Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Special Offer to Kelt' Readers. .Ã.&&&_&&& The AMORIA FOUNTAIN PEN FOR 3/6 EACH. GUARANTEED FOR TWO YEARS.— at last within the reach of all. Superior to any offered at Half a Guinea, and suitable to ) I all writers. Implement Large I4 Carat Gold Nib, in MjtjtM all points and degrees of flexi- bility. Best Vulcanite holder, twin mMMm feed and British make through- out. Will prove a faithful com- panion for a lifetime with fair wear and use. I' mtt Every pen carefully tested and guaranteed for Two Years. c ) Send a steel nib and style of writing, and we will fix you up with a reliable pen-and not a toy. r.u,p,¡ !DI._1IIiI Money Returned if not satisfied. PRICE 3s. 6d. POST FREE. Send for one at once and save 7s. AGENTS WANTED EVERYWHERE. To be had only at "KELT" OFFICE, 302, GUY'S IN RD., LONDON, W.C. THE O K 3XTTRA.X. INSURANCE COMPANY, LIMITED. Guaranteed by the Liverpool and London & Globe Insurance Co Assets exceed £ 11,000,000. Fire, Burglary, Workmen's Compensation, Accidents, Third Party Indemnity, Plate Glass, Loss of Profits, &c., &c. Write for Prospectus: Head Office-1, CORNHILL, LONDON, E.G. HUGH LEWIS, Manager and Secretary.
-------AIL OSOD Y SEILIAU.
AIL OSOD Y SEILIAU. Yr wythnos nesaf ail-gyferfydd y Senedd ar ol seibiant y SuJgwyn. A thy mor o seibiant yn llawn digwyddiadau a fu befyd Bydd breriin arall ar yr orsedd i groesawu'r ail-gyfarfyddiad a phynciau ereill i'w trin ganarweinwyr y gwahanol bleidiau fyuychant ddau Dy'r Senedd. Myn rhai fod y cyf- newidiadau allanol hyn wedi llwyr gyfaewid popeth ynglyn a rheolaeth ein bywyd gwleidyddol, ac mai yn ofer y gall Rhydd- frydwyr ddisgwyl am ail ymosod ar safle Ty'r Arglwyddi fel y bwriadent pin yn ymwa- hanu i fwynhau gwyl y Sulgwyn Mae'n wir fod y Brenin wedi marw, ond nid yw honiadau y Ty Uchaf wedi eu di- rymu. Yn ol y safle heddyw, mae Ty'r Arglwyddi yn ben ar ein holl allu gwleid- yddol. Nid yw ein rhyddid ond rhith, na'n cynrychiolaeth yn Nhy'r Cyffredin ond gwegi, os myn yr Arglwyddi roddi eu gallu mewn gweithrediad. Ac hyd nes y ceir rhyw ddealltwriaeth ar hyn o fater prin y gwelwn y gall y Rhyddfrydwyr aros yn ddistaw am un wythnos wedi iddynt ail- gynnull yn Westminster. Gwir fod yna lawer iawn o waith i'w gyflawni; Hawer o fan bethau i'w gosod mewn trefn fel ag i wneud teyrnasiad y Brenin newydd mor hwylus ag y mae'n ddichonadwy, ond pwnc arall ydyw'r cri am ohirio'r frwydr cydrhwng y werin a'r Uchel- wyr. Gwelwn fod y newyddiaduron Tori- aidd ar eu heithaf yn dadlu dros ohirio'r cyfan, ond os cytuna'r Rhyddfrydwyr a hyn o gyngor, bydd eu'hachos wedi ei ddinystrio yn llwyr, ac ni fydd esgus ganddynt i godi cri yn erbyn y Ty Uchaf byth ond hynny, a gall yr Arglwyddi ail-hawlio yr un gallu ag a honnent ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf ynglyn a rheolaeth trefniadau ariannol y deyrnas. Nid enillir dim drwy ohirio'r ornest. Yn wir, anfantais i'r werin fydd unrhyw gytun- deb neu gyfaddawd ar hyn o bryd. Beth bynnag yw barn y Teyrn am safle Gyfan- soddiadol y deyrnas hon, cred y werin mai yn ei dwylaw hi y mae'r rheolaeth i fod wedi'r cyfan. A rhaid cael cytundeb pen- dant ar yr egwyddor hon cydrhwng y ddau Dy cyn byth y gall Prydain obeithio am un mesur o ryddid ac uniondeb. Am hyuny, dyledswydd cyntaf ein harweinwyr ar hyn o bryd, ac ar ddechreu teyrnasiad brenin arall, yw penderfynnu unwaith ac am byth, pa un ai'r wlad ynte'r Arglwyddi sydd i fod yn bennaf yn eia rheolaeth
Colli eu Nawddogaeth.
