Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

---_-Y DDEDFRYD A'R CANLYNIADAU.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Hysbysir ni fod y Brenin i roddi ei fendith ar y gadgyrch trwy agor y Senedd gyda rhwysg anarferol ymhen pythefnos. Cafodd Paris ail-ymweliad o'r diliw yr wythnos ddiweddaf, a bu hanner y ddinas dan ddwfr am ddyddiau lawer. Mae'r llif- ogydd yn Ffrainc wedi bod yn eithriadol yn ei hanes. Rhaid i Gymru gael ad-drefniant o'i hetholaethau. Mae cynrychiolwyr ardaloedd y glofeydd yn siarad dros agos hanner nifer holl etholwyr Cymru. Dywedir fod cynyrchion barddonol yr Etholiad yng Nghymru yn fwy lliosog nag arfer. Byddai casgliad o'r caneuon doniol hyn yn werth ei gadw er dyddordeb yr oesau a ddel. Unwaith yn flaenorol bu Cymru yn cael ei chynrychioli yn y Senedd gan ddau Dori. Y tro hwnnw hefyd yr oedd un o'r Gogledd a'r Hall o'r Deheudir. Eu cadw fel es- iamplau yn unig a wnaed," meddai hen Radical y cyfnod. Colli ei sedd wnaeth Mr. Leif Jones, y dirwestwr pybyr. Fel y cofir, enillodd'ei sedd yn 1906 gyda 3 o fwyafrif, ac nid syndod, felly, iddo gael ei guro yn yr ethol- iad hon. Dywedir mai un o'r siaradwyr mwyaf hyawdl ymysg aelodan newydd Cymru yw Mr. Edgar Jones, y gwr ieuanc sydd wedi ennill Merthyr gan ei ddoniau areithyddol. Os yw hefyd yn wleidyddwr craff, bydd yn gaffaeliad mawr i'r blaid Gymreig.