Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
THE GREAT WESTERN ^METROPOLITAN DAIRIES, THE LARGEST WHOLESALE MILK CONTRACTORS IN LONDON, Guarantee a supply of Pure Milk to Dairymen. -~>Z j<?j For Terms and Particulars Apply- [ 9, HARROW ROAD, PADDINGTON, LONDON TELEPHONE: 229 PADDINGTON. -W- .0. >
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. CHARING CROSS.—Disgwylir y Parch. P. Hughes Griffiths i ail-ddechreu ei ofal bugeiliol o'r eglwys hon y Sul cyntaf o Hydref. CITY ROAD.-Bydd yn llawen gan gyfeillion yr achos Wesleyaidd yma, ac yn y ddwy eglwys Gymreig arall, ddeall i'r nodachfa ddiweddar droi allan yn llwyddiant mawr. FALMOUTH ROAD. Llenwir pulpud yr eglwys hon gan nifer 0 ddoniau o'r wlad am y chwe mis nesaf. Yn y cyfamser caiff yr aelodau gyfleustra i edrych allan am olynydd teilwng i'r Parch. S. E. Prytherch. WILLESDEN GREEN.—Mae'r cyfeillion yn Willesden wedi gorffen y trefniadau ynglyn a'r capel newydd, a dechreua'r adeiladwyr ar y gwaith yn ddioed. Mae'r adeilad i gostio tua chwe mil 0 hunnau. PRIODAS.—Diwrnod mawr yng Nghapel Brunswick oedd dydd Mercher diweddaf, pryd y daeth amryw ugeiniau o'r aelodau a chyfeillion ynghyd i ddymuno llwydd ar uniad Mr. R. Pierce Jones a Miss Gippie Jones dau o ieuenctyd poblogaidd yr eglwys. Rhoddwyd y cwlwm priodasol gan y Parchn. J. Humphreys (gweinidog y lie), Richard Jones, B.A., Criccieth, (brawd-yng- nghyfraith y priodfab), a D. C. Griffiths, Folkestone. Gwasanaethwyd ar y priodfab gan ei frawd, Mr. Rowland Jones, Menai Bridge, ac ar y ferch ieuanc gan Miss Griffiths, Abertawe (cyfnither) a thraddod- wyd y cyngor arferol ar derfyn y seremoni gan y Parch. Rice Owen, Aberayron. Ar ol y gwasanaeth yn y capel, aeth y dorf i'r neuadd ynglyn a'r lie, ac yno croesawyd hwy gan Mr. a Mrs. J ones-rhieni y briodferch. Mwynhawyd ddwy awr hapus yno yn swn can ac araith, bob yn ail a'r moethau a thalwyd teyrnged uchel o barch i'r par newydd gan bawb o'u cydnabod. Ar y diwedd diolchwyd i'r brodyr am eu dymuniadau caredig gan Mr. Pierce Jones ar ei ran ef a'i briod, ac yna ymadawsant i'r Ynys Wyth i dreulio y mis mel, ynghanol cawodau o rice and confetti." m e Y PAR DEDWYDD.—Brodor o Sir Fon ydyw Mr. Pierce Jones, a bu am flynyddoedd yn flaenllaw iawn ynglyn a'r Eglwys a Chym- deithas Lenyddol y lie. Cymerodd, hefyd, ran amlwg ynglyn agUndeb y Cymdeithasau, a mudiadau cenedlaethol perthynol i'r Cymry yn y Brif. ddinas. Ychydig amser yn ol, pen- odwyd ef i swydd bwysig yn Preston, o dan Fwrdd Masnach, a deallwn ei fod yn llwydd- iannus iawn yn ei faes newydd. Unig ferch Mr. a Mrs. Jones, Roman Road, yw Miss Gippie Jones, ac yr oedd hithau, fel ei rhieni, yn selog iawn dros yr achos Wesleyaidd yn Brunswick. Mae eu lliaws cyfeillion yn Llundain yn dymuno pob llwydd iddynt yn eu byd newydd. CAPEL BRUNSWICK. Nos Saboth nesaf llenwir y pulpud yn y capel hwn gan y Parch. Richard Jones, B.A., o'r Bermo, yr hwn a gyfrifir yn un o ddoniau newydd y pulpud Wesleyaidd. Y CYMRY TLAWD.