Colli eu Nawddogaeth. Druan o Mr. Lloyd George mae helbulon byd a nefoedd wedi disgyn ar ei ben. Un o'r pethau diweddaf y gosodir ef yn gyfrifol am dano yn awr ydyw diffyg cefnogaeth ein gwyr mawr i Eisteddfod y Cymry Mae amryw o bendefigion Môn ac Arfon wedi datgaa nas gallant gefnogi y sefydliadau hyn gyda'u tanysgrifiadau, oherwydd y beichiau newydd y mae'r Canghellor wedi osod arnynt! Nid dyma'r tro cyntaf i fawrion ein gwlad gefnu ar yr Eisteddfod, a bu fy w yn llwyddiannus er gwaethaf eu diffyg cefLOgaeth yn yr oesau gynt; a diau y daw yn fwy poblogaidd fyth pan ddealla'r werin fod yr hanner-Saeson hyn yn myned i'w gadael eto. Nid oes eisieu i bwyllgorau lleol bryderu, canys daw'r hen Wyl ymlaen yn siriol heb gymorth y gwyr tuchangar hyn. Cydymdeimlad Gwir. Gan i farwolaeth y Brenin ordoi y galanas ymysg glowyr Whitehaven, ofnid ar y dech- reu na fuasid yn llwyddo i godi cronfa deilwng i gynorthwyo'r gweddwon a'r plant. Ond yr oedd y trychineb y fath nes peri pob calon i doddi; a deallwn yn awr oddiwrth Faer y dref fod yn agos i ddeugain mil o bunnoedd wedi dod i law a bydd y swm hwn, ynghyd a'r hyn a geir fel iawn tan Ddeddf y Gweithwyr, yn ddigon i gyfarfod a gofynion y rhai a adawyd yn ddiamddiffyn. Y mae'n llawenydd gennym glywed am hyu, a phrawf fod y genedl wedi teimlo yn ddwys dros y rhai a adawyd ar ol, yn ogystal ag a'r rhai a laddwyd yn y lofa dan y fath amgylch- iadau ofnadwy, heb obaith am ymwared mlt diangfa. Y Ddiwynyddiaeth Newydd. Mae ysbryd rhyddfrydig yr oes yn graddol ymwthio i'r cylchodd crefyddol, a dywedir fod disgyblion y Ddiwynyddiaeth Newydd yn myned ar gynnydd yn ddirfawr. Gwir fod rhai o'r hen gewri yn edrych gyda dirmyg ar Mr. Campbell a'i ganlynwyr; ond rliywaut neu gilydd y mae'r gredo newydd yn apelio at yr ieuanc a'r ityddiog. Ceisir anwybyddu apostol mawr y mudiad ym. mhrif gynhadleddau yr Anibynwyr, a dywed y Calfiniaid fod eu Cylfes Ffydd hwy yn condemnio'r heresi newydd hon yn ddi- floesgni. Waeth hynny na rhagor, myned ar gynnydd y mae, a'r dull diweddaf i geisio lladd y gredo ydyw drwy droi y gweinidogion allan o'r eglwysi, dan yr esgys nad ydynt yn pregethu yn unol a gofynion y gwahanol addoldai Ymneillduol. Mae'n debyg fod yr hen ddeddfau dan y rhai y sefydlwyd ami i gapel yn cyhoeddi pa fath ddysg raid roddi ynddynt, ac os yw'r gwahanol enwadau yn myned i gadw at lythyren y gyfraith, bydd raid cau drysau llawer o eglwysi yr Anibynwyr a'r Bedyddwyr. Pan gyhoeddir adroddiad y Ddirprwyaeth Eglwysig ynglyn ag addoldai Cymru, bydd yn agoriad llygaid i rai o honom-y fath delerau a osodwyd i lawr ar gychwyn yr addoldai hyn OaifI yr Y m- neillduwyr weled nad ydynt mor "rhydd" eu syniadau ag y credent eu bod. Dad hwyrach y ceir ail-argraffiad ac ail gyfan- soddiad o'r Cyffes Ffydd ei hun cyn gwelirv fath adroddiad gan y cyhoedd