Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Jk B* T T TT STTFFX^XKD ■ ■ III# In any part of London and Suburbs with llfl I ) M RICH, GOOD KEEPING MILK III I III! DIRECT FROM THE FARMS. I f I | I 8 1 Over 50,000 Samples tested annually in our Laboratories. WHOLESALE ONLY. DAIRY SUPPLY CO., LTD., Chief Office: MUSEUM ST., LONDON, W.C.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Un ofnadwy yw y Bardd ar ol ei gyffroi, a'r ffordd effeithiolaf i yrru Bardd allan o'i go' yw gadael i wall argraffyddol redeg i'w gyfansoddiad! Ow r fath farddoniaeth glywir wedyn! Nid yw'r Groes o Gyswllt Ewinog na'r Draws Fantach yn hanner digon effeithiol i ddynodi'r iaith aruchel. Ac mae'n ddigon hawdd adnabod Bardd pan fydd d--l y wasg wedi sarnu ei gelfyddydwaith. Bydd ei wallt ar ei wrych am ddyddiau, a'i ocheneidiau yn dru- enus eu clywed. Dyna oedd profiad Rhisiart Maldwyn yr wythnos hon pan welodd un o'i englynion wedi ei andwyo drwy gamddodiad un lythyren. Dylai fy linell olaf i'r englyn cyntaf ar Dy'r Arglwyddi ddarllen fel hyn," meddai, mewn llais taranaidd, a'i lygaid yn melltenu tan uwchben y Gol. a'i weision I ni a'n hilion ein hawliau Pa gynghanedd, ie pa synwyr gramadegol, sydd mewn dweyd "I ni a'u hilion ein hawliau," a chan daro'r Macwy ar ei glopa, safodd yn her- feiddiol gan dyngu na chai yr un gwr du ond hynny o gyfle i lurgunio ffrwyth ei awen ef. Ar ol tawelu Rhisiart, dacw Llew Hughes yn codi ac yn cwyno nad oedd ei enw priodol yntau wedi ei osod dan y pennillion i Y Saboth yn Llundain, ac mai ffugenw yn yr Eisteddfod yn unig oedd 11 Brys- iog." Datganodd y Gol. ei ofid, a hysbysodd Bardd yr Offis y gofalai yn well am ei adran rhagllaw. Wedi cilio o'r rhai hyn, dacw ein hen gyfaill Sarnicol yn codi, ac yn ysbryd dyddiau'r gwan- wyn, pryd y mae pob calon ifanc yn llawn hwyl caru, wele ef yn eilio cfin fel hyn :— CANIG. Beth yw swyn dy fynwes di, Dodda'r galon ddur yn Ilyn ? Gwres yw ei gogoniant hi, Nid oer geinder marmor gwyn. O, nis gallaf fyth a byw Heb belydrau'th gariad di- Eangderau daear Duw- Anial ydynt hebot ti. Cyfyng iawn yw'r eang fyd Heb dy serch, anwylaf fun Ei holl aur a'i emau drud- Hebot, diwerth ynt bob un. Tyr'd anwylyd, rho dy fys Yn y fodrwy, wele hi Does yr un mewn llan na llys Eill dy garu fel myfi. Ac wrth eistedd i lawr addawodd droi yn awr ac eilwaith i'r cyfarfod pan ar ymweliad a'r Brifddinas. Ar ol i'r Beirdd ddistewi dacw un o'r Gramadeg- wyr newydd yn codi gan gondemnio yr arferiad wrthun o ddweyd cyfeilyddes, trysoryddes, &c., fel pe buasai yn amddiffynydd mawr i ferched y Suffrage yma. Dyma ei lith :— Goddefer i mi alw sylw at yr arferiad gwrthun o ychwanegu es' at ydd,' megys mewn geiriau fel y canlyn Llywydd, llywydd- es, Trysorydd, trysoryddes. Fu erioed y fath wrthuni! oblegid pe byddai'r olddod 'ydd' yn wrywol, nid yw ychwanegu 'es' ato ond yn gwneud y swyddog yn ddeuryw-yn wryw a benyw, megys pe y dywedid yn Saesneg gentleman, a gentlemaness. Y gwir syml yw, mai gweithredydd (doer or agent) ydyw ystyr 'ydd,' ac y mae mor briodol ei gymhwyso at fenyw ag ydyw at wryw. Os gwraig a fo'n cadeirio, cyfarcher hi'n gadeirydd, ac na ddyweder yr erthyl deuryw cadeiryddes." "Wflt i Ramadeg," gwaeddai'r Macwy. "Ni wna ond ein gyrru i ragor o anrhefn, canys pan fydd Mrs. Gol. yn dod ar ol ei gwr i'r swyddfa, bydd raid i ni ei chyhoeddi, Mae'r Golygydd am weled y Golygydd," a sut mae i ni osgoi ei bastwn pan yn ei gyfarch fel hyna Rhaid i ti ddysgu moesgarwch," ebai'r Grama- degwr, a galw un yn MRS a'r llall yn MR." "Dyna hi eto," ebe'r Macwy, "eisieu Seisnig. eiddio pob peth, ac arfer hen ddulliau dieithr yn lie bod yn blaen a syml fel yr hen Gymry Ond rhoddodd y Gol. daw ar yr ymdrafodaeth drwy ddweyd y cawsai'r sylwadau ei ystyriaeth ddifrifolaf. T. H. DAVIES.-Gan mai wythnos y Gwyliau yw'r wythnos nesaf, byddwn yn myned i'r wasg ddydd Mercher, felly boed i chwi anfon eich cynyrchion yn gynnar yn yr wythnos. D.H.E.—Ni wyddai'r argraffydd Cymreig mai talfyriad o Congregational oedd Cong, yn eich llythyr, a gwnaeth ef yn Long Church. Mae'n rhaid i ar- graffydd gael ei ddifyrwch weithiau. E R.D.—Bu raid gadael allan Ty'r Gleber yr Wyth- nos bon i roddi lie i bethau mwy pwysig. GOLEU'R LLOER (0 Ffrancaeg Verlaine). Goleuo'r wig Wna'r lleuad wen, Ac o bob brig I'r arian nen Dy lais a gwyd, F'anwylyd wyd !• Ar donau'r llyn, x Distaw eu su Gwêl gangau cryn Helygar ddu Alarus liw Awr breuddwyd yw Rhyw dyner, daith, Dangnefedd mawr O'r nefoedd ddaeth I'r byd i lawr Yng ngoleu'r lloer, Fendigaid awr! SARNICOL.
