Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
MARWOLAETH Y PARCH. J. ELIAS…
MARWOLAETH Y PARCH. J. ELIAS HUGHES, M.A. Ddechreu yr wythnos hon bu farw y gwr da uchod, ar ol dioddef cystudd maith a phoenus am flynyddau lawer. I fwyafrif o'r to presennol yn Llundain, enw dieithr yw'r enw John Elias Hughes, eto efe oedd un o'n prif oleuadau pulpudaidd ugain mlynedd yn ol yn y ddinas hon. Fel gweinidog ar Eglwys Wilton Square y daeth yn adnabyddus, ac yma y llafunodd o Fehefin 1883, hyd Mehefin 1900, pryd y gorfodwyd ef gan afiechyd i ymneilltuo i dawelwch ardal Llanelwy i geisio adnew- yddiad iechyd. Ond myned o ddrwg i waeth wnaeth ei anhwyldeb-y parlys-a boreu'r Sul diweddaf daeth y rhyddhad y bu ei -enaid yn dyheu mor hir am dano. Yn ystod tymor maith ei weinidogaeth yn Llundain cyfrifid Mr. Hughes yn un o wyr blaenaf y pulpud, ac yn foneddwr o'i wadn i'w goryn. Roffid ef gan ei bobl ei hun a chan bawb y deuai i gyffyrddiad a hwy, fel mai chwith oedd ganddynt glywed am ei ymadawiad yn 1900, pryd y rhodd wyd iddo dysteb anrhydeddus fel cydnabyddiaeth fechan o'r parch cyffredinol a deimlid tuag ato. Brodor o Bryneglwys yn lal, swydd Ddin- bych, ydoedd, a ganwyd ef yn amaethdy y Pentre-isaf, Tachwedd 5ed, 1849. Ei dad oedd y Parch. David Hughes, Plas Adda, Meirion, a bu ef farw yng Nghorwen, tua 19 mlynedd yn ol. Enw ei fam oedd Lydia, yr hon oedd ferch i'r enwog Ann Roberts, Pentre, Bryneglwys, yr hon a fu yn offeryn i ddechreu yr achos Methodistaidd yn y plwyf hwnnw. Ceir hanes y wraig rinweddol hon a'r achos Methodistaidd ym Mryneglwys yn Hanes Methodistiaeth Cymru." John Elias oedd y pedwerydd o unarddeg o blant, a rhoddodd ei fryd ar y dechreu i fod yn siopwr, ond nid oedd awyrgylch oeraidd a difater y byd masnachol yn dyg- ymod a'i anian grefyddol ef, a phenderfynodd baratoi ei hun at waith y pulpud. Aeth i ysgol yng Nghaer, ac oddiyno i Goleg y Bala, dan y diweddar Lewis Edwards, ac yna i Brifysgol Edinburgh, lie y graddiodd yn M.A. yn 1880. Dechreuodd ar ei waith bugeiliol trwy gymeryd gofal o'r eglwys Fethodistaidd yn Llanelwy yn 1880. Ym mhen tair blynedd wedyn cafodd alwad daer ac un- frydol oddiwrth Eglwys Wilton Square, yr hon a dderbyniodd yn galonnog. Tra yn Llanelwy ymbriododd a Miss Jennie Jones, merch Mr. Jones, Glandwr, Llanelwy, ac i'r lie hwn yr ymneilltuodd o Llundain yn 1900, ac y preswyliodd weddill ei ddyddiau. Y mae tri o'i frodyr wedi ymfudo i San Francisco, lie y maent yn fasnachwyr cyf- rifol, ac mae brawd arall iddo, William Gladstone, yn parhau yn un o ffyddloniaid yr Eglwys yn Wilton Square. Brawd arall iddo ydyw'r Dr. Job Medwyn Hughes, Ruthin, lie yr oedd John Elias wedi myned ers ychydig ddyddiau i newid awyr. Yng nghartref ei frawd y bu farw, a dydd Mercher diweddaf aed a'i weddillion i fynwent Llanelwy, lie y daearwyd hwynt yng nghanol arwyddion o alar, a chydymdeim- lad tyrfa at y weddw a'i plant sydd yn aros. Er fod Mr. Hughes yn rheng flaenaf y pregethwyr, nid oedd wedi ysgrifennu ond ychydig o erthyglau yn ystod ei oes. Pre- getbai yn felus a chynhwysfawr heb fod yn faith na chwmpasog. Un o apostolion y bregeth fer ydoedd efe, gwr a allasai ddweyd mwy mewn hanner awr nag ami i bregethwr awr pan fo'r hwyl hiraf arno. Yr oedd 01 astudiaeth ar yr oil o'i gyfansoddiadau, ond yr anffawd yw nad oes ond braslun o honynt wedi eu hysgrifennu ganddo. 