Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
Ar ol ei erlid am hir amser gan adran o Lys y Brifysgol yng Nghymru, y mae Syr Isambard Owen wedi datgan ei fwriad i ymddiswyddo o fod yn Is-Ganghellor y Brifysgol. Ceir gweled a fydd rhai o'i erlidwyr yn awyddus am esgyn i'w le Bu nifer liosog o etholwyr Cymreig i lawr yn yr Hen Wlad ar adeg yr etholiad diweddaf yn pleidleisio dros eu dewis- ddynion. Gan fod eu rhif mor fawr, onid doeth fyddai i'r naill blaid a'r llall gael rhestr flynyddol o'r rhai hyn er mwyn hwylysu y gwaith etholiadol yn y gwahanol siroedd. Ond hwyrach y rhoddir terfyn ar yr arfer hwn cyn pen ychydig amser.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. YR AELODAU NEWYDD.—Daeth gwyr y Senedd yn ol at eu gwaith yr wythnos hon, a rhoddwyd croesaw cynnes i'r gatrawd Gymreig, yn enwedig yr aelodau newydd perthynol i bob plaid. GWYL DDEWI.-Nid yng ngwesty'r Cecil y cynhelir y wledd Genedlaethol eleni, eithr yn y Trocadero, gan ei fod yn lie mwy cyf- leus. Ceir y manylion mewn colofn arall. SENEDD GYMREIG.—Bu raid cwtogi ein hadroddiad am gyfarfod cyntaf Senedd Cymru," gaed yn Wilton Square un noson yr wythnos ddiweddaf. Arweiniwyd y pleidiau gan Mri. Dafydd Rhys—yr ymgeis- ydd tros Ddwyreinbarth Dinbych-a Mr. T. Huws Davies. Cefnogwyd y rhai hyn gan lu o areithwyr hyawdl, megys Mri. Goronwy Owen, M.A., Mr. Wyn Wheldon, Mrs. J. Winton Evans, Mr. J. 0. Francis, ac ereill, a thystiai'r dorf i'r cyfarfod fod yn llwyddiant mawr. Ar derfyn y dadlu, diolchwyd i'r llywydd gan y Parchn. G. H. Havard a Mr. W. Evans. YN Y DDAMWAIN.—Bu ein cydwladwr Mr. Roberts, Honor Oak, mor anffodus a chael ei ddal yn y ddamwain yn Stoats Nest y dydd o'r blaen, ac anafwyd ef a'i briod yn bur drwm. Da gennym, er hynny, ddeall eu bod allan o berygl yn awr. Y TABERNACL. Caed noson seneddol ynglyn a Chymdeithas y Tabernacl nos Sadwrn ddiweddaf, pryd yr ymdriniwyd a holl helyntion y dydd. Arweiniwyd y Rhyddfrydwyr gan Mr. Watkin Jones; y Toriaid gan Mr. D. Jones, B.A. y Gwydd- elod gan Mr. Jack Edwards, a phlaid Llafur gan Mr. Reynolds. Bu yno ddadlu brwd ar Araith y Brenin" am dros ddwy awr, ac yn y diwedd trowyd y Rhyddfrydwyr o'u swydd trwy bleidlais y blaid Wyddelig! Llefarydd y noson oedd Mr. W. Llewelyn Williams, M.A. Y SAIS A'R ErsTEDDFoD.- Y mae'r Eis- teddfod yn mynd yn fwy poblogaidd bob dydd ymhlith y Saeson, ac y maent yn gwneud y gore o honi. Nos Iau ddiweddaf cynhaliwyd Eisteddfod lwyddiannus dros ben yng nghapel Anibynol Oaklands, Ux- bridge Road, Shepherd's Bush. Gwr ieuanc o Gymro, y Parch. R. G. Davies, ydyw gweinidog yr Eglwys lwyddiannus hon, a Chymry oedd yn rheoli'r lie yn yr Eisteddfod yno. Y Cadeirydd ydoedd Mr Philip Williams, Earl's Court, a thraddododd araith bert dros ben. Dywedodd wrth y Saeson am wneud yn fawr o'r Eisteddfod, am ei bod yn hen sefydliad anrhydeddus dros ben: gwenodd brenhinoedd a breninesau arni yn ei thro. Yng Nghymru, bu'n famaeth i werin ddiwylliedig, ac y mae'n barod i wneud yr un peth oddicartref ag a wnaeth ymhlith ei phobl ei hun. Gresyn fydd i neb geisio mesur llwyddiant yr Eisteddfod oddiar safbwynt ariannol. Ardderchog! Beirniad y gerddoriaeth oedd Mr. Dan Price, a phwyswyd yr adroddiadau gan y Parch. Francis Knoyle. WALHAM GREEN.