Advertising
miLK. 1 pf Barns; 1 round; shop £ 12; price £ 350« I 'J Another, Angel—15 Barns; price £ 250. GWYNFA, 376, CITY ROAD. E175 H. WILLINGS & CO., Recognised Agent & Valuers to the ltfilk Trade, 125, FLEET STREET, E.G. TELEPHONE: 150 HOLBORN. MILK Clapham-8 barns 4d.; pram shop.. 2140 MILK: Finsbury Pk.-9 barns 4d.; £ 7 shop 9135 MILK: Maida Vale-7 barns 4d.; P,10 shop £ 160 MILK: Ealing-10 barns 4d 96 shop C175 MILK Brixton-16 barns 4d.; £ 10 shop 2460 MILK: "Angel," N.—13 barns 4d.; 2,5 shop 2275 MILK Oxford St.-16 barns 4d.; 1 pram 210 shop 2450 MILK: Peckham-21 barns 4d.; 1 pram; 614 shop jE525 MILK Peckham-23 barns 4d.; 910 shop 2550 MILK: Bayswater-21 barns 4d.; £ 15 shop.. 2575 MILK: Islington-32 barns 4d.; 27 shop 2800 MILK: Bloomsbury-30 barns; 270 shop £850 MILK: Mile End-35 barns; 290 shop £ 1150 MILK: Kilburn-33 barns 4d.; good shop P,950 MILK: South-43 barns 4d.; 240 shop £ 1300 Many others. All parts and prices. WILLIAM DAVIES, Dairy and Transfer Agent to t4e Milk Trade, 160, HIGH HOLBORN (Drury Lane End). Milk, W.—110 gls. all 4d.; shop 280; Al busi- ness. £ 2100 Kensington.—100 gIs. all 4d.; shop £ 50 good 21800 S.E.-180 gls. daily; shop £ 25 excellent; calIE1700 100 gls. all 4d. shop 225 30 cows a beauty 21500 Marble Arch.-120 gls. shop 226; profitable 21000 Piccadilly.—44 gls. all 4d.; shop 230; call £ 550 E.C.-40 gls. 4d.; shop ZCIO; good cheap rent EIOO W.-24 gls. 4d.; shop £ 10 pram rent 235; call £ 240 18 gls. id.; shopJElO; rent 220; call quick Elio Harlesden.-13 gls. all 4d.; shop; pram call.. £ 100 Oxford St.—22 gls. 4d.; shop 215; very cheap call Great number of others in hand to suit Farmers, Capitalists, Companies, and everyoody from P,100 to 94,000. Also wonderful cheap and good Indoors to suit all Ladies, who cannot do better than to buy from Davies, the fair Agent. LONDON WELSH Rugby ootbaH Club SEASON 1909-10 PRESIDENT: J. MILSOM REES, ESQ., F.R.C.S. Last HOME Match of the Season, Saturday, March 19th. Neath v. London Welsh At the "HEATHFIELD" GROUND, TRINITY ROAD, WANDSWORTH COMMON, S.W. Five minutes from Wandsworth Common Railway Station (L.B. & S.C. Ry.). Frequent trains leave Victoria Station—1.30, 1.52, 2.0, 2.22, 2.33, 2.45, 2.58 p.m. LLAETH Cytnqdeb Mawrth. Llaeth am 6 neu 12 mis. (l Prynwch gan y Ffermwyr yn uniongyrchol, ac felly sicrhewch y prisiau iselaf. CLGrwareatir yr oil a ddanfonir i'r prynwyr. (LAm restr gyflawn o'r Ffermydd lie ceir y Llaeth puraf a goreu, a mwyaf addas i Lundain, anfonwch at W. H. EDWARDS, 15, LITTLE JAMES STREET, LONDON, W.C., Goruchwyliwr y Midland aqd Derbyshire Farmers' Association. BEAUCHAMP ROAD WELSH CHAPEL CLAPHAM JUNCTION -THE- 51nnuaZ Fea AND COMPETITION CONCERT Wednesday, April, 27, "10- Z:z SOLO COMPETITION (Test Piece). LEAD KINDLY LIGHT" (Pughe Evans) Novello, Berner St. W. (1) For the best rendering by Bass or Tenor. Prize Gold Medal. (2) For the best rendering by Soprano or Alto. Prize Gold Medal. _r,r'j,o.J Adjudicator EMLYN DAVIES, Esq. ..r-J.r- Recitation-" PLESER FAD Y NIAGRA" (Levi). 1st Prize, Gold Medal 2nd Prize, Silver Medal. Full particulars from the Secretaries—Mr. James Evans and Mr. Tom Jenkins, 507, Battersea Park Road, S.W.