Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
PARCH. G. HARTWELL JONES, D.D., Rheithor Nutfield, Surrey.
NODIADAU LLENYDDOL.
NODIADAU LLENYDDOL. Rhagor o feirdd Mae canlyniadau arholiad Gorsedd y Beirdd wedi eu gwneud yn hysbys, a dengys fod pump o bersonau wedi llwyddo i ddyfod yn feirdd a thri yn ofyddion. Nid yw'r nifer yn rhyw galonogol iawn i'r gyfundrefn bresennol, a theimlwn ei bod yn llawn bryd i'r rhai sydd yn trefnu yr arholiadau hyn i ddyfeisio rhyw gynllun newydd i fod yn fwy atyniadol i efrydwyr ieuainc ein gwlad. Y rheswm fod mor ychydig yn ymgeisio am Urddau'r Orsedd ydyw gwaith yr Orsedd ei hun yn dibrisio graddau. Rhoddir teitlau aiirhyd- «ddus mor hael ymhob Eisteddfod nes peri i bawb gredu mai het silc neu bais o'r ffaaiwn ddiweddaraf ydyw'r unig beth angen- rheidiol i wneud birdd Y mae yn llawen- ydd i ni ddeall nad ydyw plant Llundain wedi llwyr anghofio'r wyl fu yma y llynedd, canys gwelwn fod Mr. Tom Evans (Obell), 274, St. Paul's Road, Highbury, ymysg yr enillwyr am Urdd Bardd. Rhaid i Obeli" bellach gael ei gyfrif ymhlith Beirdd y CELT, a gwae'r neb a fyddo'n destyn englyn o'i -eiddo. Engtyn i'r Gobenydd, Tra yn siarad am englyn y mae'n am- heuthyn clywed am ami i fardd yn parhau i arfer ei ddoniau cynghaneddol, er wedi cilio dros y don era talm. Ceir nifer fawr o "4( nyddwyr y cynghaneddion yn yr America, a phrawf yr Eisteddfodau geir yno, fod ami i gyfansoddiad gwych yn cael ei droi allan o'r peiriannau cynghaneddol. Wrth reswm mae rhai cynyrchion symol yn ogystal a rhai da" yn gwneud eu hymddangosiad, a chredaf mai i'r dosbarth symol y perthyn yr englyn a ganlyn, a wobrwywyd yn un 0 Eisteddfodau diweddaraf y Taleithau. Yr oedd 68 yn ymgeisio am englyn i'r "00- benydd," a dyma'r un, o waith Mr. Ben Thomas, Granville, oedd yn oreu :— Clustog wen yw'r gobenydd—o luniad Glanwedd, mwyth a chelfydd Haelfawr hoen i glaf a rydd A'i ben lareiddia beunydd. Canu i'r Corned. Nid yw'r beirdd, hyd yn hyn, wedi gorffen eu clodydd i Gomed Halley, a dywedir fod ymweliad Corned Halley wedi dylanwadu yn fawr ar fywyd y negroaid yn ynysoedd y De. Ofnent fod diwedd y byd yn agoshau, ac wrth gwrs, edifarhaent wrth yr ugeiniau, ac fel hyn y canodd un bardd Americanaidd iddynt Ti bechadur anystyriol, sydd yn gwawdio moddion gras, cofia 'rwan fod y gomed ar dy warthaf, adyn cas; 'rwyt yn yfed ac yn 'smygu ac yn poeri hyd y lie, ond ystyria, di ddyhiryn, wele'r gomed yn y ne Di bechadur, edrych ati, gad dy fywyd ynfyd draw; mae erch gomed Mistar Hali a'i gwialen yn ei llaw. Ti sy'n gwadu na fu Adda na'i anufudd wraig erio'd, ac na fu na sarff na diluw na'r un asyn Bal yn bod; ac nad gwir mo'r hen hanesion sydd yn achub enaid clau felly 'rwan edrych ati a dechreua 'difarhau Pregeth ddeil i'w hail-glywed. Cynyrchion a ail-adroddir yn ami ydyw pregethau, tra mai prin y mae llawer o honynt yn werth eu traethu fwy nag un- waith. Ac am y pregethau a gyhoeddir ar gymhelliad taer ychydig o honynt a ddar- llenir er budd gan y cyhoedd. Ond wele gyfansoddiad i law sydd yn werth ei astudio a'i ail-ddarllen Pregeth ydyw a draddod- wyd ar achlysur ail-agor Eglwys St. Padarn yn Holloway gan y Doethawr G. Hartwell Jones, Rheithor Nutfield. Gwyr ein dar- llenwyr am Dr. Jones ei fod yn un o ddys- gedigion pennaf ein cenedl, ac ystyrir ef yn un o oleuadau y pulpud gan yr Eglwys Sefydledig yn Lloegr. Gwerth y Gymraeg er dysgu crefydd i'r Cymro yw prif ergyd y genadwri geir ynddi, a dyma ddywed :— Gofynnir weithiau, yn enwedig gan Saeson a Chymry wedi eu Seisnigeiddio, paham y rhaid wrth wasanaethau i'r Cymry ar wasgar mewn trefydd Seisnig? paham nad allant hwy fynychu Eglwysi Seisnig yr Eglwys Sefydledig, lie bynnag y byddont yn cartrefu? Yr ydwyf wedi cynnyg rhai rhesymau paham y dylem ddarparu ar eu cyfer. Dichon mai y peth mwyaf cyfleus, mwyaf digost a didrafferth, fyddai iddynt gydymffurfio ag arferion eu brodyr Seisnig ond os yw y gwaith yn anhawdd, peidiwn a dannod ryw ychydig o drafferth neu draul. Ni thycia