Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. SEIBIANT.—Wythnos o seibiant yw hon i'n Seneddwyr newydd, ond mae amryw o honynt wedi bod ar ymweliad a'r ddinas i wneud trefniadau gogyfer a'r tymor. AR Y CYFANDIR y mae Mr. D. Lloyd George yn treulio ei gyntun, a daw yn ol erbyn y cynhadleddau gwleidyddol, y rhai a gynhelir ganol yr wythnos ddyfodol. YMLADD ETo.-Er mai anffodus fu Mri. David Rhys ac R. 0. Roberts yn yr etholiad ddiweddaf, y mae'r ddau yn tystio eu bod yn trefnu i ymladd yr un lleoedd eto yn yr ornest nesaf. Rhaid i Ryddfrydwyr M6n a Dinbych edrych ati! Y CYMMRODORION. Traddodwyd papur dysgedig ar nodweddion Cerddoriaeth Gym- reig, a rhai o draddodiadau lleisiol ein halawon, gan Dr. Alfred Daniell, gerbron aelodau Cymdeithas Anrhydeddus y Cym- mrodorion, nos Iau yr wythnos ddiweddaf. Llywyddwyd gan Syr John Rhys, Rhyd- ychain, a chaed sylwadau addas ar y papur dysgedig a chraff gan Mrs. Mary Davies, Mr. W. Llewelyn Williams, Parch. Elfet Lewis, ac ereill. MARWOLAETH MR. JOHN JONES, CATFORD.— Bydd yn chwith gan gyfeillion lliosog y brawd ieuanc uchod i glywed am ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le yn ei breswylfod, 6, The Parade, Sandhurst Road, Catford, S.E. Mab ydoedd i Mr. a Mrs. Rhys Jones, Maeswallter, Senny, Swydd Frycheiniog. Priododd a Miss S. A. Thomas, Beilian, Senny, a daeth- ant i Barnsbury, N., i gario ymlaen fasnach. Wedi hynny aethant i Catford. Tua dwy flynedd yn ol gafaelodd y cancr yn ei wyneb ef. Bu dan driniaeth feddygol yng Nghlaf- dy Bartholomew, Llundain, am wythnosau. Aeth yn raddol waeth, a bu yn ddioddefydd mawr iawn am y saith mis diweddaf. Gwnaeth ei briod garedig a'i feddyg galluog eu rhan iddo yn ei gystudd. Cafodd oll- yrjgdod o'i waeledd fore Saboth, Ionawr 23, ac efe ond tair-ar-ddeg-ar-ugain mlwydd oed. Brawd addfwyn, tawel, dioddefus, a chref- yddol oedd efe. Disgynai o gyff enwog ar ochr ei .dad a'i fam. Bydd enw ei daid, John Jones, Maeswallter, yn wyrddlas yn ardal y Brychgoed dros lawer oes. Cedr- wydden gref ym mynydd Duw ydoedd. Mae ein nain, Mrs. Morris, Brynaman, Sir Gaer- fyrddin, byw eto yn diif ac iraidd yn ei henaint.1 Claddodd^Mr. Jones ei unig ferch yr Hydref diweddaf yn Godstone, Surrey ac yn yr un bedd a hi y gorchymynodd gael ei gladdu. Bore Iau, Ionawr 27, aethpwyd a'i gorff i'r gladdfa. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan ei weinidog, y Parch. D. C. Jones, Llundain. Saif eglwys blwyfol God- stone ar dwyn yn un o lanerchau harddaf Lloegr. Diau fod harddwch y fro dawel yn gymorth i'w weddw, ei unig frawd, a'i fodryb, i ffarwelio a'i weddillion gan gredu ei fod ef a'i eneth fach yn iach mewn bro o harddwch digymar-y nef. Boed nawdd Duw i'w weddw ieuanc a'i mab bychan, a'i frawd a'r perthynasau Iliosog yn nydd eu trallod a'r storm. BORO'Nos