Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

TY'R GLEBER.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TY'R GLEBER. [GAN AELOD Y MAESDREFI]. Wele ni eto yn ol wrth ein gorchwylion. Nid yn hollol, fel cynt, mae'n wir, ond yn gatrawd hynod ur ol ar ran Cymru. Diwrnod i adrodd helyntion ac i ysgwyd llaw fu ddydd Mawrth diweddaf pan alwyd ni ynghyd i ddechreu gwaith y tymor. Yr oedd y prif arweinwyr yn eu lleoedd, a daeth cynrychiolwyr Cymru yno yn llios- ocach na'r disgwyliad. Yr oedd yn flin gennyf weled lleoedd Syr Francis Edwards yn wag, a deall fod Clement Edwards heb anghofio ei gurfa yntau, ac yn teimlo yn dra aiomedig. Er hynny, y mae dau lencyn glew wedi cymeryd eu seddau, ac ni ddylai Cymru fod ar ei cholled o'r cyfnewidiad am y tymor presennol. Un garw yw'r Sais am Flurfiau a Defodau. A dyna fu ein tynged ar ddydd cyntaf yr agoriad, sef myned drwy yr hen seremoniau a gydnabyddir. yn angenrheidiol ar ddechreu tymor. Drwy yr wythnos byddis yn tyngu llwon o ffyddlondeb i'r teyrn, ac yna ar y Llun, daw Araith y Brenin i'n gosod oil mewn hwyl dadlu. Mr. Thomas Burt, yr hen aelod dros lowyr y Gogleddbarth yw ein tad ni oil yn awr. Efe yw'r hynaf yn y Ty, wedi eistedd ynddo yn gyson am 36 mlynedd yn gweithio ar ran y gweithiwr a'r gormesedig. I'w ran ef y daeth y gorchwyl o gynnyg pwy oedd i fod yn Llefarydd am y tymor. Wrth reswm nid oedd un gwr yn fwy addas i'w ddyrchafu i'r brif sedd na Mr. J. W. Lowther, a chefnog- wyd hwn gan Mr. Chaplin-un arall o'r hen ffosiliaid sydd ar ol. Wedi i "Jimmy" gymeryd ei sedd, llongyfarchwyd ef gan Mr. Asquith a Mr. Balfour, ac ymhen ychydig cawsom oil ryddid i fyned i fwynhau ein hunain am y gweddill o'r dydd. Bu raid cynnal rhagbrawf o'r parti Cym- reig yn y Lobby, ac argoeliodd y cyfan fod tymor lied fwyiog yn ein haros. Golyga hyn y bydd angen am ein presenoldeb yn llawer mwy ami nac y bu yn y flwyddyn ddiweddaf. Ac y mae hyn yn debyg o wneud y gwaith yn faich mawr i rai o honom. Gwelais Clement Edwards yn un o'r clybiau nos Fawrfch, a deallaf ei fod wedi gwneud cais am archwiliad ar bleidleisiau Bwrdeisdrefi Dinbych. Y mae amryw o bobl farw wedi pleidleisio yn ol fel yr hys- bysir iddo. Bydd yn ddyddorol gwylied y canlyniadau. 0 ran fy hunan, credaf na wneir fawr o lesbad drwy offerynoliaeth archwiliad o'r fath. Siomiant cyffredinol i'r blaid ddydd Mawrth oedd deall na chwanegwyd un o'r Cymry i swydd bwysig yn y Weinyddiaeth. Gall fod un neu ddau i'w ddewis i'r man- swyddau, ond ni thycia hynny ddim. Rhaid i fechgyn Cymry hawlio eu lie Dyna'r unig ffordd i lwyddo yn y byd gwleidyddol!

Advertising

[No title]

Advertising