Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Y RHOSYN BRITH.
Y RHOSYN BRITH. Mor dlws yw gwedd y Rhosyn brith Dan wenau'r haul, Tra dagrau'r nos yn berliog wlith Ar fron ei ddail Mae fel pe'n sibrwd yn ddifraw Mewn distaw iaith fod haf gerllaw, Adlonol yw, a brenin gardd Mewn hyfryd hin, Anwylyn hoff i galon bardd Bersawrus un; Delweddu wna ei siriol wedd Yr hyfryd haf tu draw i'r bedd. 0 fewn ei ddeiliog gadair werdd Clustfeinio wna, Ar gor y wig a'i felus gerdd Yn moli'r ha'; Byth erys olion pwyntil Duw Yn berffaith ar ei irddail byw. Dynoda r coch ryfeloedd byd A'u gwaedlyd gri, A'r gwyn dangnefedd ar ei hyd Nefolaidd fri Caiff enaid yno lechu'n glyd Heb deimlo'n glaf mewn haf o hyd. Ha rosyn brith, myn f' awen i Dy foli'n lion, Edmygir byth dy landeg fri 0 fewn fy mron Try'r dwyfol Gariad sy'n dy wedd Yn Nef i deimlad drwy dy hedd. Bryn-yr-oged. LLINOS WYRE.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. MAi HAFAIDD.-Dyma'r haf wedi dod a golwg siriol ar bopeth ar ol oerni'r gwanwyn. CAMBERWELL.—Yn ystod y Sul (yfory), cynhelir gwasanaethau arbennig yn Eglwys St. Mair, Camberwell, a phregethir ar yr achlysur gan y Parch. W. Headley, ficer Llanfihangel, Croyddyn. Un o ddoniau galluog yr Eglwys yw Mr. Headley, ac yn fawr ei barch gan ardalwyr Goginan a gogleddbarth Sir Aberteifi. DAU GYNGERDD.-Nos lau nesaf ceir dau gyngerdd poblogaidd. Yn "Moorfields" cynhelir y cyfarfod te a'r cyngerdd blyn- yddol, a disgwylir nifer o dalentau disglair i wasanaethu, ac yn neuadd capel y Tabernacl mae'r adran ieuengaf yno yn trefnu cyngerdd i gynnal eu pleserau haf. WILTON SQUARE. —Treuliwyd y Sul cyn y diweddaf yn yr eglwys uchod i wneud coffa am y diweddar Barchedig John Elias Hughes, M.A., yr hwn fu yn weinidog hynod gymeradwy a llwyddiannus ar yr eglwys am dros ddwy flynedd ar bymtheg. Pregethodd gweinidog presennol yr eglwys, Parch. G. H. Havard, B.D., yn y boreu oddiar loan xvii. 3, ac yn yr hwyr pregethodd y Parch. J, E. Davies, M.A., Jewin, oddiar 2 Tim. 4, 7, a dilynwyd y pregethau effeithiol hyn gan anerchiadau Mri. W. W. Griffith, John Jenkins, T. Woodward Owen, William Jones (blaenoriaid yn Wilton Square), a Mri. Robert Davies a Stephen Donell (dau o aelodau hynaf yr eglwys), yn tystiolaethu yn glir ac yn unfrydol i ragoriaethau eithriadol Mr. Elias Hughes fel dyn, bugail, a phre- gethwr. Amlwg yw na chafodd gweinidog erioed eglwys i'w hoffi yn fwy nag yr hoffid Mr. Hughes gan eglwys Wilton Square, a dilys yw, nad yw tystiolaeth ei bobl ei hun yma i gymeriad a gwasanaeth Mr. Hughes ond yn adlais egwan o'r gymeradwyaeth gafodd efe gan ei Feistr wrth ei dderbyn adref ar ol "ymdrechu ymdrech mor deg, a goddef cystudd gymaint fel milwr da i lesu Grist." Un o'r goreuon, yn wir, oedd efe. Aeth allan iddo enw ymhlith Cymry Llundain am ei degwch, canys cyflawn oedd gan yr harddwch osododd yr Arglwydd Dduw arno." Efe oedd ganwyll yn llosgi ac yn goleuo a'i bobl oedd ewyllysgar i orfoleddu bob amser yn ei oleuni Ef." Heddwch i'w lwch hyd ddydd lesu Grist. Taened y Goruchaf Dduw ei amddiffyn dros ei blant amddifaid yn awr a byth. Pa beth oedd marw (iddo ef) ond enaid cryf yn torri Drwy blisgyn teneu daearoldeb, I chwareu edyn yn anfarwol dlysni Awyrgylch laswen tragwyddoldeb. G.H.H. MILE END. M arwolacth Mr. David Ulil- liams, Umberslon Street, Commercial Road.