Lun, Ionawr 24, bu y prif- fardd Machreth yn darlithio i Gymdeithas Lenyddol y Boro' ar Foes-ddysg a Moesau y Mabinogion." Cafwyd cynulliad Iliosog a darlith addysgiadol goeth. Dengys y ddar- lith hon o'r Mabinogion nad barbariaid disyniad am egwyddorion o iawnder, cared- igrwydd, hunanaberth, gwobr, a chosb, byd arall, a gallu uwchanianol yn rheoli mewn bywyd oedd y Prydeiniaid boreuol, ond llwythau ym meddu gwybodaethau bydol, meddyliol, ac ysbrydol. Creodd awydd dwfn yn y gynulleidfa i wybod mwy o hanes yr Iberiaid, y Goideliaid, a'r Brythoniaid yn yr ynysoedd Prydeinig. Ganad beth a roddodd y Saxoniaid i ni yr Iberiaid a'r Goideliaid roisant iddynt hwy grefyddolder natur a defnyddau goreu eu llenyddiaeth. Mawr y sarhau sydd wedi bod ers daufis neu dri ar y Celtic fringe; ond y gwir yw mai y Celtic fringe yw iachawdwriaeth Prydain heddyw fel ymhob oes Beth sydd yn y Sais yn fawr heblaw ei fol, ei frol, a'i frychau ? Pwy all enwi Sais gododd i enwogrwydd rhinweddol mewn unrhyw oes neu wlad heb fod ynddo waed y Celtic fringe ddirmygir ganddo ? Brath i lygad y Sais yw gweled y Celt gorchfygedig ganddo ef eto yn llywodraethu Prydain. Astudiwn hanes ein hynafiaid-byddwn ffyddlon i'n dyheuadau, a galluogir ni i fod yn athrawon i'r Saeson. Codwn y Sais i fod yn rhywbeth anrhaethol uwch na cheg a bol. BARRETT'S GROVE.—Mae Concert Barrett's Grove" erbyn hyn yn hen sefydliad. Y cyngerdd eleni oedd y pedwerydd a thri- ugain, a chymerodd le nos Iau, Ionawr 27, ac fel arfer yr oedd o'r radd flaenaf, a'r cantorion oil mewn hwyl rhagorol. Canwyd gan Miss Gertrude Hughes, Miss Tilly Bodycombe, Mr. Herbert Emlyn, a Mr. W. J. Samuell, ac adroddwyd gan Miss Ceinwen Price, yr hon sydd yn fuan hynodi ei hun ymyd areitheg. Cyfeiliwyd gan Mrs. Nellie Jones a Mr. Arthur Emlyn. Rhoddodd yr oil foddhad cyffredinol. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. Tudor Jones, Fulham, a chyfeiriodd yn ei araith at y cysylltiad oedd rhwng yr Eglwys yn Barrett's Grove a'r diweddar Gohebydd," yr hwn, drwy ei ysgrifau i'r wasg, a wnaeth gymaint ynglyn a dyrchafiiad cenedl Cymru. Diolchwyd gan y Parch. E. T. Owen, Battersea, i'r oil oedd wedi cymeryd rhan, yn enwedig y merched oedd wedi paratoi y danteithion. Mae gennym y boddhad befyd o gofnodi caredigrwydd Mr. a Mrs. Williams, Allen Road. Pythefnos yn ol rhoddwyd ganddynt, fel y mae yn arferol bob blwyddyn, d6 rhagorol i aelodau yr Ysgol Sul, a chafwyd ar ol hynny gyfarfod amrywiaethol, o dan lywyddiad Mr. Williams, Brighton Road.
[No title]
Paham y collodd y Rhyddfrydwyr yw testyn erthygl yn un o'r newyddiaduron Toriaidd, ond gan fod mwyafrif o dros chwech ugain gan y Rhyddfrydwyr a'r Gwyddelod ar gefnogwyr Ty'r Arglwyddi, prin yr ydym yn gweled lie mae'r colli" yn dod i fewn.
CWRDD BLYNYDDOL SYR JOHN PULESTON.
