Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
I f Y T !D AIRYlMEEIlXr STXFFXiXiED H Hj 111# In any part of London and Suburbs with H/| I I 14 RICH, GOOD KEEPING MILK III I I 111 DIRECT FROM THE FARMS. HI H H I B ™ Over 50,000 Samples tested annually in our Laboratories. WHOLESALE ONLY. DAIRY SUPPLY CO., LTD., Chief Oiffce: MUSEUM ST., LONDON, W.C.
NODIADAU LLENYDDOL.
NODIADAU LLENYDDOL. Mor ychydig yw nifer merched Cymru sydd wedi ymroddi at lenora. Yr wythnos ddiweddaf bu'r wasg Gymreig yn talu teyrnged o goffa i Gwyneth Vaughan, y mwyaf adnabyddus o honynt, a'r goreu ei harddull a welwyd ar dudalenau ein cylch- gronau. Ysgrifennu yn bennaf er mwyn ei bywioliaeth fu raid i Gwyneth Vaughan, a dyna'r rheswm na chyhoeddodd lawer o lyfrau ei hun. Y ddwy nofel sydd ar ei henw ydynt "0 Gorlannau y Defaid" a Plant y Gorthrwm," ond bu'n ysgrifennu penod yn wythnosol i'r Cymro, ac ar ol hynny i'r Brython, am flynyddau. Hi oedd awdures y llithiau difyr ar "Syniade Hen Gymro" yn y papur blaenaf, a darllenid ei Cys- godau y Blynyddoedd Gynt," a gyhoeddwyd yn y papur olaf, gyda mwynhad cyffredinol. Hefyd ymddangosodd nifer o ysgrifau o'i gwaith yn Cymru, ac yn y Geninen a'r Haul, a chylchgronau ereill, a golygodd argraffiad Cymraeg o "The greatest thing in the world" a The city without a church." Rhagor na'i bod yn lenores o fri, yr oedd yn meddu ar gryn lawer o'r ddawn farddonol, ac enillodd droion yn y man Eisteddfodau ar Bryddestau a Marwnadau. Bellach, mae'r Haw ddiwyd wedi aros yn yr angeu, ac nid oes gennym ond cydymdeimlo a'r rhai anwyl a adawyd ganddi, gan hyderu y cant adgyf- nerthiad i'w hiechyd fel ag i gysegra eu talentau disglair hwyar allor lleneugwlad. Carnelian." Wele un arall o'n cymeriadau llenorol wedi ei alw i dy ei hir gartref, ac mae ardal Pontypridd wedi colli un o'i hen feirdd mwyaf adnabyddus ym marwolaeth Carnelian." Wrth ei enw barddonol yr adnabyddwyd ef gan bawb, eithr ei enw priodol oedd Coslett Coslett, a hanai o deulu parchus yn Sir Fynwy. Llafurwr cyffredin oedd Carnelian, ac yn ardal Pontypridd y bu'n gweithio am dros ddeugain mlynedd. Yr oedd yn ym- hyfrydu mewn Eisteddfoda, a gwyddai'r gynghanedd yn drwyadl. Rhoddodd wersi yn y mesurau caethion i lu o feirdd y de- heubarth, a golygodd gyfres o ysgrifau ar y Gynghanedd yn Cyfaill yr Aelwyd" yn gynnar yn yr 80's. Yr oedd yn englynwr dan gamp ei hun, ac ni fu'r un digwyddiad difyr ym Mhontypridd na fyddai Carnelian a'i awen yn barod i'w anfarwoli. Yr oedd yn gwmniwr rhagorol, ac mor siriol a hapus a llencyn dan oed. Enillodd yn agos i ugain o gadeiriau Eisteddfodol, eto ni lwyddodd i gipio yr un yn y Genedlaethol. Ar un adeg yr oedd yn ffefryn cyffredinol fel beirniad, a byddai galw parhaus am ei was- anaeth, ond yn ystod y blynyddoedd di- weddaf hyn yr oedd ei glyw wedi ei amharu ai gam wedi byrhau gan henaint, fel bu raid iddo roddi'r goreu i lenora. Cyhoeddodd un neu ddwy o bryddestau, ond y mae mwyafrif ei weithiau ar wasgar yn y gwahanol gylch- gronau y bu'n ysgrifennu iddynt. Mark Twain a'r Cymro. Un o'r awdwyr mwyaf