Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

" WEDI'R DON.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

WEDI'R DON. Oreodd mynediad anisgwyliadwy ein odiweddar deyrn Iorwerth VII don enfawr o gyffro a galar dros ein gwlad. Drwy. ei natur dda, eangfrydedd ei feddwl, doethineb ei drafodaethau, heddychlondeb ei ysbryd, a'i ffyddlondeb i iawnder, enillodd iddo ei hunan le dwfn yn serch ac edmygedd bonedd a gwreng. Rhoddwyd iddo gladdedigaeth urddasol. Unodd pob teyrnas i anrhydeddu ei goffadwriaeth. Gwisgwyd dynion, tai, pulpudau, asynod, a chwn mewn galarwisg- oedd. Taflodd yr alar-don ddigwyddiadau mawrion megis esgyniad Dr. Alexander Maclaren a than glofa Whitehaven i'r cysgod. Cilgwthiodd miliynau o bersonau i neuadd Westminister i weled brethyn glaagoch, milwyr digyffro, a chanwyllau cwyr yn llosgi. Arhosodd tyrfaoedd allan yn yr heolydd drwy y nos yn y mellt a'r gwlaw, a daeth miliynau ynghyd i gael cipolwg ar yr angladd yn myned i Windsor. Nid ydym heb feddwl na all daioni ddeilliaw o'r alar- don fawr ymdaflodd dros gymdeithas Teimlad y dorf oedd nad yw dyn yn darfod yn angau. Diau fod anhawsterau dirfawr i gredu mewn anfarwoldeb. Os hydd gwr farw, a fydd efe fyw dracliefn ? "Pa fodd y cyfodir y rneirw, ac a pha ryw gyrff y y deuant ? Dichon fod cyfatebiaeth natur yn dangos y posibilnvydd o fywyd wedi bedd. Owyddom mai dyhead ein hymwybyddiaeth ddyfnaf yw byw. Gwrthdystia yn erbyn difodiant. Adgyfodiad Iesu yw yr unig fynegiad o adgyfodiad dyn. Gwyddom fod materoldeb wedi bod ac yn gweithio i ddysgu mai yn y byd hwn yn unig y mae bywyd, ac nad oes fywyd uwch na'r anianol yn bod. Hyn yw baich llawer o'n llenyddiaeth bob- iogaidd ar hyd y blynyddoedd, ac ymgais pregethau agnostaidd ein heolydd a'n neu- addau. Er y cwbl oil parha y byd i gredu nad yw dyn yn darfod yn y bedd. Teimlad y dorf hefyd oedd fod perthynas agos cydrhwng bywyd yn y byd hwn a bywyd :wedi bedd. Ystyr y gair "cynhebrwng" yw cyd-hebrwng—ei gydnabod a'i ewyllys- wyr da yn cydgerdded i anfon ymaith y marw i wlad tuhwnt i fedd. Gair rhyfedd yw "angladd"; diddaearu, heb ei gladdn. Onid oes ynddo ryw awgrym o rywbeth nad yw yn cael ei orchuddio mewn bedd. "Nugladd" hefyd sydd air mynegiadol am fywyd na leddir. Anglawdd sydd hefyd hen enw Cymreig am fynweat. Teimlir sran y werin fod a fynno bywyd wedi bedd a bywyd blaenorol iddo. Arferai yr hen Gyrnry gladdu eu meirw mewn carneddau yn y rhai y gosodid holl gelfi a phopath oedd yn anwyl gan y rhai gleddid. Gesyd yr Indiaid Americanaidd geffyl, bwa saefchu a chleddyfau eu penaethiaid gyda hwynt yu y "bedd fel y gallent gael eu gwasanaeth vn y byd nesaf. Oariwyd esgidiau, cyfrwy, wiilwrwisg, a choron Iorwerth Vll do. &rweiniwyd ei geffyl a'i gi Caesar i'w arwyL yn awgrym fod perthynas cydrhwng bywyd yr ochr hon a bywyd yr ochr draw. Teimlai y dorf hefyd fod dedwyddwch bywyd mewn byd wedi bedd yn cael ei fvyhau gan ddymuniadau da byivyd tuallan iddo- dymuniadau da ereill. Hyn oedd ystyr y blodau, y galarwisgoedd, a'r arddangosrwvdd dros yr holl wlad. Dylasai Iorwerth VII fod yn ddedwydd iawn oherwydd cafodd ddymuniadau da pob dynion. Ni chafodd neb fwy. Nis gwn pa faint o'r ewyllys berffaith sydd yn ewyllysiau y werin. A Oes angen bod yn y perffaith i fod yn ddedwydd ? Teimlai y dorf yn gryf yn erbyn disgyniad Mewn byiyyd. Enynnai gweddw Iorwerth VII dosturi mawr y dorf. Dim coron, dim rnawredd. mwy. Cwymp ffieiddir gan bawb. Edmygir Calfaria yn fwy nag Eden. Ar i iyny y mae bywyd i fyn'd. Teimlai y dorf yn fyw iawn dros ddyfodol ein teyrnas. Gweddiodd miloedd ddydd yr angladd am i'r teyrn Sior V i fod yn frenin da. Mae cydwybod y byd gyda Duw. Vox POPULI.

A BYD Y GAN.

Am Gymry Llundain.