Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. DILYN CAMRAU El THAD." Cywiro Camgymeriad. MR. GOL.-A welwch chwi yn dda ganiatau ychydig o'ch gofod i mi i gywiro y camhysbysiad a ymddangosodd yn y LONDON WELSHMAN, Ebrill 9fed,. tudal. 6, lie y dywedir fy mod i yn dilyn camrau fy nhad, trwy ddechreu pregethil," a fy mod "wedi gwasanaethu droion yn rhai o'r eglwysi Cymreig yn Lerpwl." Nid oes gair o wirisnedd yn hyn. Ni bum erioed yn pregethu yn un man; ac y mae gennyf lawer gormod o barch i syniadau fy nhad ar y mater hwn, ac yn enwedig i ddysgeidiaeth amlwg y Testament Newydd ar y mater i feddwl am bregethu. Tra yr wyf yn credu y gall merched fod yn ddef- nyddiol iawn mewn llawer o gylchoedd gyda chrefydd, yr wyf hefyd yn credu fod y Testament Newydd yn gwahardd yn bendant iddynt bregethu, a hynny nid am ryw resymuau perthynol i amgylchiadau pethau yng ngwlad Groeg yn yr oes apostolaidd, ond am resymau sydd yn parhau byth mewn grym, ac yr un mor gymhwysiadol at eglwysi pob oes a gwlad ag oeddynt at eglwysi gwlad Groeg yn yr oes apostol- aidd. Gweler 1 Tim. ii. 12-14. Os y Testament Newydd sydd i fod yn rheol i bersonau ac eglwysi, byddai yn ddyddorol cael gwybod paham y mae eglwysi yn peidio dewis merched yn ddiaconesau, o'r hyn y mae gennym esiampl yn y Testament Newydd (Rhuf. xvi. 1, 2), ac ar yr un pryd yn codi merched i bregethu, yng ngwyneb gwaharddiadau pendant y Testament Newydd.—Yr eiddoch, ELIZA EVANS. [Y mae'n flin gennym i ni wneud camgymeriad a Miss Evans. Deallwn oddiwrth ein gohebydd, yr hwn roddodd y nodiad i ni, mai ar sail adroddiad a glywodd o Lerpwl y gwnaeth y ylw —GOL.]
[No title]
Beth bynnag am ei darddiad tramorol, y mae Mr. Mond, yr aelod dros Abertawe, yn dra ffyddlon i gyfarfodydd y Blaid Gymreig. Bu Mr. W. Llewelyn Williams yn annerch y Ty nos Lun ddiweddaf, a chafodd gryn hwyl wrth geisio addysgu tipyn o hanes eu gwlad a'u Senedd i'r Saeson oedd yn ei wrando.
Advertising
FRANCIS & THOMAS, Dairy Agents, 76, FINSBURY PAVEMENT, E.G. Milk and Light Refreshment Businesses wanted to suit beginners, with capital of 2250 to 2600. For Sale-Nr. Ashford, Middlesex, a sound c rncern, doing 24 barns all at 4d. qt.; shop £10 one cart and pram modern house; large yard rent 126. Price 2480. LLTPEAU newydd. YR EPISTOL AT Y PHILIPPIAID Esponiad newydd y Parch. J. CYNDDYLAN JONES, D.D. I'w cael gan Mr. J. Jones, 6, Oakley Crescent, City Road. Telerau i Ysgolion a gymerant ddwsin ac uchod, 2/6 yr un. COFI ANT Dr. REES, BRONANT, Yn awr yn barod. I'w gael yn y cyfeiriad uchod. THE GREAT WELSH REMEDY. r\ A i I p Q' Q REL,EF FR°M COUGH IN 5 FOR COUGHS, FOR COLDS, FOR ASTHMA, FOR BRONCHITIS, FOR HOARSENESS, FOR INFLUENZA. 1 I ■ ■ F0R COUGHS, FOR SORE nn I 11-2 I—I THROAT, MOST SOOTHING. \JKJ \J n WARMS THE CHEST, DISSOLVES THE PHLEGM. FOR SINGERS, FOR PUBLIC SPEAKERS. MI XT URE -Jwssv4 *w' 1 1 -—— 2s. 9D. Postage,3D. Proprietor, HUGH DAVIES. Chemist, Machynlleth. London Agents: Mr. Edwin Jones, Chemist and: Optician, 232, Kilburn Lane, Queen's Park, W.C.; Mr. Thomas, Chemist, Upper Baker Street, W. Wholesale: Barclays, 96, Farringdon Street.
Am Gymry Llundain.