—Da gennym ddeall fod yr achos yn y lie hwn yn myned ar gynnydd, a deallwn fod yr Ysgol Sul yn y lie yn cael cefnogaeth gyffredinol yr aelodau. Yr arolygwr am eleni yw Mr. Rhys T. Williams, yr hwn a draddododd yr annerch a ganlyn i'r Ysgol y Sul diweddaf Y mae yn llawennydd i ni ar ddiwedd y flwyddyn fod yr Ysgol Sul, nid yn unig yn dal ei thir mewn nifer a gweithgarwch, ond hefyd wedi dangos cynnydd o bump yng nghyfartaledd presenoldeb ar y flwyddyn 1908, ac ymhob adran yn dwyn mawr sel dros y Beibl a'i esboniadaeth. Prif nodwedd ein heglwys yw yr Ysgol, ac y mae hyn yn arwydd digamsyniol o gryfder a thyfiant. Yr ydym yn hynod o ffodus i gael bugail sydd yn cyd- nabod yr Ysgol yn athrofa y Genedl, ac i raddau. mawr priodolaf ei Ilwyddiant yn ystod y flwyddyn ddiweddaf i ddylanwad a gofal Mr. Davies Da iawn gennyf am yr ymdrechion neilltuol wneir i sicrhau lie priodol i'r iaith Gymraeg yn nos- barthau yr Ysgol ac ar ein haelwydydd, a hyderaf y parheir drwy bob moddion megys gwobrwyon, &c., i roddi arbenigrwydd ar ein hiaith, ac i greu am- gylchedd ieithgarol yn y t,5T a'r capel. Carwn yn lawr iawn weled mwy o gefnogaeth yn cael ei roddi i gyhoeddiadau ein Cyfundeb. Fe fydd hyn yn cynorthwyo gyda gwaith y Capel a'r Ysgol, ac yn arwain ein meddyliau i ymgodymu a materion pwysfawr ac adeiladoi. Diolchaf yn gynnes i chwi am bob caredigrwydd yn ystod y flwyddyn, a dymunaf am y llwyddiant hwnn;v a hawlia y Sefydliad sydd yn geidwad ffydd. ac Iaith Cenedl y Cymry." EAST HAM. -Cafwyd noson hynod ddydd- orol yn Sibley Grove nos Iau, 10fed cyfisol, pryd y daeth nifer fawr ynghyd i fwynhau gwledd o ddanteithion, &c., rhoddedig gan Mr. a Mrs. D. Evans, Plashet Lane. Cadeir- iwyd yn fedrus gan Mr. J. Owen Jones, Bank House, ac aethpwyd trwy raglen faith o ganu, adrodd, cystadlu, &c. Cafwyd nodau swynol y gramophone gan Mr. Wm. Evans, Beckton. Enillwyd y wobr am y farddoniaeth i'r wledd gan Mr. D. Evans, Wood Grange Road. Cafwyd casgliad sylweddol tuag at gael llyfrau i'r Ysgol Sul. Cynygiwyd y diolchgarwch gwresocaf i'r Cadeirydd am lywyddu, ac i Mr. a Mrs. Evans am eu caredigrwydd yn rhoddi y danteithion. Eiliwyd gan Mr. W. Griffiths. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." BORo'Cynhaliodd y Gymdeithas Len- yddol yn y lie uchod ei chyngerdd dau-fisol nos Iau, Chwefror 10, dan lywyddiaeth Mr. T. Felix, Holborn. Cymerwyd rhan yn y canu, adrodd, a'r gerddoriaeth offerynol gan Misses Blodwen Hodges, Lizze Ann Harries, Marie Evans, Irene Felix, Godfray, Jenny Evans, Ethel Edwards, Jennie Jones, A.R.C.M., Sallie Jenkins, a Mrs. Lottener,. Mri. John Islwyn Lewis, Trevor Evans, E. D. Evans, a John Myrddin Lewis. Cafwyd hefyd wledd o ddanteithion yng nghanol y cyngerdd dan ofal Miss Jenny Evans (New North Street), Miss Maggie Jones (Fenchurch Street), ac ereill. Cafwyd cyfarfod ardderchog. Gwnaeth Mr. Felix gadeirydd rhagorol. Ni ddaeth o ardal Talybont erioed ddyn mwy egwyddorol. Boed iddo oes faith yn y dref i fod yn ddylanwad moesol cryf i noddi ac arwain yr oes sydd yn codi.—Nos Fawrth, Chwefror 15, bu dadl boeth yn y Boro' rhwng Cym- deithas Lenyddol y Boro' a Chymdeithas Lenyddol Falmouth Road. Llywyddwyd y cyfarfod gan Lywydd Cymdeithas y Boro'. Testyn y ddadl oedd, "Pa un a'i brenhin- iaeth a'i gweriniaeth yw y Surf oreu i lywod- raeth gwlad ?" Dadleuodd y Boro' mai brenhiniaeth, a Falmouth Road mai gwerin- iaeth. Mr. D. Tysilian Jones arweiniodd y Boro', yn cael ei gynorthwyo gan y Mri. W. M. Evans, T. Evans, E. D. Morgan, a J. T. Davies. Mr. J. W. Edwards arwein- iodd Falmouth Road, yn cael ei gynorthwyo gan Mri. J. Hughes, Richards, Esmond Evans, a Mrs. Hughes. Cafwyd dadl deg mewn ysbryd caredig, a dywedwyd llawer o bethau rhagorol o bob tu. Cafwyd pleidlais ar y diwedd. Brenhiniaeth orfu o ychydig. Cyfarfod rhagorol ydoedd drwyddo. UNDEB GWEINIDOGION CYMREIG LLUNDAIN. —Cynhaliodd yr undeb uchod ei gyfarfod misol, Chwefror 14, yn y Boro', dan lywydd- iaeth y Parch. F. Knoyle, B.A. Datganwyd cydymdeimlad yr Undeb a Mr. a Mrs. Tyler Davies, Clapham Junction, yng ngwyneb eu pryder drwy gystudd eu plant. Enilla Mr. a Mrs. Davies le cynnes yn serch
"SHIRGAR."