poblogaidd fagodd America oedd Mark Twain, yr hwn a fu farw yr wythnos o'r blaen. Yr oedd yn siaradwr ffraeth ac yn ysgrifennydd miniog. Drwy ei arddull wawdlyd a'i ddywediadau pert ond cyrhaeddgar, daeth i fri fel yr ysgrifennydd mwyaf doniol tu hwnt i'r Werydd, ac mae ei weithiau wedi cael cylch- rediad helaeth yn y wlad hon. Decbreuodd Mark ei yrfa fel newyddiadurwr cyffredin, ac un o'i gydweithwyr boreu oes oedd Mr. J. W. Thomas, y cyfreithiwr o Aberystwyth. Bu Mr. Thomas yn deithiwr diflino pan yn fachgen, ac yn 1866 daeth i gyffyrddiad a Mark-neu Sam Clemens, fel eu galwent ar y pryd-pan yn gweithio ar newyddiadur yn Califfornia. Nid oedd syniad Mr. Thomas yn rhyw uchel iawn o Mark, canys yr oedd yn siarad yn wawdlyd iawn am bopeth Prydeinig. Diau fod y wedd hunanol yn nodweddu yr Americanwr, ac hwyrach mai i'r syniad uchel o hono ei hun y dylid priodoli ei lwyddiant. Er i Mark gyfarfod ag anffoddion ariannol gweithiodd yn ddyfal i dalu ei holl ddyledion, a phan fu farw dywedir ei fod yn dra chyfoethog. Mae bri ar awdwyr yn yr America debyg iawn Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." Y per ganiedydd David Williams, Llan- bedr y Fro, oedd awdwr yr hen emyn pob- logaidd Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau," ac mae mudiad ar droed i godi croes Gelt- aidd i nodi man fechan ei fedd. Mae dros gan mlynedd wedi myned heibio er y daear- wyd gweddillion David Williams, ond mae'r hen emyn yn parhau mor boblogaidd ag erioed. Dywedir mai bywyd teuluol tra thrafferthus gafodd yr hen bererin, ac mai ar ol gwrando ar dafod miniog ei wraig y torrodd yr hen fardd allan i ganu ei emyn pruddglwyfus. Y mae'r pwyllgor sydd wrth wraidd y mudiad o godi'r gofgolofn yn dra awyddus i sicrhau Mr. Lloyd George i ddod i wyl y dadorchuddio. Yn wir y mae'r Canghellor wedi addaw dyfod os caniata ei ymrwymiadau cyhoeddus. Mae rhyw addas- der rhyfedd yn y dewisiad, canys os oes rhywun a allasai ganu Yn y dyfroedd mawr a'r tonau gyda ynni a hwyl a phrof- iad personol y deuddeng mis diweddaf hyn, y Canghellor Cymreig yw hwnnw
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Hawdd gwybod fod yr haf gerllaw, canys y mae Llundain yn llawn o glerigwyr a phregethwyr a chenhadon crefyddol, wedi dod o bob parth i gymeryd rhan yng ngweithrediadau Cyfarfodydd Mai." Pan ddechreuwyd y gynhadledd o gylch y Bwrdd yr wytbnos hon, yr oedd hanner dwsin o'r gwyr parchus hyn wedi gwneud eu hymddangosiad, a'u neges pennaf oedd chwilio am fanylion ynglyn a'r mudiadau crefyddol ymysg Cymry'r ddinas hon. Wedi deall eu anhawsterau teimlai'r Gol. ar un- waith fod angen am ryw fan cyfarfod i ddosbarth o'r fath pan ar ymweliad a, Llundain. Awgrymodd y Macwy mai'r lie mwyaf canolog, a'r sefydliad lie y gall pawb gyfarfod mewn dull cartrefol ydyw'r Clwb Cymreig ond tystiai un o'r pregethwyr, i flaenor parchus ei hysbysu yn ddiweddar, nad oedd y lie hwnnw yn fan addas i bregethwr fyned "Diau fod rhai pobl i'w cael," ebe'r Gol., "ydynt yn barod i gondemnio popeth os na cha'nt hwy ran flaenllaw yn y trefniadau, a thynna