Bevan, a Mr. King. Gofalwyd am y cyf- eiliant gan Mr. Idris Lewis. WOOD GREEN.-O dan nawdd Undeb y Cymdeithasau traddodwyd darlith yn y lie hwn nos lau ddiweddaf, gan Mr. T. J. Evans ar "Crwydriadau Llenyddol yn Llundain." Cadeiriwyd gan Mr. Goronwy Owen, M.A., ac ar y diwedd diolchwyd i'r brodyr gan y Parch. 0. T. Davies a Mr. Griffith. CYFARFOD PREGETHU. Sadwrn a'r Sul diweddaf bu Eglwys y Tabernacl yn cynnal ei chyfarfodydd pregethu hanner-blynyddol. Gwasanaethwyd gan y Parch. John Thomas, Soar, Merthyr. IOLO MORGANWG." Dyna oedd testyn darlith draddodwyd o flaen Cymdeithas Gwyr Morganwg nos Sadwrn ddiweddaf yn yr Holborn Restaurant. Mr. David Rhys, M.A., oedd y darlithydd, a chan fod Mr. Rhys yn hen gynefin a hanes llenyddiaeth ei genedl, yr oedd ei sylwadau ar fywyd yr hen lolo yn ddyddorol ac yn llawn gwreiddiol- deb. Llywyddwyd gan Mr. Fred. Morgan, ac ar derfyn y ddarlith diolchwyd i'r bar- gyfreithiwr dawnus gan y Parch. Dr. Dan Bryant a'r Cadeirydd. Yn atodiad i'r ddar- lith oedd Mr. Leason Thomas, yr ysgrifen- nydd, wedi trefnu rhaglen gerddorol, a chaed unawdau gan Miss Hilda Henson, Mr. Reginald Brophy, Mr. A. H. Gee, i'r rhai y cyfeiliwyd gan Mri. D. Richards a Harold Howell. WALHAM GREEN.—Nos Fercher, y 6ed cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod terfynol ein Cymdeithas Ddiwylliadol am y tymor. Cymerodd y cyfarfod hwn y ffurf o gyngerdd amrywiaethol, ym mha un y cymerwyd rhan gan nifer o aelodau y Gymdeithas, ac hefyd gan amryw o gyfeillion dieithr. Yn yr adran gerddorol cymerwyd rhan gan y Misses Judith Thomas, J. M. Edwards, Myfanwy Lloyd, a May Thomas hefyd gan Mri. T. Kempton, Lewis Hughes, Richard Williams, Rowland Davies, a Master Gwilym Williams. Cafwyd adroddiadau rhagorol gan Misses Bessie Thomas, Emily Williams, Mri. Rhys Arthur, a W. George, ac hefyd gan Miss Mary Evans. Gwasanaethwyd ar y berdoneg gan Miss Judith Thomas a Miss Myfanwy Lloyd, a chymerwyd y gadair gan Mr. Tom Jenkins. Yn ystod y cyfarfod dewiswyd swyddogion, ac etholwyd Mr. Teify Lloyd yn ysgrifennydd am y tymor nesaf. Darparwyd te a danteithion o'r fath oreu gan y chwiorydd ffyddlawn Misses Jones, King's Road, Chelsea. Diolchwyd yn galonog iddynt am eu caredigrwydd a'u haelionni, ac hefyd i bawb a gymerasant ran yn y cyfarfod. Terfynwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau ar ol treulio noson hynod ddifyr.—D. CYDNABOD GWEITHGARWCH.—Anrhegwyd y Parch. 0. T. Davies, Llanarth, a phwrs o aur a phum cyfrol Hastings Dictionary of the Bible," gan eglwysi Llanarth a Ffosyffin, a chyfeillion y cylch, ar ei ymadawiad i gymeryd bugeiliaeth eglwysi Seisnig Bomere a Newton-on-the-Hill, Amwythig. Dygwyd tystiolaeth uchel i Mr. Davies yn y cyfarfod ymadawol yr wythnos ddiweddaf, fel pre- gethwr, fel gweinidog, ac fel dyn, ac yn ddiameu colled Ceredigion fydd ennill i'r Amwythig. Y mae Mr. Davies ar hyn o bryd yn gwasanaethu Eglwys Wood Green, a dechreua yn ei faes newydd ym Mai. CANTOR YN YMADAEL. Mae'r cantor ieuanc, Mr. J. W. Pugh, yr hwn a glywid mor ami yn ein man gyngherddau, wedi dychwelyd i'w hen ardal enedigol, Llan- fyllin, lie y bwriada ymsefydlu mewn mas- nach. Nos Lun ddiweddaf ymgynullodd ftL nifer o'i edmygwyr i westy Reggiori, i ddangos eu hedmygedd o hono cyn iddo dorri ei gysylltiad yn llwyr a'r brif-ddinas. An- rhegwyd ef â fitted suit case ar ran ei gyfeill- ion, a thraddodwyd geiriau edmygol am ei wasanaeth i'r achosion Cymreig gan Mri. W. J. Jones, Merlin Morgan, H. P. Roberts, Cyrus J. Evans, Edward Owen, ynghyd a'r cadeirydd, Mr. David Richards. Bob yn ail a'r areithio cafwyd arlwy gerddorol, a chym- erwyd rhan gan Mri. D. Waters, J. Adams, D. Morgan, a James Davies. Gofalwyd am y cyfeiliant gan Mr. Frank Bevan. AR FOR Y CANOLDIR.