Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CYFARFODYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFODYDD. CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Jewin, Mawrth 23. Llywydd, Parch. J. Thickens. 1. Dechreuwyd gan y Parch. W. R. Jones, Llan- frothen. 2 Cadarnhawyd cofnodion Cyfarfod Misol Chwefror. 3. Darllenwyd llythyrau (a) oddiwrth Mr. T. Roberts, Falmouth Road, yn cydnabod cydym- deimlad oherwydd colli ei dad (b) oddiwrth Mr. J. Burrell yn hysbysu ei fod wedi torri ei gysylltiad fel blaenor ac aelod yn eglwys Willesden Green, ac ei fod yn bwriadu ymadael a'r cyfundeb. Yng ngwyneb y genadwri hon oddiwrth Mr. Burrell, datganodd y C.M. ei ofid o herwydd y penderfyniad y daethai efe iddo; ond gohiriwyd derbyn y genadwri yn der- fynol, yn yr hyder y gwelai Mr. Burrell ei ffordd yn glir i'w hail-ystyried; (c) oddiwrth Mr. George Davison, Harlech, ysgrifennydd Pwyllgor Cenhed- laethol Cymreig i hyrwyddo dirymiad deddf y tlodion yn gwahodd y C.M. i gydweithredu a'r pwyllgor hwn. Barnwyd na fyddai yn briodol i'r C.M. fel corff i ymrwymo i gydweithredu a'r pwyllgor hwn i gyr- raedd yr amcan sydd ganddo mewn golwg. 4. Dat- ganwyd cydymdeimlad a Mr. E. W. Jones, Holloway, oherwydd marwolaeth ei frawd, ac a Mr. R. Humph- reys, Willesden Green, oherwydd marwolaeth ei fam yntau. 5. Enwyd y Parch. R. 0. Williams a Mr. R. Thomas, Charing Cross, i gynrychioli y C.M. yng nghymdeithasfa y Wyddgrug, Ebrill 19-21. 6. Ymddiriedwyd gweithredoedd Falmouth Road i ofal Mr. M. Morgan, a gweithredoedd Willesden Green i ofal Mr. O. Lloyd Owen. Penodwyd Mr. W. Hughes, Falmouth Road, yn ofalwr, tra yr agorid y gist. 7. Rhoddodd y Parch. D. Oliver rybudd y bydd yn y C.M. nesaf yn galw sylw at y priodoldeb o benodi ysgrifennydd sefydlog i gadw cofnodion rheolaidd o'r hyn ddylid ei cofnodi wrth agor y gist. 8. Gohiriwyd ystyried ceisiadau am fenthyg arian yn ddilog o'r gronfa fenthyciol hyd y C.M. nesaf. 9. Yn unol a'r rhybudd blaenorol, cynygiodd y Parch. J. E. Davies, M.A., eiliodd y Parch. S. E. Prytherch, a phasiwyd y penderfyniad canlynol- II Ein bod yn dymuno galw sylw at yr afreoleidd-dra sydd yn ffynnu yn ein plith gyda golwg ar drefniant y weinidogaeth Sabothol; ein bod yn gwasgu ar i'r eglwysi wneud eu trefniadau yn brydlon, cyn argraffu'r Cylch," a'u bod yn dymuno gwneud yn hysbys na fydd cyfnewid i fod o gwbl ond yn ol y cylch argraffedig os na ddaw hysbysrwydd yn ddigon buan, fel ag i allu cyhoeddi y Saboth blaenorol. 10. Cadarnhawyd gwaith y Pwyllgor Adeiladu yn awdurdodi eglwys Willesden Green, am resymau oedd yn cwbl foddloni y pwyllgor, i roddi i fyny i'r Ecclesiastical Commissioners ei hawl yn y Brondesbury Park site," ac i gymeryd darn arall o dir yn gwynebu Willesden Lane, gan eu hanog i fyned ymlaen gyda'r adeiladau newyddion mor ddiymdroi ag oedd modd, ar ol i'r cynlluniau gael eu cymeradwyo gan y pwyllgor. Derbyniwyd hefyd awgrymiad y pwyllgor fod y C.M. yn penodi cyfreithiwr i ofalu rhagllaw am reoleidd-dra gweith- redoedd meddiannau y Cyfundeb, y pwyllgor i ofalu am enwi personau cyfaddas i lenwi y swydd i'r C.M. i bleidleisio arnynt. 11. Penodwyd Mr. R. Lloyd, Clapham, yn lie Mr. R. M. Thomas, Hammersmith, i archwilio gyda Mr. Wm. Hughes, Falmouth Road, gyfrifon eglwysi dderbyniant grants o'r C.M. 12. Cydnabyddwyd yn serchog bresenoldeb y Parch. W. R Jones, Llanfrothen, a Mr. David Jones, Maes- yffynon; Ceredigion, ag efrydydd yn Caergrawnt. 13. Diweddwyd gan Mr. David Jones, Maesyffynnon.

PRIODAS MISS CASSIE DAVIES,…

PUBLISHERS' NOTE.