crefydd heb hunan-aberth. Mae'n ddigon hawdd i Eglwyswyr Seisnig a Chymry Seisnigaidd, na wyddant ddim am amgylchiadau y Cymry y tu yma i Glawdd Offa-ac i ddweyd y gwir goleu, ni waeth ganddynt beth a ddaw o'u cyd wladwyr- siarad fel yna; ond nis gallwn ni gau ein llygaid yn erbyn ffeithiau anwadadwy. Mae'n wirionedd dilys fod crefydd yn seinio yn wahanol ac yn fwy effeithiol i glustiau y Cymro, yn treiddio yn ddyfnach at ei galon, yn dyfod yn agosach i'w amgyffrediad, yn dylanwadu yn fwy ar ei rodiad a'i fuchedd, pan y cyflwynir hi i'w sylw yn iaith ei fam, Mae'n wirionedd dilys fod serch at eu hiaith wedi greddfu a'i blannu mor ddwfn yn natur y Cymry megis, os na chant wasanaethau Eglwysig yng Nghymraeg, yr elont i chwilio am foddion gras i'w bodd mewn rhywle y tu allan i gorlan yr Eglwys. Mae'n wirionedd hysbys fod yr Enwadau wedi darparu ar gyfer eu haelodau er's blynyddoedd maith, ac wedi blodeuo yn ninasoedd Lloegr. Nid gwiw i ni wadu na chau ein llygaid i'r ffeith- iau diamheuol hyn. A chyda pha wyneb, gan hynny, y arall neb haeru na fedr ac na ddylai yr Hen Fam, Hen Eglwys y Cymry, edrych ar ol ei deadellau gwasgaredig, wedi iddynt ymadael i'r hen aelwyd, pan y byddont ymhell oddicartref, pan y byddont yn agored i ddylanwadau niweidiol dichell- gar, gaugrediniaeth, moesau dinasol ac opiniynau cyfeiliornus ag y mae ein cyd- wladwyr ieuainc yn byw yn eu canol ? Onid dyma'r ysbryd a andwyodd yr Eglwys yng Nghymru yn y gorphenol ? Onid ydyw ein haflwyddiant i'w briodoli i raddau helaeth i'r Esgobion hynny, neu yn hytrach y gwladweinwyr bydol dan rith Esgobion, a anfonwyd i Gymru i ysigo ysbryd y genedl ? Onid ydym yn dioddef hyd heddyw oddi- wrth y camgymeriadau hyn? Onid hyn sydd wedi atal cynnydd yr Eglwys mewn oesau diweddarach, ac wedi cadw draw ran fawr o'n cydwladwyr ? GLYNNWCH WRTH Y GYMRAEG Chwi, bobl ieuainc, sydd ym moreu eich hoes ac ar ddechreu eich taith trwy'r byd, yr amser pan y mae y galon yn gynnes, a'r teimladau yn dyner, a gobaith yn goreuro y dyfodol, gosodwch eich nod yn uchel, pender- fynwch fod yn uchel mewn daioni, duwiol- deb a defnyddioldeb; bydded Cymru Lan yn well gwlad, a'r byd yn well oherwydd i chwi fyw ynddynt. A chwithau sydd wedi cyrraedd oedran addfedach neu benllwydni, gallaf ateb drosoch chwi. Er na chawsoch chwi, fe ddichon, fwynhau y manteision ag y mae y genhedlaeth hon yn eu meddu, eto chwi a allwch o eigion eich calonnau ymhyfrydu yn eu breintiau hwy. Eto, chwi a allwch gyd- lawenhau a dymuno llwyddiant i wlad eich genedigaeth, chwi a allwch hefyd ddweyd, fel y dywedodd Archddiacon Prys am Gaer- salem Os a'r hen Eglwys o fy nghof Anghofied dehau ganu Na throed fy nhafod, oni bydd Hi'n ben llawenydd imi. Yr ydwyf wedi gweled ambell dro y mynyddwr yn yr Alpau, wedi penderfynnu eagyn rhyw fynydd mawreddog, yn cychwyn yn hwyr y noswaith o'r blaen, er mwyn cyr- raedd godreu y mynydd erbyn y bore. Yna y mae y nos yn agoshau ac yn amdoi gwyneb y wlad. 0 flaen y teithydd y mae peryglon, creigiau serth, a gangendorau mawrion yn ymagor. Ond ym mlaen yr a yn ddiar- swyd, ac wele drwy y tywyllwch oleuni llachar y Seren Foreu; yna, ym mhen ychydig, dacw y wawr yn dechreu ymwas- garu ac yn arliwio mynydd a mor, wedyn yr haul yn dyfod allan o'i ystafell yn ei ogoa- iant. O'r diwedd, dyna yr esgynydd ar ben y mynydd! Felly, yn yr un modd, bydded i'r Eglwys Gymraeg a'r Genedl Gymreig ddringo o dywyllwch i oleuni, ac esgyn rhwng y creigiau sydd yn eu hamgylchynu, sef culni ac anghytundeb. Uwch, uwch yr elont, trwy anhawsterau, trwy niwl rhagfarn, trwy dywyllwch siomedigaethau, nes y chwifia eu baner ar grib yr uchelderau, ac y cyfyd y fioedd fuddugol, Pwy wyt ti y mynydd mawr ? Ger bron y Cymro y byddi yn wastadedd."
[No title]
Ddydd Mawrth diweddaf aeth y Doethawr G. Hartwell Jones, Nutfield, drosodd i'r Cyfandir, a bwriada dreulio rhan o'i wyliau yn yr Yswissdir a'r Eidal. SYR E. VINCENT EVANS, Llywydd Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol Cymreig Llundain.