Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Ar ol ei erlid am hir amser gan adran o Lys y Brifysgol yng Nghymru, y mae Syr Isambard Owen wedi datgan ei fwriad i ymddiswyddo o fod yn Is-Ganghellor y Brifysgol. Ceir gweled a fydd rhai o'i erlidwyr yn awyddus am esgyn i'w le Bu nifer liosog o etholwyr Cymreig i lawr yn yr Hen Wlad ar adeg yr etholiad diweddaf yn pleidleisio dros eu dewis- ddynion. Gan fod eu rhif mor fawr, onid doeth fyddai i'r naill blaid a'r llall gael rhestr flynyddol o'r rhai hyn er mwyn hwylysu y gwaith etholiadol yn y gwahanol siroedd. Ond hwyrach y rhoddir terfyn ar yr arfer hwn cyn pen ychydig amser.

Am Gymry Llundain.

"SHIRGAR."