Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. E. T. OWEN, BATTERSEA RISE. Gorffenodd y gweinidog da uchod ei Aveinidogaeth yn Battersea Rise Saboth y Pasg, Mawrth 27ain, mewn trefn i weinidog- aethu i eglwys Saron, Llangeler, Sir Gaer- fyrddin. Cynhaliwyd cyfarfod i ganu yn iach iddo, yn Battersea Rise, dan lywyddiaeth y Parch. D. 0. Jones, nos Fercher, Mawrth 23ain. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Llywydd. Yna cafwyd can, Beloved, it is morn," yn dra swynol, gan Miss Jenny Hagger. Wedi hynny, siaradodd Mr. D. H. Evans, Abbeville Road, ysgrifennydd eglwys Battersea Rise o'i chychwyniad. Rhoddodd air da i Mr. Owen fel dyn, pregethwr a gweinidog. Mynegodd ddymuniadau da yr Eglwys a'r gynulleidfa i Mr. Owen yn ei faes newydd. Yna canodd Miss Morfudd Rees Golomen Wen," yn effeithiol a thlws odiaeth. Bu raid iddi wedi hynny ganu My Tears." Siaradwyd gan y Parch. J. Humphreys (W.), City Road, yn uchel iawn am Mr. Owen fel dyn o deimladau caredig a da. Adwaenai ef a'i rieni dros lawer o flynyddoedd. Dilynwyd ef gan Mr. B. Rees, Carthusian Street, yr hwn a draethodd ar waith y weinidogaeth efengylaidd. Dymun- odd bob llwydd i Mr. Owen yn Saron. Ar ol Mr. Rees siaradodd y Parch. J. Machreth Rees am waith Mr. Owen fyddai yn aros wedi iddo ef symud. Cyfeiriodd at waith gweini- dogion yn symud meusydd, ond fod eu gwaith yn para yn anileadwy. Dymunai yn dda i Mr. Owen. Rhoddodd boneddigesau yr eglwys yn Battersea Rise wledd o de, coffi, danteithion, a ffrwythau i'r holl gynulleidfa. Mwyn- hawyd y wledd hon gyda hwyl fawr. Yna can odd Miss Rachel Thomas "Roses" yn brydferth ac effeithiol dros ben. Siaradwyd wedi hynny gan y Mii. Jenkin Davies, trysorydd yr eglwys yn Battersea Rise; Samuel Davies, Trinity Road; ac Evan Jenkins, Queen's Road y tri yn edmygol o gymeriad, galluoedd, ac ymroddiad Mr. Owen. Daethpwyd wedi hynny at ran ddyddorol iawn, sef gwaith genethig ieuanc, Miss Ceinwen Jones, merch Mr. a Mrs. John Jones, 2, Bowtflower Road, yn cyflwyno dros yr eglwys yn Battersea Rise g6d lawn o aur i Mr. Owen yn anrheg sylweddol ar ei ymadawiad i Langeler. Cyflawnodd yr ,enethig y rhan hon o'r gwaith yn wir swynol. Derbyniodd Mr. Owen yr anrheg o'i Haw yn foesgar, a diolchodd i Miss Ceinwen Jones am dani, ac hefyd i'r Mri. D. H. Evans a J. Rowlands, yr rhai a fuont yn casglu ac i bawb oedd wedi cyfrannu at y dysteb. Rhoddodd Mr. Owen fynegiad i'r ffaith mai pobl garedig iawn y cafodd ef eglwys Battersea Rise a holl Gymry Llundain. Dymunai yn dda iddynt oil. Siaradodd Mr. Gomer Jones, Walham Green, cydysgri- fennydd Mr. Owen ynglyn a Gwyl Ddewi yn y City Temple eleni. Dymunodd ei les uwchaf yng Nghymru. Cafodd ef yn hy- waith a dymunol. Cyfansoddodd Mr. John Jones, 2, Bowtflower Road, ddau bedwarawd cyfaddas i'r amgylchiad, y rhai a gyflwynodd i'r Parch. E. T. Owen ar ei ymadawiad i Gymru. Teitlau y cyfryw ydynt, Fy anwyl Wlad" a "'Rwyn caru Cymru." Darnau tlysion ydynt, wedi eu hysgrifennu yn ofalus, ac yn llawn o deimlad calon. Canwyd hwynt yn felus ac effeithiol gan Miss B. Harries, Miss Jenny Hagger, Mr. John Jones, a Mr. John Myrddin Lewis. Rhodd- odd y gynulleidfa gymeradwyaeth uchel i'r darnau a'r datganiad o honynt. Gall canwyr gael hwyl fawr i'w canu eto. Canodd Miss Morfudd Rees "Hen Wlad fy Nhadau," a gweddiodd y Llywydd am fendith ar Mr. Owen yn ei faes newydd, ac ar yr eglwys ieuanc weithgar yn Battersea Rise. Cyfeili- wyd yn fedrus gan Mr. J. Islwyn Lewis, o'r Boro'. Nos Saboth, Mawrth 27ain, pregeth- odd Mr. Owen ei bregeth olaf fel gweinidog yn eglwys Battersea Rise. Daeth torf gref ynghyd i'w wrando. Boed nawdd y nef drosto ef a thros yr eglwys yn Battersea Rise.

A BYD Y GAN.

[No title]

Am Gymry Llundain.