Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

[No title]

CWRDD BLYNYDDOL SYR JOHN PULESTON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CWRDD BLYNYDDOL SYR JOHN PULESTON. Un o uchelwyliau ymysg Cymry Dwyrein- barth Llundain yw'r wledd flynyddol a sef- ydlwyd amryw flynyddoedd yn ol gan y diweddar Syr John Puleston, ac er fod yr hen arwr hwnnw wedi cilio i unigedd y glyn. Y mae ei enw a'i goffhad mewn bri gan ei gydwladwyr o hyd, a chedwir y cyfarfod blynyddol hwn gyda chryn lwyddiant. Ar nos Iau, Ionawr 27ain y cynbaliwyd y cwrdd eleni yn y Lycett, Mile End Road. Daeth cynulliad da ynghyd (er yn anffor- tunus yr oedd amryw gyfarfodydd ereill ar yr un noson). Ar ol y te da, cafwyd y cyfar- fod cyhoeddus dan lywyddiaeth Mrs. Morris a Mrs. Brenton, dwy ferch i'r diweddar Syr John. Ar ol canu "0 Arglwydd galw eto." Gweddiwyd gan Mr. Edmund Evans, yna traddodwyd anerchiadau rhagorol gan y Parchn. J. Machreth Rees, J. Crowle Ellis, J. Humphreys (W.), a D. Tyler Davies, ac adroddiadau rhagorol gan Mr. Eddie Evans. Yr oedd y gerddoriaeth hefyd o'r radd oreu. Hynod swynol oedd Miss Gladys Byrd, ac yr oedd wedi darparu caneuon Cymreig erbyn y tro hwn. Yr oedd deuawd Mr. a Miss Maggie Davies (o deulu Mr. Llewelyn Davies) yn hynod o dda, a chafwyd encore. Datganodd Mr. R. Ellis Williams, Willesden, "Rock of Ages" a "Shepherd of Souls" nes swyno pawb, a chredwn mai nid hwn fydd y tro olaf iddo y mae iddo ddyfodol disglair. Yr oedd Mr. Bronant Jones, fel arferol, yn nodedig o dda, ac felly cyfeiliant Miss Lucreta Jones a Miss Maggie Davies, a J. W. Lewis gyda'r organ. Sylwyd yn ystod y cyfarfod fod lie ambell un yn wag eleni, a theimlid bwlch wrth golli gwedd garedig Syr John Puleston, mor garedig ar hyd y blynyddau! Hyfryd oedd clywed gan Mrs. Morris fod draft wedi ei adael gyda'r Banker ar gyfer gwibdaith i Epping Forest yn flynyddol, a sicrwydd fod y cyfar- fodydd i barhau yn flynyddol. Cynygiwyd ac eiliwyd y diolchiadau arferol gan Mr. Thomas Jones, y cenhadwr hynaf, Mri. Edmund Evans, a'r Parch. W. T. Watkins. Boddhaol, calonogol, ac o radd uchel oedd y cyfarfod o'r dechreu, ac edrychid ymlaen am bar had y cyfryw. Yr oedd yn galondid neilltuol i Mr. Phillips a'i gynorthwywyr yn Silver Street, lie y cynhelir gwasanaeth y Saboth a nos Fercher. Buasai yn dda pe gallesid trefnu neuadd gyffelyb i'r cenhadon ereill, a chredwn y byddai yn dda gan y cenhadon gael pob cynorthwy tuag at leddfu anghen- ion eu cydgenedl y deuant i gysylltiad a hwy, ac y mae llawer o honynt. Yr oedd y cen- hadon oil yn y cwrdd. Dymunwn bob bendith a llwydd i deulu Syr John am eu caredigrwydd. MAELOR.

Advertising

---------CYMRU A'l HAELODAU.