Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

---------CYMRU A'l HAELODAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MR. M. L. VAUGHAN DAVIES (Aelod Ceredigion). CYMRU A'l HAELODAU. Ar ol mis o galedwaith digyffelyb, wele'r gwleidyddwyr Cymreig yn dychwelyd i'w <;elloedd. Ddydd Gwener yr wythnos ddi- weddaf cyhoeddwyd ffigyrau ola'r frwydr, ac mae'r gynrychiolaeth yn awr yn nwylaw 28 o Ryddfrydwyr a 42 o Geidwadwyr, neu a chymeryd Mynwy i ystyriaeth, 32 Rhydd- frydwyr a 2 o Geidwadwyr. Yn 1906, ni lwyddodd y Ceidwadwyr i ennill yr un sedd, ond y tro hwn rhoddasant u bryd ar dair neu bedair o leiaf, a bu'n siom ddirfawr i arweinwyr y blaid yng Nghymrll pan fethwyd cipio etholaethau Maldwyn a Phenfro. Ac megys o safn y -bwystfil y cipiwyd y ddwy sydd yn eu meddiant. Nid oedd mwyafrif Dinbych ond wyth, a Sir Faesyfed ond 14, a thrwy nerth y 22 pleidlais hyn mae'r blaid Geidwadol i -gael dau gynrychiolydd a wyliant symud- iadau y 32 aelodau ereill. O'r ddau aelod a orchfygwyd, teimlir yn bur chwith ar ol Syr Francis Edwards ond gan fod Mr. Clement Edwards yn fath o 4 1swmbwl yn y cnawd" i lawer o'r hen Whigiaid Cymreig, mae'n amlwg y bydd rhai o honynt yn llawenhau wrth weled gwr MR. TOM RICHARDS (Un 0 aelodau Plaid Llafur). arall yn cymeryd ei le. Dylanwadau teuluol fu'r achos pennaf i Syr Francis golli'r tir, canys addefir yn bur gyffredin yn Sir Faesyfed fod teulu'r Llewelyn yn barchus ac yn hynod o boblogaidd. Rhagor na hyn, yr oedd yr ymgeisydd ieuanc wedi bod yn gweithioyn ddyfal yn y Sir yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf hyn, tra nas rhoddodd Syr Francis y sylw dyladwy i hyrwyddo achos Rhyddfrydiaeth yno i'r un graddau. Sir amaethyddol yn bennaf yw Maesyfed, ac mae'n ddigon eglur fod yr amaethwyr gwledig yn dra pharod i gael eu hudo gan addewidion teg y "mil flwyddiant" diffyn- dollol. Iddynt hwy ni fydd codiad y prisiau ar foethau ond mater bychan iawn, gan fod mwyafrif yr hyn a ddefnyddir ganddynt yn cael eu cynyrchu ar y tir gartref. Os llwyddant, felly, i gael toll ar yd ac ar gig- oedd, bydd yn werth iddynt roddi cynnyg i'r bwriad. Am Mr. Clement Edwards, mae'n ddigon eglur i'w ymddygiadau anibynnol wneud niwed iddo. Nid gwaith doeth o'i eiddo oedd taflu amheuon ar onestrwydd gwleid- yddol Mri. Lloyd George ac Asquith. Hwynt hwy yw y ddau arwr heddyw, a diau i Mr. Clement Edwards deimlo oddiwrth yr anffyddlondeb hwnnw o'i eiddo i'r blaid Gymreig beth amser yn ol. Un peth yw bod yn anfoddog a beirniadu a phigo beiau, ond peth hollol wahanol yw bod yn gyn- llunydd neu yn rebel llwyddiannus. Erbyn y gadgyrch nesaf gwnai'r etholwyr yn briodol i ad-drefnu eu rhengoedd a gofalu am genedlaetholwr pybyr i wneud ymgais at ad-ennill y sedd eto. Yn ol y cyfrif diweddaf cafodd y Ceidwad- wyr gurfa. dost ymhob etholaeth yng Nghymru. Dengys hyn barch y genedl i'w harweinydd, a'r ymddiriedaeth drylwyr roddir yn ei fedr a'i ofal am bynciau Cymreig. Wedi gorffen y brwydro bydd y