-Mae'r cynghorwr, Mr. Howell J. Williams, L.C.C., wedi myned am fordaith ar For y Canoldir, a bwriada dalu ymweliad a rhai o'r prif ddinasoedd ar y glannau. Bydd yn absennol o Lundain am tua mis o amser. NID PISTOL o HYD.—Mae Mr. B. E. Evans, sydd wedi bod yn gwasanaethu fel curad yn ardal Notting Hill am y ddwy flynedd ddi- weddaf newydd gael ei benodi yn is-ganon yn Eglwys Gadeiriol Peterborough. Brodor o dref Caerfyrddin yw Mr. Evans, ac yn gantor gwych, yn ogystal ac yn Gymro glew. Rhwydd hynt iddo ddyfod yn ganon cyflawn ar fyr amser. Y DDIRPRWYAETH EGLWYSIG -Sibrydir y ceir cyfarfod arall o aelodau y Ddirprwyaeth hynodol hon cyn pen ychydig ddyddiau. Deallwn fod y gwaith yn myned ymlaen yn hwyliog, ac fod rhai o'r cyfrolau yn cynnwys y tystiolaethau ar fin cael eu cyhoeddi. Nid oes un sicrwydd hyd yma pa un a geir adroddiad unol a'i peidio, ond beth bynnag a fydd, ni fydd angen i'r Ymneilltuwyr gywilyddio am eu safleoedd anrhydeddus yn hanes crefydd ein gwlad. EGLWYS ST. BENET. Cynhaliwyd ein gwasanaethau arbennig y Sul a'r Llun di- weddaf, ychydig yn gynarach eleni nag arfer. Y pregethwr Cymreig oedd y Parch. Daniel Fisher, Ficer Eglwys Dewi Sant, Caerdydd a'r bregeth Seisnig gan y Parch. T. Tudor Thomas, gynt Ficer Llanwrtyd. Dechreuwyd ar waith y Sul drwy weinydd- iad o'r Cymun Sanctaidd, pryd y daeth nifer dda ynghyd. Am unarddeg, gwasanaeth a phregeth; am dri y Litani a'r Emynau yn Gymraeg a'r bregeth yn Seisnig; am 6.30 eto, gwasanaeth a phregeth. Nos Lun, am 8, gwasanaeth a phregeth. Llafarganwyd yr oil o'r gwasanaethau y Sul gan y Parch. J. Crowle Ellis, Ficer, a'r gwasanaeth nos Lun gan y Parch. T. Smith. Darllenwyd y llithiau y Sul gan y Mri. W. Owen a Thomas Jones, a y rhai nos Lun gan y Parchn. Howell Watkins, B.A., ac L. Roderick. Yr oedd y Parchn. W. Griffith a Tudor Thomas hefyd yn bresennol nos Lun. Mae gair o gydnabyddiaeth yn ddyladwy i aelodau y cor am eu ffyddlondeb a'u gwaith da, yn enwedig am wneud eu rhan mor ardderchog nos Sul, drwy ganu y Canticles i gerddor- iaeth hyfryd Syr George Martin a'r Hale- liwia Chorus" fel anthem. Rhoddodd Mr. Sydney Brown gynorthwy mawr, trwy chwareu yr organ i'r rhai hyn, tra yr ar- weiniwyd y cor gan organydd yr eglwys. Hefyd nos Lun cawsom unawd o 'St. Paul,' Be thou faithful unto death," gan Mr. W. Emlyn Edwards, L.R.A.M., yn ardderchog. -Cinio Blynyddol y Cor Nos Iau, y 7fed, dathlwyd yr wyl hon yn Queen Anne's Restaurant, Cheapside. Treuliwyd noson ddiddan a hyfryd ar ol mwynhau y moethau da, trwy areithiau gan y Ficer, Warden, W. Owen, a'r organydd, ynghyd a chaneuon, deuawd, pedwarawd, a chanu corawl gan wahanol aelodau y cor. Yr oedd oddeutu deugain yn bresennol. Methodd rhai i ddyfod oherwydd gwaith, gwyliau, ac afiechyd. Rhoddir gwledd i'r aelodau ieuengaf ar ddydd Sulgwyn fel arfer.—G.