Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nid oes un Cymro wedi cael dyrchafiad ynglyn a'r cyfnewidiadau yn y Weinyddiaeth. Ofnwn fod yr aelodau Cymreigyn rhy was- aidd i'r Blaid Ryddfrydig ar hyn o bryd! Mae Syr Alfred Thomas yn dathlu ei benodiad fel arweinydd y Blaid Gymreig drwy roddi gwledd i'r aelodau ar ddechreu y tymor, yn ol ei arfer. Mr. Lloyd George fydd prif siaradwr y noson. Nid oes son am Ddatgysvlltiad yn araith y Brenin. Rhaid torri crib Ty'r Arglwyddi cyn byth y gellir gobeithio am ryddhau Oymru o'i Heglwys amhoblogaidd. Teimla aelodau Plaid Llafur fod safle'r Weinyddiaeth yn hollol foddhaol, a'r unig amod ofynant am eu cefnogaeth yw, fod Mr. Asquith i wthio y Gyllideb a phwnc yr Arglwyddi drwy y Senedd yn ddi-ymdroi Ceir dwy neu dair o fan etholiadau yr wythnos nesaf ynglyn a'r penodiadau newydd yn y Weinyddiaeth. Yn Llundain y gwelir yr ornest boethaf, lie nad yw mwyafrif Mr. Benn yn uchel iawn. Teimlir fod y seddan ereill yn dra diogel.

Advertising

COLLI'R LLWYBR.