cynrych- iolwyr yn dechreu ar eu gorchwylion yr wythnos nesaf, a bydd raid gwylio yn ofalus y gwahanol fudiadau a berthyn i ni fel cenedl yn awr. Cododd y genedl fel un gwr dros ei hiawnderau ar adeg yr etholiad, a disgwyliwn y bydd i'r cynrychiolwyr yn y Senedd ymladd ei hawliau gyda'r un pybyr- wch a'r un awyddfryd am lesoli'r werin. Ni thai i'r 32 hyn fod yn rhanedig yn ystod y tymhorau dyfodol, a'r unig ffordd iddynt fod yn llwyddiant perffaith ydyw gofalu fod eu rhengoedd yn unol ymhob ymosodiad a wneir ar elynion y genedl. Mae'r dasg yn un fawr, ond gyda gofal a gweithgarwch, dylai'r blaid Gymreig ennill clod ac an- rhydedd mawr cyn y bydd raid apelio eto am ail-ymddiriedaeth yr etholwyr. Clwyfedigion yr Ornest. Dyma'r frwydr etholiadol boethaf a gafwyd erioed yng Nghymru. Yn wir, addefir gan y ddwyblaid iddynt ddefnyddio pob modd- ion i sicrhau buddugoliaeth, ac mae'r ddwy- blaid hefyd yr un mor unol yn gobeithio na cheir etholiad am dymor hir eto! Un prawf o bybyrwch yr ornest yw'r ffaith nas j gadawyd i'r un sedd fynd yn ddiwrthwyn- j ebiad yng Nghymru. Yr oedd cyfoeth y J blaid Geidwadol yn ddihysbydd, ac ni I phetruswyd defnyddio pob triciau er ceisio hudo'r etholwyr oddiar eu ffyrdd rhydd- frydol. Ond er cymaint y cyfoeth ac er lliosoeed yr ystryw, curfa ofnadwy gafodd y Ceidwadwyr yng Nghymru! Beth fu achos aflwyddiant y blaid Geid- wadol sydd bwnc anhawdd ei farnu, gan fod cwahariol ddaliadau ar y mater ymhlith arweinwyr y parti yng Nghymru. Yn un peth, nid diffyg sylw i faterion cenedlaethol fu'r achos. Yr oedd amryw o'r ymgeiswyr yn Gymry Ilithrig o ran iaith yn ogystal ag yn mawrygu ei sefydliadau. Oni bae am hyn ni fuasai rhai o honynt wedi gwneud MR. DAVID DAVIES (Yswain Llandinam, ac aelod tros Faldwyn). mor ganmoladwy, ac os pery yr ysbryd cenedlaethol ama i reoli y Toriaid bydd raid i'r Radicaliaid edrych ati yn y man Er hyn oil, rhaid addef mai y budrwaith pennaf yn yr etholiad oedd yr ornest i ddi- sodli Mr. Lloyd George a Mr. S. T. Evans. Dyma ddau o fechgyn y werin wedi dringo i fri ac anrhydedd heb na dylanwad na chyfoeth o'u plaid; eto i gyd, yn nydd eu llwyddiant, wele fradwyr cenedl- aethol yn gwneud eu goreu i'w hamddifadu o ffrwyth eu haberth yn y gorffenol. Ar wahan i'w daliadau gwleidyddol y mae'r ddau yn addurn i'n cenedl mewn cylchoedd ereill, a theimlwn mai lies i'n gwlad yw cael cynrychiolwyr o'r fath i'w dwyn i sylw, ac ennill iddi y parch dyladwy, ymysg gwled- ydd Cred. Mae enwogion ein cenedl yn rhy brin i ni osod rhwystrau i'w herbyn, felly, pan fyddo unrhyw Gymro cywir wedi ennill bri i'w wlad, boed Dori neu Radical, gadewch i ni roddi cefnogaeth iddo yn hytrach na defnyddio cynlluniau bradwrus i geisio ei ladd fel ag a wnaed gan ein gelynion yn amser Llewelyn gynt! Yng Nghymru, Mr. S. T. Evans gafodd y mwyafrif goreu, yn agos i ddeng mil uwcli- law ei wrthwynebydd Toriaidd, a daw Syr Alfred Thomas a Mabon yn dyn ar ei sodlau MR. S. ROBINSON (Aelod Sir Frycheiniog).