Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. GWYL DDEWI.-Coffa Gwyl Ddewi fydd prif waith y dinasyddion yn ystod yr wyth- nos nesaf. YN YR EGLWYS GADEIRIOL. — Nos Lun cynhelir yr wyl fawr yn Eglwys Gadeiriol St. Paul a disgwylir torf fawr o wrandawyr yno. Dylid sicrhau tocynau ar fyrder os am eisteddle gyfleus mewn man y gellir clywed. CINIO'R CYMRY.—Nos Fawrth cynhelir y wledd Gymreig yn y Trocadero, a daw Mr. D. Lloyd George (y Canghellor), a llu o urddasolion ereill yno. Gwelir y manylion mewn colofn arall. GWLEDD FFRWYTHAU.—Drwy gynnal gwledd o ffrwythau y dethlir Gwyl Ddewi yn y Tabernacl, King's Cross, a bydd nos Sadwrn, Mawrth 5ed, yn uchel wyl ynglyn a Chym- deithas Lenyddol y lie. EISTEDDFOD Y TABERNACL.—Nos Sadwrn ddiweddaf bu Cymdeithas Lenyddol y lIe hwn yn cynnal ei heisteddfod flynyddol, a chafwyd noson ddiddan yn gwrando ar y gwahanol gystadleuon ymyd areitheg a chan. Beirniadwyd y cantorion gan Mr. Madoc Davies, A.R.C.M. yr adrodd ar ryddiaeth gan Parch. D. Tyler Davies, Clap ham y beirdd gan "Rhuddwawr"; y cyfieithwyr gan Mr. Goronwy Owen, M.A., a'r gwniadwaith gan Mrs. Wilfred Rowlands a Mrs. T. J. Evans. Cyfeiliwyd i'r gwa- hanol gerddorion gan Miss Sallie Jenkins, ac arweimwyd y gweithrediadau gan y prif- fardd Elfed. Mr. W. R. Owen oedd i lenwi'r gadair, ond yn anffodus nis gallai ddod i'r* wyl, a chafwyd cynrychiolydd campus iddo ymherson Mr. Watkin Jones, yr hwn a draddododd araith hwyliog i lonni'r dorf. YR ENILLWYR.—Yr oedd rhaglen faith o gystadleuwyr, a dyfarnwyd y goreuon fel a ganlyn:—Adrodd i blant (1), Miss Maggie Jones, (2) Miss Hannah Jones; ysgrifennu emyn ar y pryd (1) Hannah Jones, (2) Gladys Jones unawd i blant (1) Maggie Jones, (2) Miss Lewis a H. Jones yn gyd- radd; prif draethawd Amos," Mr. R. Wood, Boro'; can ddisgrifiadol o Saboth yn Llundain, Mr. Llew Hughes; ysgrif, Owen Myfyr," Mr. E. A. Evans; cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg, Mr. D. Hardy Williams; adroddiad i rai mewn oed, Mr. John Davies, Shirland Road unawd soprano, Miss Morfudd Rees, Radnor Street; unawd contralto, Miss Deborah Evans; unawd baritone, Mr. Cyrus Morgan, East Ham; unawd tenor, Mr. E. T. Morgan a J. Lewis Arnold yn gyfartal; gwniadwaith (1) Miss Maggie Evans, Wilton Square, (2) Miss Lizzie Evans, King's Cross; prif draeth- awd, Mri. J. Pugh a Stanley Davies; wythawd, parti Mr. E. T. Morgan araith tair munud, Miss May Williams, Holloway; dau englyn, "Ty'r Arglwyddi," Mr. R. Wood, Boro'. SHIRLAND ROAD.-Noson i'w chofio oedd nos Iau, 17eg o'r mis hwn, yn Shirland Road canys y noswaith honno y sef- ydlwyd gyda rhwysg a brwdfrydedd anar- ferol ac yn ol braint a defawd Yr anrhyd- eddus Urdd o Hen Lanciau." Ac i ddathlu yr amgylchiad rhoddwyd gwahoddiad cynnes i holl aelodau'r Gymdeitbas i wledd ardd- erchog ag oedd wedi cael ei pharatoi ar eu cyfer gan y Benedictiaid. Huliwyd y byrddau a phob math o ddanteithion yn ol dull yr Hen Lane." Daeth y Confirmed Bachelor o Harrow Road, Redmond Jones, y brodyr Rowlands, Jones Harcourt Street, a'r dihafal W. Griffiths yno yn gynnar yn y prydnawn i baratoi y wledd. Ac mor dda yr oeddynt wedi gwneud eu gwaith fel y tystiai rhai o'r rhyw-deg fod ganddynt ynghudd yn y gegin lie nad