Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

- CYFARFODYDD.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Wedi gorffen y frwydr, mae'r gwahanol gad-lywyddion yn mwynhau wythnos o seibiant. Brawd i'r Parch. J. D. Jones, Bourne- mouth, ydyw Mr. Haydn Jones, sydd wedi ennill mor rhagorol yn Meirionydd. Mae Mr. Jones wedi enwogi ei hun fel gwr craff ynglyn a materion Sirol, a bydd yn ddydd- orol gwylio beth fydd ei groesaw ar lawr y Senedd. Profodd Syr S. T. Evans ei fod yn un o anwyl blant ei genedl. Ni freuddwydiodd neb y llwyddai'r Cyfreithiwr Cyffredinol i sicrhau mwyafrif mor ardderchog, ond er cymaint y beirniadu arno, mae S.T." yn un o'r dynion goreu a fedd Cymru yn y Senedd heddyw. Sonia rhai y ceir archwiliad ar bleidleisiau etholaeth Bwrdeisiol Dinbych, lie y curwyd Mr. Clement Edwards gyda mwyafrif o wyth. Dywedir fod amryw o bersonau wedi pleidleisio nad oedd ganddynt hawl i wneud hynny. Prin yr ydym yn credu y bydd archwiliad o un gwerth. Gwell gadael i bethau aros fel ag y maent, nag i'r blaid Ryddfrydol yno wneud ei hun yn destyn gwawd.

Advertising

Y DYFODOL.

Advertising