Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TIEIJE I CENTRAL INSURANCE COMPANY, LIMITED. I GUARANTEED BY THE B Eitmrpooi aittr 3Caitbon aub 09111he Insurance (go. 1 Assets exceed = £ 11,000,000. FIRE. BURGLARY. WORKMEN'S COMPENSATION. I PERSONAL ACCIDENT. THIRD PARTY INDEMNITY, Including Driving Accidents. PLATE GLASS. f LOSS OF PROFITS. I KINDLY I sPecial^attenti011 ls called to the Company's FORE- I I MOST" Personal Accident.& Disease Policy, which I WRITE FOR I provides for Free Medical'Attendance of Assured's PROSPECTUS I own Doctor' ,n addition to the usual Compensation I I for Accidents and Diseases. H Office for THE LIVERPOOL & LONDON & GLOBE for L IF E INSURANCE. Head Office: 1, CORNHILL, LONDON, E.C. HUGH LEWIS, Manager & Secretary. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, Aberystwyt, (ONE OF THE CONSTITUENT COLLEGES OF THE UNIVERSITY OF WALES). President-THE RIGHT HON. LORD RENDEL. Principal-T. F. ROBERTS, M.A. (OXON.), LL.D. (VICT.). STUDENTS are prepared tor Degrees in Arts, U Science (including the applied Science of Agricul- ture), Law, and Music. Sessional Composition Fee, £10, with additional Laboratory Fees foi Science Students. Registration Fee, 21. Men students reside in registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel-Warden: Professor J. W. Marshall, M.A. Women students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women-Warden: Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar.
DIWYGIO'R FUGEILIAETH.
DIWYGIO'R FUGEILIAETH. Un o'r sefydliadau mwyaf paganaidd a cheidwadol yn ein plith fel crefyddwyr heddyw, ydyw y pulpud. Mae rhyw swyn neu hud ynglyn a'r lie, ac a galwedigaeth y rhai a'i mynychant, nas goddefir i fodau cyffredin ymdrin a hwynt; ac y mae'r fath geidwadaeth ynglyn a'r trefniadau nes peri i ni feddwl mai cynnyrch yr oesoedd tywyll yw'r cyfan i gyd. Pan y mae gweinidog yn symud o'r naill fan i'r Hall, rhaid dweyd mai "oddiuchod" y daeth y cynllun, a phan yn awgrymu cyfnewidiadau ynglyn a diwygio yr areithfa, llechir mewn rhith-sancteidd- rwydd, o'r tu ol i'r gaerfa, drwy ddweyd mai porth y nefoedd ydyw. Mae'n beth hollol gweddus i dalu parch i'r lie a'r alwedigaeth ond daw galwad arnom ar adegau i edrych ar y wedd faterol i bethau, gan ddisgyn o'r uchelfeydd traddodiadol a gwynebu ffeithiau yn onest fel y maent. Ac un o anghenrheidiau yr oes nesaf ymhlith Cymry'r ddinas fydd ad-drefnu'r pulpud, a chreu rheolau newydd ynglyn a'r fugeiliaeth ymhlith ein heglwysi yn gyffredinol. Fel y maent heddyw, rhaid addef nad oes na rhinwedd ha chyfiawnder ynglyn a'r cyn- llun a'u rheola. Gadewir i'r eglwjsi fod mor fympwyol nes lladd ami í fugail cyn treulio hanner ei oes, ac o'r tu arall caniateir i fugail i ddihoeni mewn maes nad oes gobaith am un gradd o lwyddiant ar ei lafur na phraidd ei ofal. Gall fod y cynlluniau sydd mewn grym yn awr yn rhai priodol i'w defnyddio mewn ardaloedd tawel, neu yn hollol addas i gyflwr yr eglwys yn y canrif- oedd gynt; ond cwestiwn arall ydyw, a ydynt yn gyfaddas at anghenion Cymreig presennol y ddinas hon. Yr unig enwad sydd wedi sylweddoli gwir angen yr oes bresennol ydyw'r Wesleyaid. Trefnant hwy i'w bugeiliaid gael eu symud yn achlysurol; ac er fod rhai anhawsterau i'r cynllun, rhaid cydnabod fod gwerth ynddo ynglyn a dinas fel Llundain. Yma, nid oes disgwyl i neb fod ar ei oreu am dros ddeng mlynedd, a phrawf hanes yr eglwysi yn ystod y deugain mlynedd diweddaf eu bod yn lladd eu gweinidogion ymhen tua deng mlynedd. Mae'r mynd parhaus, a'r galw am wasanaeth egniol ar bob dydd o'r wyth- nos, yn gorfodi y goreu o'n pobl i laesu dwylaw, os am barchu iechyd a chysur meddyliol; a byddai yn werth i bob enwad gycbwyn diwygiad yn hyn o beth, gan drefnu tymhorau arbennig i'r rhai lafuriant fel bugeiliaid yn y ddinas. Cofnodir gennym yr wythnos hon am ymadawiad un o fugeiliaid mwyaf gweithgar PARCH. S. E. PRYTHERCH, o Eglwys Falmouth Road, Llundain, yr. hwri sydd yn symud i ofal bugeiliol yr Eglwys Fethodistaidd yn Llanbedr Ceredigion. [Gwel tudalen 6 ] y Cyfundeb Methodistaidd, ac er ei golli o'n plith yr ydym yn llawenhau wrth weled fod Mr. Prytherch wedi sylweddoli mai mantais iddo ef, ac i'r eglwys, fydd newid cylch. Mae'r gor lafur a'r pryder eisoes wedi gwneud ei ol ar ei gyfansoddiad cadarn ond mae'r profiad helaeth, a'r addysg ragorol gafodd mewn maes mor amrywiol, yn sicr o brofi yn dra gwerthfawr iddo mewn cylchoedd ereilL Saif heddyw yn rheng flaenaf ein meddylwyr, a rhaid i'r meddyliwr wrth fwy o dàwelwch nag sydd yn ddichonadwy mewn dinas fel hon. Ac nid hudoliaethau materol sydd yn gyfrifol am y cyfnewidiad, canys nis gall ei faes newydd amcanu i fod hanner mor gyfoethog yn yr ystyr faterol a'r maes y mae wedi llafurio ynddo gyda'r fath ddyfalwch. Ac yn ei ymadawiad dylai'r Cymundeb, ac eglwysi yr enwadau ereill, ymholi ai nid yw yn hen bryd i ni ad-drefnu'r fugeiliaeth, a gosod y pal pud ar sylfaen mwy cadarn, ac yn fwy cydweddol a gofynion y cylch a'r OOJi yr ydym yn byw ynddynt ?