yn ddios sydd wrth wraidd gwrthwynebiad rhai o'n crefyddwyr crebachlyd i sefydliad daionus fel y Clwb—lie hollol anenwadol, amhleidiol a rhydd oddiwrth bob culni a rhagrith. Gwnaeth y pwyllgor eu goreu rai blyn- yddau yn ol i symud pob gwrthwynebiad iddo drwy ethol yr oil o'r gweinidogion a'r clerigwyr ynaelodau, ond rhywsut neu gilydd nid yw hynny yn ddigon i foddio rhai meddyliau cul." Wedi gorffen o'r gweithrediadau am y noson aeth y Gol. a'r dieithriaid ar ymweliad a'r Clwb, ac yno yn sicr ddigon yr oedd rhyw ddwsin ereill, a theim- lent oil yn hollol gartre ol ac yn foddhaus fod un lie yn Llundain lie y gallent gyfarfod a, chyfaill pan ar ymweliad achlysurol a'r lie. E. R. JONF-s.-Yr ydych yn gofyn gormod -,ennym. Pe buasem i roddi rhestr o'r Cymry sy'n gweini- dogaethu yn y pulpud Seisnig yn ac oamgylch Llundain," byddai yn rhaid cael cyfrol o'r CELT i roddi eu henwau a'u hanes. J. J. (HOLLOWAY).-Yn Hanley y mae'r Parch. Enoch Thomas yn beriglor ar hyn o bryd, ac mae fel y dywedwch yn bregethwr sy n llawn o'r hwyl Gymreig." Rywsut neu gilydd mae'r Saeson yn llwyddo i gipio llawer o'n dynion goreu. V. MORGAN (Los ANGELES).—Diolch am y nodyn, a da gennym ddeall eich bod yn parhau i gadw'ch cysylltiadau Cymreig. Yr ydym yn danfon rhai papurau i chwi yn ol eich dymuniad. FRANK MORGAN.—Gwell yw i chwi ysgrifennu yr hyn ydych am ei osod fel hysbysiad. Y mae ein rheolau yn ddigon clir i'r neb a ddarlleno, felly paham raid i chwi ofyn i ni sut i weithredu ? E. A. J ONES.-Nid yr un yw'r Parch. Morris Roberts, Rhosybol, a'r Parch. Morris Roberts fu gynt yn giwrad yn St. Benet. Gwnaed hwnnw yn ficer ar un o eglwysi goreu Dwyreinbarth Llundain, a pharha yn Ilwyddiannus iawn yno. Er hyn oil, nid oes neb yn cymeryd mwy o ddyddordeb yn yr eglwysi Cymreig yn y ddinas hon nag efe, a phriodol y talai'r Archddlacon Sinclair deyrnged o barch iddo yn St. Padarn y dydd o'r blaen.
Advertising
CAMBRIAN ATHLETIC ASSOCIATION (WELSH TABERNACLE, KING'S CROSS.) -F-I.J-J'J' ,J' TEA CONCERT On THURSDAY EVENING, ivtay 12th, in the LECTURE HALL, Welsh Tabernacle, King's Cross. Chairman = TIM EVANS, Esq. Artistes- Miss NANCE JENKINS I Mr. JACK EDWARDS Miss MAGGIE DAVIES Air, Wru, BEVAN Miss JESSIE LEWIS Mr. JELIAN PELIX Mr. LUTHER EVANS Mr. STANLEY DAVIES VioHn = = MR. PHILIP LEWIS. C-A-HsrorRiO-Esr ELFED." Conductor Mr. Stanley Davies. Accompanist Miss SAZ-LIE JENKINS. Tea from 6.30 to 7.45. Concert at 8 o'clock. Admission Sixpence.
THE HONOURABLE SOCIETY OF…
THE HONOURABLE SOCIETY OF CYMMRODORION. -The Principal Meetings of the Society for the present Session are as follows Feb.—Paper on John Jones of Glanygors," by M. Pennant Jones, Esq. Mar.—Paper on The Book of Aneurin," by Professor Anwyl, M.A. Apr.—Paper on William Herbert, Earl of Pembroke (first creation)," by Howell T. Evans, Esq., M.A. May.—Paper on Thomas Gouge," by the Rev. Thomas Shankland, B.A. June.—The Annual Conversazione. Full particulars of membership and list of the Society's Publications can be obtained from the Secretary, 64, Chancery Lane, London, W.C.