— Ar ol byr gystudd bu farw'r gwr adnabyddus hwn o wenwyniad y gwaed ar y 13eg o Ebrill, ac ef ond yn 49 mlwydd oed. Brodor o Bronnant, Ceredigion, ydoedd, ac yno mae ei rieni oedrannus yn preswylio ar hyn o bryd. Wedi ei fagu ar aelwyd grefyddol, glynnodd yn ffyddlon i draddodiadau y teulu ar ol ymsefydlu fel masnachwr yn Llundain, ac yr oedd iddo barch cyfFredinol yn yr ardaIlle preswyliai, ac yn eglwys Mile End, lie yr arferai addoli. Yr oedd yn feddiannol ar synwyr cyffredin cryf, ac yn wr hynaws a charedig, gwylaidd, a hynod dawel a phwyll- og. Yr oedd rhyw dawelwch naturiol, fel pe buasai yn dreftadol ynddo, ac ni adawyd ef ganddo yn ei oriau olaf. Fel priod, dihafal oedd am ei ffyddlondeb a'i hawdd- garwch fel tad, tirion a gofalus fu ac fel mab, yn ufudd a gostyngedig. Yr oedd rhyw neilltuolrwydd arbennig yn perthyn iddo fel gwrandawr, ac fel Cristion. Nid gwrandaw dan gloriannu y byddai, ond gwrando dan addoli. Byddai yn gwrandaw o ddifrif a'i lygaid wedi eu sefydlu ar y pregethwr, a'r rhai hynny fel llygaid y proffwyd, yn ffynnon o ddagrau. Fel cristion yr oedd bob amser yn dirion ac iraidd, gostyngedig, diymhongar, a thangnefeddus. Yr oedd yn fab tangnefedd. Ni allai ymladd a neb ysbryd addfwyn a Ilonydd oedd ei ysbryd ef bob amser. Yr oedd yn gor- fforiad byw o ddoethineb Epistol lago, yn bur heddychlawn, hawdd ei drin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd a di- ragrith." Yr oedd mater ysbrydol ei gymy- dogion annuwiol, a gwrandawyr yr Efengyl yn gwasgu yn drwm ar ei feddwl. Carwn," meddai, ychydig ddyddiau cyn marw, weled dyled y capel wedi ei dalu, a diwygiad nerthol dros yr holl fyd." Nid gweddio yn unig fyddai, ond cyfrannu yn helaeth iawn at achos lesu Grist. Yr oedd yn teimlo eiddigedd dros gasgliadau at achosion cref- yddol. Byddai nid yn unig yn rhoddi yn hael, o gariad at Ben yr eglwys—ei wared- wr, ond ymdrechodd lawer i gasglu at yr achos ymhob dull a modd. Claddwyd yr hyn oedd farwol o honno y Sadwrn canlynol, Ebrill 16, yng nghladdfa City of London, Ilford, Essex, ynghanol galar dwys, a thy- walltwyd dagrau lu ar ei fedd, gan y dyrfa liosog a ddaeth yno i dalu y gymwynas olaf o barch iddo. Cymerwyd, rhan yn y gwas- anaeth yn y ty cyn cychwyn gan ei hen gyfaill y Parch. D. T. Davies, Clapham Junction ac wrth y bedd gan y P4rch. D. Oliver. Nos Saboth, Ebrill 23, traddododd Mr. Oliver y bregeth angladdol oddiar 3 loan, 11, 12, gyda nerth a theimlad anger- ddol, pregeth a hir gofir. Gadawodd briod galarus a methedig, pump o blant, tad a mam, ac amryw berthynasau i alaru eu colled. Bydded i'w gynghorion difrifol gael eu hystyried, a bydded i'w weddiau taerion gael eu hateb, a bydded Tad yr amddifaid a Barnwr y gweddwon" yn nawdd ac yn etifeddiaeth i'r teulu trallodedig hwn.- Cyfai.il. BODVAL." Nid drwy farddoni mae'r awengar Mr. John W. Thomas yn gwneud ei fywioliaeth, canys gwelwn ei fod wedi ym- sefydlu fel draper ar ei gyfrifoldeb ei hun yn Fulham Road. Am yn agos i ddeunaw mlynedd bu yn gofalu am un o fasnachdai eang Mr. Timothy Davies yn Walham Green, ac nid oedd neb yn fwy ei barch nag efe yn y faelfa honno. Cyn hynny bu yng ngwas- anaeth Mr. R. 0. Davies am rai blynyddau, felly gallai y saw] a fyddai yn barod i'w gefnogi yn ei anturiaeth newydd wneud hynny mewn hyder y cawsai bob croesaw a'r bargeinion goreu, ac hwyrach bennill addas os digwyddai iddynt brynnu yn hael ganddo. Pob llwydd iddo yn ei faes newydd, a ffortiwn yn ddiymdroi, canys dyna ddiwedd y draperiaid yma bob un. CLAPHAM JUNCTION. Cyngerdd a hir gofir fydd cyngerdd Beauchamp Road nos Fercher, Ebrill 27ain, am mai dyma y tro cyntaf i mi weled boneddiges yn y gadair mewn cyngerdd blynyddol. Yr oedd Mrs. Lloyd George yn ei hwyliau goreu, a chaf- wyd anerchiad campus ganddi. Yr oedd Mr. Emlyn Davies a Mr. John Roberts, fel arfer, yn canu yn dda, a medda Miss Gwladys Lloyd lais swynol; hefyd Miss Enid Edwards. Cof gennyf am fam yr olaf, Madame Annie Williams, yn un o'r con- traltos blaenaf, ac yn sicr mae ei merch yn meddu talent neilltuol ac yn canu gyda phurdeb. Brysied y dydd y gwelir capelau Llundain yn gwerthfawrogi talentau lleol. Mr. Jones (Eifionydd), Charing Cross Road, enillodd ar unawd y bechgyn, a Miss Wallis, Seven Sisters Road, ar unawd y merched.