0 dan bwys y gwaith yn Llundain tor- rodd ei iechyd i lawr, ond ymladdodd yn wrol am flynyddau gan hercian i'r addoldy megys gwr o dan boenau dirfawr. Methodd pob dyfais ag atal ei anhwyldeb, ac er mor brudd yw colli cyfeillion pan megys yng nghanol eu defnyddioldeb, mae'n anhawdd peidio edrych ar yr ochr oleu a llawenhau ei fod bellach yn rhydd ac yn ei elf en ymhlitli plant y goleuni a theulu yr iechyd hir barhaol. Yn ei angladd yn Llanelwy prydnawn ddydd Mercher, cynrychioliwyd C.M Llun- dain gan y Parch R. 0. Williams, Holloway, a Mr. Richard Thomas, Charing Cross, ac Eglwys Wilton Square gan Mr. William Evans, blaenor hynaf yr Eglwys. Treulir y Sul nesaf (yfory), yn Sul coffhad am dano yn Wilton Square. Pregethir yn y boreu gan y gweinidog presennol, y Parch. G. H. Havard, B. D., ac yn yr hwyr gan ei hen gyfaill mynwesol, a chydweithiwr ar hyd y blyn- yddoedd y bu Mr. Hughes yn Llundain, y Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. COFADAIL CEIRIOG. APEL GENEDLAETHOL DAER. At Olygydd CYMRO LLUNDAIN A'R CELT. SYR,—A gaf fi erfyn am beth o'ch gofod er mwyn gosod ger bron eich darllenwyr yr apel hon, un a fydd, mi goeliaf, yn sicr o daraw tant cydymdeimlad yng nghalon pob Cymro, a hefyd, nid ychydig o'n cyfeillion Seisnig sydd yn adwaen ac yn caru ein gwlad. Bum mlynedd yn ol penderfynodd trigolion Dyffryn Ceiriog, sir Ddinbych, na chai'r bardd Ceiriog- Robert Burns Cymru-yr hwn a anwyd yn eu dyffryn tlws, ac awen; yr hwn a ysbrydolwyd gan ei olyg- feydd, fod yn hwy heb gofadail gymhwys a pharhaol. Felly, wedi ystyriaeth ofalus, cytunwyd mai Neuadd Bentref-yn cynnwys Llyfrfa gyhoeddus, Darllenfa, lie i gynnal cyfarfodydd y Cyngor Plwyf a'r Cym- deithasau Cyfeillgar, ynghyd a thy i'r gofalwr- fyddai'r dull mwyaf addas a defnyddiol o goffa athrylith un a wnaeth iddo ei hun ddyledwr o bob Cymro, lie bynnag y byddo, drwy gyfoethogi llen Cymru a'i ganeuon godidog. Hefyd bwriedir cy-s- ylltu a'r gofadail enw dau o lenorion enwog ereill fu a pherthynas agos rhyngddynt a'r Dyffryn sef, Huw Morus (Eos Ceiriog, 1622-1709), bardd cyfnod y Stiwartiaid a'r Weriniaeth, a Chynddelw (Parch. Robert Ellis, 1812-1875). Y mae'r cynllun wedi derbyn cymeradwyaeth Cymry blaenllaw fel Syr John Rhys, Mr. Owen M. Edwards, a Syr T. Marchant Williams, yn ogystal a chymeradwyaeth Beirdd Cymru, y rhai yn eu heis- teddiad blynyddol diweddaf a'i cyflwynent ef yn galonnog i sylw Cymry ymhob man Derbyniodd yr apel am y Gronfa angenrheidiol, sef oddeutu J,100p., atebiad calonogol iawn. Wedi cael, i ddechreu, rhodd o dir rhydd i adeiladu arno, mewn lie canolog ym mhentref Glynceiriog, gerllaw Chirk, cafwyd rhoddion o'r Ileehi, gwenithfaen, calch, a'r gwydr angenrheidiol, heblaw defnyddi.au ereill at yr adeilad; addawodd amaethwyr y lie gludo'r def- nyddiau yn rhad; rhoddodd Cymro o Lerpwl, Mr. T. Taliesin Rees, F.R.I.B.A., ei wasanaeth yn rhad fel pensaer rhoddodd cyfreithiwr ei wasanaeth yntau yn rhad ynglyn a'r gwaith cyfreithiol ac enillwyd 230p. at y Gronfa fel ftrwyth dwy bazaar a gynhaliwyd yn y lie. Derbyniwyd, hefyd, gyfrodd- ion oddiwrth Gymry yn yr Unol Daleithau (Etrog Newydd, San Francisco, y Mynyddoedd Creigiog, &c.), Cape Colony, y Transvaal, a gwlad bellach fyth, nid amgen Patagonia. Eithr sefyllfa gyfyng y symudiad heddyw ydyw'r pwnc y dymunaf gennad i'w osod ger bron eich dar- llenwyr. Wedi pum mlynedd o waith caled, a phan ar gyfarfod i dderbyn cynygion am adeiladu'r neuadd. caiff y pwyllgor ei hun yn fyr o tua 250p. o'r swm gofynol i godi, a dodrefnu, ac agor y Neuadd yn rhydd oddiwrth ddyled a fai'n eu cloffi, peth y mae'r pwyllgor yn benderfynol o'i osgoi. Rhaid i'r swm ddyfod i law yn ddioed os ydyw Cofadail Ceiriog i ddyfod yn