Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

,II. BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

II. BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. CJyngerdd y Cor Cymreig. Nos Fawrth nesaf cynhelir y cyngerdd cyntaf rhoddedig gan y Cor Cymreig yn Llundain, a hyderaf y rhoddir iddo y gef- nogaeth haeddiannol. Er adeg cor Pencerdd Gwalia, yr hwn oedd mewn bri ugain mlynedd yn ol, nid oes yr un cor cymysg wedi ei sefydlu yn Llundain. Mae'n wir fod nifer o fan bartïon wedi eu crynhoi am dymor byr, ond ni wnaeth yr un o honynt unrhyw ymgais at ddysgu yr un darn, rhagor nag oedd eisieu cystadlu arno mewn Eis- teddfod leol. Gan ein bod bellach ar y ffordd i sefydlu Cymdeithas Gorawl teilwng o'r Cymry, y mae awydd arnaf weled y cor hwn yn cael pob cefnogaeth gan ein cyd- genedl. Madame Laura Evans Williams. Yr wythnos ddiweddaf cefais gopi o'r cylchlythyr mae'r foneddiges hon wedi ei baratoi gogyfer a'r rhai sydd yn awyddus i wybod ei hanes ym myd y gan. Mae wedi casglu ynghyd nifer o ddyfyniadau o'r wasg ynglyn a'i chanu, a rhaid addef na cheir ond ychydig o'n merched cerddgar sydd wedi Ilwyddo mor rhagorol i dynnu sylw y beirc- iaid Seising. Mae Madame Evans-Williams wedi bod o flaen y cyhoedd ers cryn amser bellach, ond prin y mae wedi ennill ei safle haeddiannol hyd yn hyn, a da yw deall ei bod wedi casglu barn y criticyddion am ei gwaith. 0 Dde i Ogledd, ac ymhob tref y mae wedi ymddangos yn ystod y tair blynedd hyn, y mae'r wasg wedi datgan ei chlodydd mewn llais hynod unol. Yn ystod 1909 cafodd yr anrhydedd o ymddangos yn rhai o'r cymanfaoedd mwyaf pwysig ym myd y gan, ac mae ei gwasanaeth wedi ei sicrhau am 1910 mewn nifer o gyngherddau uwch- raddol. Pob llwydd iddi esgyn i fri yn y cylch lie y mae yn fath addurn i ni fel pobl. Cyngerdd Mr. Vincent Davies. Yr oedd yn 11 a wen gennyf weled nodiad am y cyngerdd hwn yn eich rhifyn diweddaf. Yr oedd yn haeddu pob gair canmoliaethus a draethwyd, canys yr oedd yr oil o'r un- awdwyr yn canu yn rhagorol. Afraid n fyddai dethol o'r fath restr o gantorion, a chadwyd y cyfarfod i fyned hyd yn hwyr. Yr unig ball y teimlwn oedd yn ddiffygiol yn y cantorion oedd gweled mor ychydig o weithiau Mr. Davies ei hun wedi eu dewis ganddynt. Mae Mr. Davies yn gyfansoddwr hipus iawn, ac mae amryw ganeuon yn dwyn ei enw, a phriodol fyddai eu gwneud oil yn hysbys ar amgylcl i ld fel hwn. Cyngerdd Castle Street. Hwyrach mai pobl Cattle Street yw'r rhai mwyaf anturiaethus ynglyn a cbyngerddau o unrhyw eglwys yn Llundaia. Yr wyf yn cofio am gyngerddau hynod poblogaidd ganddynt cyn hyn, rhai yn wir y caed nodded a phresenoldeb rhai o'r teulu bren- hinol iddynt. Eleni nid oedd eu nod mor uchel; er hynny, rhoddasant arlwy beni- gamp yn St. James's Hall yr wythnos ddi- weddaf. Yr unawdwyr y tro hwn oeddent Miss Edith Evans, Miss Phyllis Lett, Mri. Thomas Thomas ac Ivor Foster. Anhawdd fuasai cael gwell pedwarawd, ond y bechgyn oedd yn rhagori y tro hwn. Nid oedd Miss Evans mor gartrefol ag arfer, a bu raid iddi frysio drwy ei rhan er myned i gadw ym- rwymiad pwysig arall yn yr opera yn Covent Garden. 0 dan yr amgylchiad nis gallai fod yn hamddenol iawn. Yn ychwan- egol at y cantorion hyn rhoddwyd unawdau ar y crwth gan Miss Mary Law, a hon oedd prif artiste y noson. Ohwareuodd yn rhag- orol, a rhoddodd y dorf dderbyniad croesaw- gar iawn iddi. Cafwyd amryw ddarnau hefyd yn dra swynol gan Gor Meibion Merlin Morgan, a gofalwyd am y cyfeiliant gan y gwr medrus Mr. David Richards.

" GWYNETH VAUGHAN."

[No title]

EGLWYS ST. PADARN.