TY'R GLEBER.
tymor ddiwedd y mis hwn. Mor bell ag y bu Cymru yn yr achos ni lwyddwyd i gael unrhyw fater o bwys arbennig i'w ddadlu o flaen y Ty. Y doniau personol. Ym mysg y rhai mwyaf bywiog yn ein plith, rhaid gosod Mr. J. D. Rees eto yn rheng flaenaf y nifer. Gwr poenus yw efe, a myn holi cwestiwn ar bob pwnc, ac yna croeshola pob atebiad, megys pe bae'r cyfan yn fath o lys Hindwstanaidd. Gall Mr. Rees wneud aelod rhagorol ryw ddydd, ond y mae'n rhaid iddo ddiwygio llawer iawn. Yr ydym fel plaid yn llawenhau yn y gydna- byddiaeth fechan roddwyd i alluoedd Mr. William Jones fel cefnogydd y Weinydd- iaeth. Rhagor na gwylio mudiadau yr adran Gymreig, mae William Jones yn wr call, ac yn un y gellir ymddiried materion pwysig iddo i ymdrin a hwy. Trwy ei ddoethineb a'i fedr ef yn bennaf y llwyddodd Mr. Lloyd George gymodi y pleidiau Gwyddelig fel ag i sicrhau y Gyllideb drwy Dy'r Cyffredin. Mae Mr. Mond, fel aelod newydd, yn hynod o graff gyda'r galwadau Cymreig, ac nid syndod ydyw clywed ei fod yn awyddus am ad-drefnu yr holl gymdeithasau Rhydd- frydol drwy Gymru. Os llwydda i osod y rhain ar seiliau mwy Democrataidd ac i gynrychioli barn yr etholwyr yn fwy cywir bydd ei ddyfodiad i Gymru, wedi'r holl wrthwynebiad, yn sicr o droi yn fendith i'r blaid. Y ddau barti. Byddai hanes y tymor yn anghyflawn heb son am y ddau barti sy'n cynrychioli Cymru yn y Senedd yn awr. Fel y gwyddis, adna- byddir y rhai hynny o honom sydd dan arweiniad Syr Alfred fel "Y Blaid Gym- reig gyda'r pwyslais ar yr Y cofier. Rhifa hon 32 o ffyddloniaid, ac yna mae'r ddau ereill yn cyfansoddi y parti Toriaidd. Gan eu bod yn newydd-ddyfodiaid i'r Ty ac yn anghynefin a'i weithrediadau bu rhai o honom yn rhoddi cyfarwyddyd iddynt, a phenodwyd Mr. Venables Llewelyn yn gadeirydd gyda Mr. Ormsby Gore yn chwip. Pan gynydda y parti mewn nifer yr ydym yn barod i benodi rhagor o swyddogion iddynt, ond rhaid ymfoddloni ar hyn am y presen- nol gan mai dau ydynt. Y maent yn ddau wr ieuanc hynod o ddymunol, ac yn ennill parch ac edmygedd yr holl aelodau Cymreig ereill. Gan mai ymysg yr Wrthblaid y mae'r ail barti hwn, y mae ei aelodau wedi cael digon o fanteision i feirniadu, a gwnaed hynny ganddynt droion yn dra effeithiol. Y mae rhagolygon addawol i'r ddau hyn I