—Ers amryw flynyddau bellach mae'n arfer gan y Cenhadon Cym- reig, sydd yn llafurio ymhlith tlodion ein cydgenedl yn y ddinas hon, drefnu gwib- daith iddynt yn yr baf. Coedwigoedd Epping yw'r gyrchfan, fel rheol, gan fod y lie mor gyfleus o bob parth o'r dref; a dydd Mawrth diweddaf rhoddwyd yr wyl am y flwyddyn eleni. Yn ffodus cafwyd tywydd hynod o ddymunol, er fod yr argoelion yn y boreu yn lied anffafriol, a darfu i dros chwe chant fanteisio ar y gwahoddiad roddwyd iddynt i gael diwrnod yn y wlad ynghyd a phryd sylweddol o fwyd, ac anrhegion o foetbau yn y fargen. Yn gofalu am gysur y cynulliad yr oedd y cenhadon Mr. Thomas Jones, Mr. Llewelyn Davies, a Mr. Phillips, a chonorthwyid hwy wrth y byrddau gan gatrawd o wragedd parod i weini i'r rhai oedd yn llai ffodus na hwy yng nghysuron bywyd. Wedi cael y wledd yn Jubilee Retreat aed i'r maes agored, lie y cynhaliwyd cyfarfod hapus, dan arweiniad Mr. Abel Simner, y trysorydd. Siaradwyd ynddo gan y Parchn. J. Humphreys, R. 0. Williams, Herbert Morgan, a William Griffith, a'r Mri. Benjamin Rees a William Price, yn ogystal a'r Cenhadwr T. Jones. Yn ystod y wledd canwyd gan Miss Towena Thomas (King's Cross), Miss Morgan (Falmouth Road), ac ereill, a phrofodd y cyfan yn lies ac adlon- iant i'r nifer liosog ddaeth ynghyd. GOFALU AM YR HEN.—Yn ystod y eyfarfod ar faesdir Epping gwnaed sylw tarawiadol am ddiwydrwydd a hunan-barch y Cymry yn ogystal a theyrnged o glod i ofal y cen- hadon gan yr Henadur Mr. Everett, cydym- aith i Mr. Simner. Dywedodd y boneddwr hwn ei fod yn hanu o'r Ynys Werdd, a'i brofiad ef o dlodion y ddinas oedd mai nifer fechan iawn o'r Cymry oedd yn gorfod ymofyn am nodded y tlotty. Yn un o'r sefydliadau yr oedd ef yn gwasanaethu fel gwarcheidwad arno yr oedd chwe chant o Wyddelod allan o'r ddwy fil oedd yn y Ty, tra na cheid ond dwy hen Gymraes o fewn y muriau. Profai hyn fod rhywrai yn dra gofalus am gysur ac angen y rhai oedd wedi syrthio ar fin y ffordd ym mrwydr bywyd.
EISTEDDFOD CAERFYRDDYN 1911.
EISTEDDFOD CAERFYRDDYN 1911. Yn nhref hynafol Myrddin y cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn nesaf, ac mae'r pwyllgor Ileol yn gweithio gydag egni i wneud yr Wyl yn un o'r rhai pennaf yn hanes y Deheubarth. Rhoddwyd cychwyniad rhagorol i'r gweith- rediadau trwy gynnal Gwyl y Oyhoeddi ddydd Iau yr wythnos ddiweddaf, pryd y bu'r Archdderwydd a gosgordd o'r hil farddol yn rhoddi caniatad i gynnal Eis- teddfod yno ymhen un dydd a blwyddyn. Mae'r gwahanol bwyllgorau ynglyn a'r Wyl ar fin cwblhau y rhestr testynau, ac mae'r adrannau Llenyddol fel a ganlyn :— 1. BARDDONIAETH. 1. Awdl y gadair (heb fod dros 600 llinell)-" Ior- werth y Seithfed"; gwobr 220 a chadair dderw gerfiedig. 2. Pryddest y goron (heb fod dros 600 llinell)- Gwerin Cymru gwobr;220 a choron arian. 3. Cywydd (heb fod dros 300 llinell)-" Y Pysgot. wr gwobr 25. 4. Bugeilgerdd (heb fod dros 300 llinell)- Rhiw- allon o Lyn y Fan," gwobr 25. 5. Myfyrdraeth (heb fod dros 300 llinell)-" Ad- gofion Mebyd gwobr 25. 6. Telynegion (cyfres heb fod dros 300 llinell)- Chwe Sant Cymreig"; gwobr 95. 7. Tuchangerdd (heb fod dros 200 llinell)—"Y Coeg Ddysgedig gwobr 63. 8. Hir a Thoddaid-" Watcyn Wyn gwobr 92. 9. Englyn, "DailyrHydref"; gwobr .g1. 