Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

OLION Y FRWYDR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SYR ALFRED THOMAS. OLION Y FRWYDR. CYMRU YN GADARN. 0 ble y tarddodd y syniad mai creadur nwydwyllt ac anwadal yw'r Celt, ac mai gwr cadarn, cyson, a diwyro yw'r Sais ? Yn sicr, nid oddiwrth ymddygiadau gwleid- yddol y naill bobl a'r Hall. Pe baem i farnu gwir gymeriad y cenhedloedd hyn oddiwrth eu hymddygiadau etholiadol byddem dan orfod i gyhoeddi mai'r Sais yw'r creadur mwyaf anwadal dan haul. Era blynyddau lawer y mae'r tri llwyth Celtaidd-y Scot, y Cymro, a'r Gwyddel-wedi glynnu yn fEyddlon i'w daliadau gwleidyddol o dan bob math o anfanteision, tra y mae'r Sais fel creadur penchwiban yn cael ei hudo gan bob cri a chleber, nes gwneud etholiad yn destyn gwawd i bawb o'r tuallan i'r ynys- oedd hyn. Un o nodweddion pennaf yr etholiad presennol yw'r ffyddlondeb ddangoswyd gan Gvmru tuag at ddaliadau Rhyddfrydol y Weinyddiaeth. Er i Siroedd y Sais droi yn hynod o anwadal, y mae'r canlyniadau yn y tair gwlad arall wedi aros yn bur agos i'r hyn oeddent bedair mlynedd yn ol, Ac nid rhywbeth amhenodol yw ffyddlondeb Cymru CYRNOL IVOR HERBERT. wedi profi i'r blaid yn yr ornest hon. Cyn y daw y rhifyn hwn i law bydd yr oil o'r seddau Cymreig wedi eu hymladd, gyda'r canlyniad fod y mwyafrif Rhydd- frydol, yn agos yr oil o honynt, wedi cynyddu yn aruthrol. Yn y rhifyn diweddaf rhoddwyd manylion am yr wyth sedd cyntaf i bleidleisio, a dangosai'r ffigyrau a gyhoeddwyd fod y bobl yn teimlo cryn ddyddordeb yn yr etholiad hon. Os caed dechreu da yn Abertawe, bu i ereill gadw'r brwdfrydedd yn fyw, ac oni bae am Fwrdeisdrefi Dinbych a Sir Faesyfed buasai catrawd y blaid Gymreig mor unol ag y profodd ei hun bedair mlynedd yn ol. Yr unig etholiad a dynnodd sylw y cyhoedd oedd yr ornest a ymladdwyd yng Nghaernarfon gan Mr. D. Lloyd George. Nid oedd y Canghellor wedi bod yn alluog i siarad rhyw lawer yn nhrefydd Arfon, ond waeth hynny na rhagor, mynnodd gwyr cadarn y Gogledd gadw'r cysylltiad yn ddi- fwlch, a bu'r ffaith iddo gael dros fil o fwy- afrif yn galondid mawr i'r rhai fuont yn ethol cynrychiolwyr yr wythnos hon. Wele'r ffigyrau- 11 "MABON." CAERNARFON. Mr. D. Lloyd George (R) 3183 Mr. H. S. Vincent (C) 2105 Mwyafrif 1078 Gwir fod y mwyafrif yn ychydig yn llai nag yn 1906, ond nid yw hyn o un syndod, gan mai gwr dieithr oedd yr ymgeisydd Toriaidd y pryd hwnnw, tra mai boneddwr lleol, a gwr hynod o boblogaidd gan bawb, oedd ar y maes y tro hwn. Etholaeth lied ansicr yw Caernarfon erioed, a phrofir hynny yn y ffigyrau a ganlyn, sef maint y mwyafrif a sicrhawyd gan Mr. Lloyd George ymhob i gornest o'i eiddo yn y lie. Wele'r ffigyrau- I 1809 — Mwyafrif 18 I 1892 „ 196 I 1895 „ 195 I 1900 „ 296 1906 „ 1224 1910 „ 1078 Yn y Siroedd mae'r mwyafrif wedi ychwan- egu yn ddirfawr, fel ag a welir isod :— SIR FEIRIONYDD. Mr. Haydn Jones (R) 6065 Mr. R. Jones Morris (C) 1873 Mwyafrif 4192 9 MR. WILLIAM JONES. I Gan mai hon oedd y waith gyntaf i Mr. Haydn Jones ddyfod allan fel ymgeisydd, gwnaeth yn rhagorol, a hyderwn y caiff yr un yrfa lwyddiannus yn y Senedd ar ol uno a'r blaid Gymreig. Y brwydrau ereill a ymladdwyd yn ystod yr wythnos oeddent fel a ganlyn- MERTHYR TYDFIL. Edgar Jones (R) 15448 Keir Hardie (LI) 13841 Fox Davies (C) 4756 W. Pritchard Morgan. 3639 Mwyafrif 10692 BWRDEISDREFI MYNWY. Mr. L. Haslam (R) 6496 Sir C. Caynor (C) 5351 Mwyafrif 1145 i IR FON. Mr. Ellis J. Griffith (R) 5888 Mr. R. 0. Roberts (C) 2436 Mwyafrif 3452 Mr. ELLIS JONES GRIFFITH.