oeddynt hwy yn cael mynd i mewn iddo," un a'i chef y Savoy neu y Carlton Hotel. Wedi i bawb gael eu gwala a'i gweddill, a rhai o'r gwyr priod fwyta digon dros dranoeth, daethpwyd at brif waith y cyfarfod, sef sefydlu yr Urdd. Yr Arch-Dderwydd neu yn hytrach yr Arch Hen Lane o St. Paul's Churchyard a ddar- llenodd reolau aelodaeth, a gwahoddodd y gwyr dibriod i ddyfod ymlaen i ymuno. Y cyntaf i ymrestru, ac mor awyddus i wneud hynny a phe yn cymeryd ei sedd yn y Senedd, oedd John Davies, Harrow Road, ac ar ei ol daeth pob Hen Lane yn y lie. Wedi hynny cafwyd amser difyrus dros ben. Canodd y cor folawd bywyd Hen Lane gyda hwyl, a mar- wnad bywyd Hen Ferch yn hynod o dodd- edig. Wedi hynny ymwahanodd pawb i fyned i'w cartrefleoedd gan deimlo mai da, iawn oedd iddynt fod yn bresenol. Dylem ychwanegu fod rhai o'r hen lanciau yn eu sel dros yr achos wedi rhoddi y rhagleni, a bron yr oil o'r danteithion yn rhad ac am ddim. Gall unrhyw un a ddymuno gael copi o Siarter yr Urdd ond aijfon at y Bachelor of Experience," Mr. Moses Jones,. Notting Hill Gate. CLAPHAM JUNCTION. Dathliad Hanner Can Mlwyddiant genedigaeth Tom Ellis" oedd penawd y noson, dan nawdd y Gym- deithas Ddiwylliadol nos Fercher ddiweddaf. Llywyddwyd i sicrhau Mr. D. R. Daniel i anerch y Gymdeithas, ac ni ellid gwell, gan fod y darlithydd a'r arwr yn gyfeillion myn- wesol o faboed hyd fedd. Heblaw hyn, mae i arddull Mr. Daniel gyfaredd swynol-mor dawel, mor awgrymiadol, mor gyflawn. Germinating thoughts fyddai Sais yn eu galw wele hauwr a aeth allan i hau, Hau fu Mr. Daniel nos Fercher hadau addLed, wedi eu dethol yn ofalus. Er mor anwyl ganddo ei wron, nid ymgollodd rnewn an- soddeiriau ystradebol, eithr ymhob dim portreadodd i ni yn dawel a chywir wr ieuanc cydwybodol, ymroddgar, gonest, un yn caru ei genedl a'i delfrydau ac a fu byw nes argyhoeddi pawb fod ei galon yn ei eiriau. Argyhoeddiad ac ymroad, ynghyd a diwylliant y sylwedydd a'r efrydydd, oedd rhinweddau penaf Ellis, yn ol Mr. Daniel. Yn sicr cafodd y dyrfa oedd yn bresennol wledd o addfed ffrwyth, ac erys v braw- ddegau detholedig yn ysbrydiaeth "bur am gyfnod hir. Ychwanegwyd ychydig eiriau craff gan y Parch. Herbert Morgan, B.A., a. diolchwyd i'r darlithydd gan y Parch. D. Tyler Davies a'r Mri. James Evans a David Edwards. CHARING CROSS. Cynhaliwyd Cynhad- ledd Flynyddol Undeb Ysgolion Sabotholl Methodistiaid Calfinaidd Llundain yn Charing CroBS, nos Fercher, y 16eg cyfisol, y Llywydd, Mr. Jenkin Jones, Jewin, yn y gadair. Cyflwynwyd ystadegau yr ysgolion, am y flwyddyn ddiweddaf gan yr ysgrif- ennydd, y rhai a ddangosent leihad bychan, yn nffer yr ysgolheigion o'u cymharu 6'r flwyddyn o'r blaen. Rhif yr ysgolion per- thynol i'r Undeb yn awr yw 26. Tradd- ododd y Llywydd anerchiad grymus ac amserol ar ei ymadawiad o'r gadair ar Ddyledswydd yr Eglwys tuag at yr YsgoL Sabothol." Ysywaeth, ffyddloniaid yr Ysgol Sul yn unig oedd yn bresennol, ond hyderwn y bydd iddynt fyned a'r genadwri adref ganddynt i'r gwahanol eglwysi, er eu deffro i'w cyfrifoldeb tuag at y sefydliad ardderchog hwn. Mae y llywydd wedi bod yn un o golofnau yr Ysgol Sabothol yn Llundain ers blynyddau lawer, ac yr oedd yn llawn haeddu yr anrhydedd hon osodwyd arno.

A BYD Y GAN.