fitaith. Fel y gwelir, y mae'r cynllun yn barod wedi ei ddwyn i ymyl cyflawniad, a chredaf y cytuna pawb na ddylid caniatau i'r swm cymharol fychan angenrheidiol i gwblhau, fod yn rhwystr anorfod. A gaf fi, gan hynny, daer apelio at fy nghydwlad- wyr i gynorthwyo'r pwyllgor drwy gyfrannu rhyw swm, pa mor fychan bynnag, tuag at y 250p. di- weddaf, ond ataliol, hwn ? Os y derbynir ef erbyn diwedd y mis presennol, yna sicrheir i ben bardd dyrif Cymru gofadail a fydd ym mhob modd yn deilwng o hono, a chyfodir Neuadd Bentref gyfleus ac ar blan da yn y rhan fwyaf poblog o'r gymdogaeth lie y cododd efe, man sydd ag angen mawr am y cyfryw ddarpariaeth gym- deithasol, ddeallol, ac adloniadol. Ac nid yn unig hynny, ond fe fydd y pwyllgor mewn sefyllfa i hawlio rhodd arall o lOOp. sydd wedi ei haddaw yn amodol iddynt gan roddwr y tir, tuag at Waddol parhaol i'r neuadd. Cydnabyddir yn brydlawn ac yn ddiolchgar bob cyfraniad a anfonir i mi i'r cyfeiriad isod. Ar ran y Pwyllgor, Ydwyf, yr eiddoch, ALFRED T. DAVIES. Cadeiryddd Pwyllgor Neuadd Goffa Ceiriog.' Welsh Club, Whitehall Court, London, S.W., Ebrill, 1910.
YN Y WASG, AC YN BAIOD YN…
YN Y WASG, AC YN BAIOD YN FUA1\, 50 o DONAU CYNULLEIDFAOL ar Emynau Adnabyddus a Chynefin GAN T. VINCENT DAVIES. PRIS: Hen Nodiant, 2s.; Sol-ffa, Is. 6d. Telerau Neilltuol i danysgrifwyr o 6 copi ac ucbod. Esiamplau o 12 o'r Tonau (Hen nodiant yn unig heb y geirian) i'w cael ar dderbyniad dau stamp Id. gan yr Awdwr, 31, LUCERNE ROAD, HIGHBURY, N. (1). I have perused with interest your 11 Deuddeg 0 Donau Cynulleidfaol," and am glad to find they are in reality strong congregational tunes, and not of the effeminate part song type. HARRY EVANS, F.R.C.O. (2). Your tunes are very well written. The airs are melodious and natural, and the harmonies musicianly and effective. D. EMLYN EVANS. (3) All these tunes before me are broad and stately, as hymn tunes should be. Not the stateliness of the old school, which was also -,old. You have succeeded in giving life to every fibre. J. T. REES, Mus.Bac. (4). I am sure they ought to be attractive and useful, as they shew sound workmanship and a com- mendable avoidance of the crude harmonies too prevalent in many of our hymn tunes. DAVID THOMAS, M.A., Mus.Doc. (5). Two things struck me when looking through your book (i) the originality of the melody (ii) the masterly flow of the harmony. I also notice that the tunes are quite solid m style. CARADOG ROBERTS, Mus.Bac., F.R.C.O. (6). I find that they are tuneful and artistic, and will prove useful to congregations who wish to have effective hymn tunes, without a single i itricate passage. J. H. ROBERTS, Mus.Bac. (7). Yr wyf yn cael yn eu plith donau rhagorol, yn enwedig I; St. Deiniol," "Llanbedr," "Dewi S ,nt," "Hirwaen," a Diangfa." Y mae cvnganeddion yr olaf mewn manau yn neillduol o rymus a chyfoethog. JOHN PRICE, Rhymney. (8). I am much interested in your book, aiid must .congratulate you upon a series of tunes as meritorious in musiciaLship as they are devo- tional in character. T. WESTLAKE MORGAN. (9). I have examined the tunes carefully, and (an heartily recommend thein, as they are all singable and devotional, several of them having much of the Welsh feeling and I feel sure the "hwyl" will manifest itself when they are sung. PETER EDWARDS (Petlr Alaw), Mus.Bac.
Advertising
Wood Green Welsh Baptist Mission, SHAFTESBURY HALL, BRAEMAR AVENUE. Cynhelir Gwasanaeth ar bob Saboth— BOREU, 11.0. HWYR, 6.30. YSGOL am dri y prydnawn. QroesaxO a Rsrhyniad Sgnnss.