hanesydd ydoedd, teimlodd mai doeth fyddai iddo baratoi araith cyn dod i'r wledd. Er ei hyfforddiant, darllennodd eiriau yr Hen Fyrddin fel yr hanesydd cyntaf a hynotaf y Sir, ac er ei fraw, darllennodd yno am brif dref y Sir- Caerfyrddin cei oer fore, Daear ath lwnc, daw dwr ith le. Aeth ias o ddychryn trwy ei wythiennau pan ddarllennodd hyn, a throdd oddiwrtho at Gerallt i gael rhywbeth am hanes Llan- elly, ond tystiodd hwnnw wedyn mai pentref bychan yn agos i Kidwelly oedd tref yr alcanwyr yn yr oes honno. Wedi deall fod yr awduron lleol yn siarad mor amharchus o'r hen Sir, gwelodd ef mai'r ffordd oreu oedd iddo siarad ei brofiad personol am y Sir a'i phobl, a theimlai yn llawen wrth eu gweled yn ymgynull i fawrygu eu hen fro, canys wrth garu eu hardaloedd genedigol yr oedd iddynt ddod yn wladgarwyr priodol yn y diwedd. Atebwyd ar ran y Sir gan Miss Stepney, yr hon, mewn araith fer, ddat- ganodd ei hoffter at y Sir a'i thraddodiadau, ac ategwyd syniadau y foneddiges gan Mr. W. Llewelyn Williams, yr hwn a gyfeiriodd at brif gyfnodau hanes y Sir o'r amser boreuaf hyd yn awr gan sylwi ar rai o blant athry- lithgar y Sir, a'r prif gynyrchion llenyddol roddasant i genedl y Cymry." I Mr. Evan Griffiths y rhoddwyd llwnc- destyn Yr Ymwelwyr," a sylwodd mai un o nodweddion pobl Sir Gaerfyrddin oedd lletygarwch. Yn wir, yr oeddent yn ddiar- hebol am eu croesaw i ddieithriaid bob amser, a chredai fod y nodwedd honno wedi ei gwireddu yn eu gwaith yn croesawu nifer o ymwelwyr i'r wledd flynyddol hon. Rhagorai'r Sir yn ei phrydferthwch, ei glendid, a'i rhamantedd ar unrhyw Sir arall yn ei dyb ef, ac nid y lleiaf o'i rhinweddau oedd ei moesgarwch at y rhai nad oeddent wedi cael y fendith o fod yn blant y Sir." Ar ran yr ymwelwyr, atebwyd mewn araith hyawdl a ffraeth gan y Parch. Herbert Morgan, yr hwn a gydnabyddai rinweddau lliosog y Sir, ac ychwanegai yn chwareus fod un rhinwedd arall yn perthyn i'r Shir- gar." Yr oeddent wedi cael prawf o hono yn y wledd, sef eu gwyleidd-dra (chwerthin). Yr oeddent hefyd yn parchu traddodiadau yr hen Sir, canys dywed un hen chwedl fod tref Caerfyddin i gael ei throi yn llyn o ddwr pan dderfydd un hen dderwen o fewn y dre, a chymaint oedd cred y bobl yn yr hen draddodiad fel y gwnaent eu goreu i gadw'r dderwen yw fyw drwy ei chylchynu a haiarn a phob dyfais arall. Mr. John Hinds gynygiodd Iechyd da'r Llywydd," ac atebwyd gan Mr. Williams. Yn ystod y noson trefnwyd rhaglen rag- orol o gerddoriaeth i ddyddori'r cwmni bob yn ail a'r areithiau. Canwyd gan Miss Amy Evans, Miss Tilly Bodycombe, Mr. Gwynne Davies, Mr. Tom Thomas, a Mr. Tim Evans, a chafwyd unawd ar y crwth yn fedrus iawn gan Mr. Philip Lewis. Gofalwyd am drefniadau'r wledd gan Mri. Tim Evans a T. B. Stephens. I weithgarwch diflino y rhai'n y dylid, yn bennaf, briodoli llwyddiant y cynulliad.