Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
FTrrji-i CREAl^C, GOOD KEEPING-, M I K FREE FROM PRESERVATIVES. EbV DELIVERIES < TWICE DlbV TO bb P^RTS. FREETH & POCOCK, Ltd., Head Dep6t: ALBERT EMBANKMENT, S.E. Tel. No.: Hop 1249. West Central Depot: WAKEFIELD ST., JUDD ST., W.C. Tel. No.: Holborn 1676. PHONE 14153 CENTRAL. EDWARDS & DA VIES, AILOBS, 121, NEWGATE STREET, E.G. Gold Medallists & Winners of the White Rose Trophy, 1905, 1906, 1908 & 1909. Lounge Suits, in blue serge, worsted, &c., from 49/6 Morning Coat and Vest, in black and grey cheviots, from 42/6 Cashmere Trousers from 12/6 Spring Overcoats from 44/6 Norfolk Jacket and Knickers from 4 5 Personal attention given to every Customer.
ADDYSG A DIWYLLIANT.
ADDYSG A DIWYLLIANT. Un o anghenion pennaf ein cenedl heddyw," meddai Mr. Ellis W. Davies, A.S., yng nghyfarfod Undeb y Cymdeithasau Cymreig Llundain, "ydyw Diwylliant. Yr ydym wedi sicrhau cynllun rhagorol o Addysg, ond y mae perygl i'r to ieuanc dybied mai casglu ffeithiau yw'r peth pwys- icaf mewn addysg yn hytrach na dysgu'r ffordd sut i wneud y defnydd priodol o honynt." Ni chyhoeddwyd gwirionedd mwy amserol erioed na hwn, ac mae angen ei ail- adrodd wrth ein rheolwyr addysg ar hyn o bryd. Mae'n wir fod ein Hysgolion a'n Colegau yn troi allan gannoedd o efrydwyr a gradeddigion bob blwyddyn, ond syndod mor ychydig o honynt sydd yn abl i wneud y defnydd priodol o'r hyn y maent wedi ddysgu, a chredai yr aelod dros Eifion fod lie pwysig yn y Cymdeithasau Llenyddol hyn i berffeithio diwylliant y rhai sydd wedi manteisio ar freintiau ein cyfundrefn addysg. Fel y sylwyd ymhellach yn yr un cyfarfod, credwn fod yma gyfle arbennig i'n prifysgol i estyn ei manteision addysgol. Mae prif- ysgolion Rhydychain a Chaergrawnt wedi sefydlu cynllun o ddarlithoedd i'w traddodi o'r tuallan i gylch yr athrofeydd cydnabydd- edig, ac maent wedi bod o wasanaeth dir- fawr i eangu gwybodaeth y rhai nad ydynt yn abl i fanteisio ar gwrs athrofaol. Ac oni allai y Colegau Cymreig ddyfeisio cynllun cyffelyb a danfon allan nifer o ddar- lithwyr dysgedig allent ddyddori ac addysgu ein pobl ieuainc yn y Cymdeithasau hyn? Mae yma faes nodedig i weithio ynddo, a chyfle arbennig i wneud llawer dros Ddiwyllio y rhai nad ydynt wedi cael mantais i berffeithio eu dysg ynglyn- a'r gwahanol Ysgolion. Mae Athrofa Aberystwyth newydd benodi darlithydd newydd i roddi cyfres o wersi yn hanes Cymru i efrydwyr y coleg hwnnw, ond gan fod nifer liosog o'r efrydwyr yn Saeson, hwyrach na fydd nifer y rhai gymerant ddyddordeb yn y cynllun yn fawr iawn, ond pe gallesid estyn y cynllun a danfon y dar- lithydd i ymweled a gwahanol fannau can- olog, lie y ceid torf o Gymry ieuainc llengar yn awyddus am berffeithio eu gwybodaeth yn eu horiau hamddenol credwn y byddai o les anrhaethol i gadw yn fyw y brwdfrydedd cenedlaethol, ac i greu dyddordeb adnewyddol yn nadblygiad yr ochr oreu o'r cymeriad Cymreig. Hyderwn y rhoddir y sylw dy- ladwy i'r mater gan y rhai sydd yn caru llwyddiant y to ieuanc — cynyrchion di- weddaraf ein cyfandrefon addysg.