10. Marwnad i Syr Lewis Morris (heb fod dros 250 llinell); gwobr 210. Beirniaid :—Rhif 1, Elfed a Berw Rhit 2, Job a J. J. Williams; Rhif 3, Elfed a J. J. Williams; Rhif 4, 6, Eifion Wyn; Rhif 5, 7, 10, Bethel a W. J. Gruffydd Rhif 8, 9, Berw a Job. 2. DRAMA. 1. Am y ddrama oreu-Yr awdwr i ddewis ei destyn gwobr 210. Beirniad, O. M. Edwards, Ysw., M.A. 2. Am ddeg dadl fer; gwobr £ 7 7s. (rhoddedig gan Mri W. M Evans a'i Fab, Caerfyrddin;. Beirniad, Ifano Jones, Ysw., Caerdydd. 3. Am nofel fer yn ymwneyd a Syr Rhys ap Thomas a'i Amserau; gwobr £10 (rhoddedig gan Gwmni'r JOURNAL, Caerfyrddin). 3. CYFIEITHU. 1. Cyfieithiad mydryddol i Gymraeg o unrhyw chwech o delynegion Syr Lewis Morris gwobr E4 4s. 2. Cyfieithiad i Gymraeg o Rab and his Friends (Dr. John Brown) gwobr 24 4s. Beirniaid, yr Athro J. Young Evans, M.A., a T. Lewis, Ysw., M.A., Aberystwyth. 3. Am Gyfieithiad Mydryddol i'r Gymraeg o chwech o ganiadau Horace (Ode Book 1. 1-6) gwobr tS 8s. (rhoddedig gan Syr Marchant Williams). ¡ 4. TRAETHODAU. ■; 1. Yn Gymraeg neu yn Saesneg—Ymchwiliad beirn- iadol i werth hanesyddol Gweithiau Lewis Glyn Cothi; gwobr JB30. Beirniaid, yr Athro J. E. Lloyd, M.A., Bangor, a'r Athro T. Stanley Roberts, M.A., Aberystwyth. 2. Yn Gymraeg neu yn Saesneg—Cymru Rufeinig yng ngoleuni'r wybodaeth ddiweddaraf; gwobr 220. Beirniaid, yr Athro Ed. Anwyl, M.A., Aberystwytn. 3. Yn Gymraeg neu yn Saesneg—Ymdaith riarri Tudur o Aberdaugleddau i Faes Bosworth gyda manylion o lwybr ei daith, a chyfansoddiad ei fyddin; gwobr 215. Beirniaid, yr Athro J. E. Lloyd, Bangor, a Henry Owen, Ysw, DC L., Poyston. 4. Y Casgliad Goreu o Ganeuon Gwerin Siroedd Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro; gwobr £ 15. Beirn- iaid, Ben Davies, Ysw, Llundain, a'r Athro J. Lloyd Williams, D.Sc., Bangor. 5. Y Casgliad Goreu o Faledi Cymru; gwobr 212 12s. Beirniad, yr Athro W. Lewis Jones, M.A., Bangor. 6. Y Casgliad Goreu o Hen Chwareuon Plant Cymru, gyda manylion llawn gwobr £10. Beirn- iaid, y Parch. John Fisher, D.D Cefn, ac L. J. Roberts, Ysw., M.A., Rhyl. 7. Cyfrifoldeb Moesol Dinasyddiaeth yr Oes; gwobr 210. Beirniad, yr Athro D. Phillips, M A., Bala. 8. Yn Gymraeg neu yn Saesneg, a chyfyngedig 1 Gymry Tramor-Cymru fel yr ymddengys i Gymro, wedi ymadael a'i wlad gwobr £10. Beirniad, y Prif Athro T. F. Roberts, M.A Litt.D., Aberystwyth 9. Yn Gymraeg, a sylw neilltuol i'w dalu i'r ar; ddull—Y Disgrifiad goreu o Fywyd Gwledig Cymru gwobr £ 5. Beirniaid, Miss Winnie Parry a'r Parch- J. C. Morrice, M.A., Bangor. 10. Yn Gymraeg-Stori Fer yn un o dafodieitb- oedd Cymru; gwobr £ 5. Beirniaid, Eifionydd a Daniel Rees, Ysw., Llundain. 11. Lie a Phwysigrwydd Caerfyrddin yn Masnach Cymru gwobr £ 5 5. Beirniad, D. Lleu*e Thomas, Ysw., Pontypridd. 12. The best collection of Welsh Nursery Rhymes and Riddles with rhymed translations into Engli3*-1,: gwobr £ 10 10s. (rhoddedig gan Mri. J. M. Dent a Feibion, Llundain). Beirniad, Ernest Rhys, Ysw. 5. ADRODDIADAU. 1. Rhys Lewis. Act 1. Scene I. (Argraffiad at ej chwareu, cyhoeddedig gan Hughes a'i Fab. pump gymeryd rhan); gwobrt3. C,1311 2. Cyflafan Morfa Rhuddlan (Ieuan &1 Geirionydd) gwobr £ 2. Beirniaid, J. Edwards, Ysw., M.A., Treffynon, a'r Parch. Nicholson Jones, Hwlflordd.