CWRDD BLYNYDDOL SYR JOHN PULESTON. Un o uchelwyliau ymysg Cymry Dwyrein- barth Llundain yw'r wledd flynyddol a sef- ydlwyd amryw flynyddoedd yn ol gan y diweddar Syr John Puleston, ac er fod yr hen arwr hwnnw wedi cilio i unigedd y glyn. Y mae ei enw a'i goffhad mewn bri gan ei gydwladwyr o hyd, a chedwir y cyfarfod blynyddol hwn gyda chryn lwyddiant. Ar nos Iau, Ionawr 27ain y cynbaliwyd y cwrdd eleni yn y Lycett, Mile End Road. Daeth cynulliad da ynghyd (er yn anffor- tunus yr oedd amryw gyfarfodydd ereill ar yr un noson). Ar ol y te da, cafwyd y cyfar- fod cyhoeddus dan lywyddiaeth Mrs. Morris a Mrs. Brenton, dwy ferch i'r diweddar Syr John. Ar ol canu "0 Arglwydd galw eto." Gweddiwyd gan Mr. Edmund Evans, yna traddodwyd anerchiadau rhagorol gan y Parchn. J. Machreth Rees, J. Crowle Ellis, J. Humphreys (W.), a D. Tyler Davies, ac adroddiadau rhagorol gan Mr. Eddie Evans. Yr oedd y gerddoriaeth hefyd o'r radd oreu. Hynod swynol oedd Miss Gladys Byrd, ac yr oedd wedi darparu caneuon Cymreig erbyn y tro hwn. Yr oedd deuawd Mr. a Miss Maggie Davies (o deulu Mr. Llewelyn Davies) yn hynod o dda, a chafwyd encore. Datganodd Mr. R. Ellis Williams, Willesden, "Rock of Ages" a "Shepherd of Souls" nes swyno pawb, a chredwn mai nid hwn fydd y tro olaf iddo y mae iddo ddyfodol disglair. Yr oedd Mr. Bronant Jones, fel arferol, yn nodedig o dda, ac felly cyfeiliant Miss Lucreta Jones a Miss Maggie Davies, a J. W. Lewis gyda'r organ. Sylwyd yn ystod y cyfarfod fod lie ambell un yn wag eleni, a theimlid bwlch wrth golli gwedd garedig Syr John Puleston, mor garedig ar hyd y blynyddau! Hyfryd oedd clywed gan Mrs. Morris fod draft wedi ei adael gyda'r Banker ar gyfer gwibdaith i Epping Forest yn flynyddol, a sicrwydd fod y cyfar- fodydd i barhau yn flynyddol. Cynygiwyd ac eiliwyd y diolchiadau arferol gan Mr. Thomas Jones, y cenhadwr hynaf, Mri. Edmund Evans, a'r Parch. W. T. Watkins. Boddhaol, calonogol, ac o radd uchel oedd y cyfarfod o'r dechreu, ac edrychid ymlaen am bar had y cyfryw. Yr oedd yn galondid neilltuol i Mr. Phillips a'i gynorthwywyr yn Silver Street, lie y cynhelir gwasanaeth y Saboth a nos Fercher. Buasai yn dda pe gallesid trefnu neuadd gyffelyb i'r cenhadon ereill, a chredwn y byddai yn dda gan y cenhadon gael pob cynorthwy tuag at leddfu anghen- ion eu cydgenedl y deuant i gysylltiad a hwy, ac y mae llawer o honynt. Yr oedd y cen- hadon oil yn y cwrdd. Dymunwn bob bendith a llwydd i deulu Syr John am eu caredigrwydd. MAELOR.
Advertising
THE LONDON WELSHMAN AND KELT (CELT LLUNDAIN). A WELSH WEEKLY NEWSPAPER. Established 1895. The Official Organ of the London Welsh Community. TRADE ADVERTISEMENTS. Displayed. Per insertion :— Per Inch, in Column Half Column. 15/- Column 1/8/0 „ Page 4/0/0 Reduction for a series oj 13 or more insertions Special Position by Arrangement.
---------CYMRU A'l HAELODAU.
gydag yn agos i naw mil yr un. Ym Merthyr, lie yr oedd dwy bleidlais gan bob etholwr, yr oedd y Radical yn 10,692 uwch- law y Tori, ac yn Morganwg llwyddodd Mr. Tom Richards i guro ei wrthwynebydd yntau gyda 10,250 o bleidleisiau. Y gwr a lwyddodd i ddianc gyda'r mwyafrif lleiaf oedd Mr. J. D. Rees, yr hwn, gyda 13 o bleidleisiau, a gadwodd ei sedd yn ddiogel. Maldwyn, Flint, a Bwrdeisdrefi Penfro oedd yr unig leoedd lie 'roedd y mwyafrif islaw mil, ac yr oedd cyfanrif y mwyafrif yn y 33 etholaeth yn 144,111, sef uwchlaw pedair mil yr un ar gyfartaledd. Gyda dau neu dri o eithriadau yr oedd yr ymgeiswyr Toriaidd y rhai goreu ellid osod ar y maes, a phe buasai Cymru wedi cael gwaredaDatgysylltiad o'r rhaglen wleidyddol mae'n sicr y buasai hanes arall i'w adrodd, ond tra pery y mater hwn yn brif bwnc y bobl, ofer yw siarad am na Diffyndollaeth na Llynges gref, a phob rhyw sothach cyffelyb a deflir gyda'r fath lwyddiant ger bron yr etholwyr Seisnig.