthynasau yn aros yng Ngogledd Cymru, gyda'r rhai y mae cydymdeimlad y genedl, yma ac yn Patagonia, ar golli gwr mor enwog trwy law lofruddiog rhyw adyn yn mhellafoedd yr Andes.
[No title]
Gadawodd Syr Alfred Jones eiddo gwerth Y,674,000 ar ei ol, ac mae'r rhan fwyaf o'r swm enfawr hwn i'w ddefnyddio tuag at achosion addysgol a dyngarol. Mab i Arglwydd Dinefwr yw'r Anrhyd. Walter Rice, yr enillydd Toriaidd yn etholiad Brighton. Mae ei gyd-aelod-y Cad ben G. C. Tryon—yn berthynas agos trwy briodas i Arglwydd Abertawe. Dywed Mr. Chamberlain na fydd Dat- gysylltiad o un lies i Gymru, a gwell fydd iddi bleidio Diffyndolldaeth. Mynnu byw yn y byd materol y mae'r gwr o Birmingham o hyd!