Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Special Offer to Kelt' Readers. .Ã..A.A..A..A_AA_A_ C MBRIA The CAMBRIA" FOUNTAIN PEN FOR 3/6 EACH. GUARANTEED FOR TWO YEARS.- at last within the reach of all. Superior to any offered at Half a Guinea, and suitable to Large 14 Carat Gold Nib, in I all writers. CWriting Implement MJMm all points and degrees of flexi- bility. mHM Best Vulcanite holder, twin feed and British make through- out. Will prove a faithful com- panion for a lifetime with fair wear and use. N!N Every pen carefully tested and guaranteed for Two Years. osges NtM Send a steel nib and style of tNB writing, and we will fix you up iHB with a reliable pen-and not a toy. IDn Money Returned if not satisfied. PRICE 3s. 6d. POST FREE. Send for one at once and save 7s. AGENTS WANTED EVERYWHERE. • To be had only at "KELT" OFFICE, 302, GRAY'S INN RD., LONDON, W.G. THE "STANDARD" MILK CAN. The ean with a Reputation. Special Offer- Half Pints, 6/8 doz. Pints, 7/- Quarts 13/ Larger sizes in The Old-fashioned Hand-made Milk Can that will last. Prompt Deliveries on the Shortest Notice. Write for Catalogue DAIRY OUTFIT CO., LTD., KING'S CROSS, LONDON.
Y SAIS YN EI ELFEN.
Y SAIS YN EI ELFEN. Cafodd y byd Seisnig gyfle nodedig yr wythnos hon i ddangos ei wir anian. Bu ymladdfa wrthun rhwng dau baffiwr yn yr America, a bu'r helynt yn ddigon i gyfEroi dau gyfandir cyfan! Rywsut neu gilydd mae rhyw swyn mewn ymladd i'r Sais ymhob gwlad, ac yh enwedig os mai ymladd a wna yn erbyn cenedl arall. Ac yn yr amgylchiad hwn cynrychiolwyr dwy genedl, neu o leiaf ddau lwyth, sef y du a'r gwyn, oedd yn cymeryd rhan. Ymleddid brwydr y dyn du gan baffiwr sydd wedi ennill y gamp ymhob gornest yn ddiweddar, a chan nad oedd y dyn gwyn yn hoffi gweled anrhydedd y dosbarth hwn yn myned i rhyw niger dinod, wele ef yn dwyn ei gawr allan i herio'r dyn du i ornest arall. Trodd y fantol eto o blaid y croenddu, ac er adeg cynnal yr ymladdfa mae'r elyniaeth rhwng y llwythau du a gwyn wedi chwerwi yn eithafol yn yr America. Yn wir, daw hanes am lawer o laddiadau, ac mewn ami i dalaeth ofnir y ceir cryn draff- erth i gadw'r llwythau dan reolaeth am fisoedd lawer. Gwir mai yn yr America y bu'r arddang- osfa wrthun, ond.y syndod yw fod y wasg Seisnig yn y wlad hon wedi cymeryd y fath ddyddordeb yn y barbareiddiwch. Gwar- iwyd miloedd o bunnau i gael hanes y paratoi, ac wfft i'r fath ddisgrifiadau a gyhoeddwyd mewn ami i newyddiadur. Er hyn oil tystiai y byd newyddiadurol fod mwy o alw am bapurau y pythefnos di- weddaf hyn nag a welwyd ers chwarter canrif! Yr oedd pob dosbarth wedi eu cyffroi, a'r elfen anwaraidd wedi ei dihuno i'r pwynt mwyaf effro, a phwnc yr ymgom rhwng pob dau oedd yr ornest mewn tref bellenig o America Sut y mae i ni gyfrif am y fath awydd ymladdgar yn y Sais? Onid dyna ei hanes erioed? Y mae megis ar ei eithaf am drechu pawb ereill, ac yn gwallgofi am gweryla a rhywrai byth a hefyd. Yr un ysbryd sydd yn cyfrif am y ffolineb a'r gwastraff yn y wlad hon ynglyn a'r cynnydd pechadurus yn y Fyddin a'r Llynges. Myn yr ysbryd ymladdgar fod ar ei eithaf yn paratoi, ac yna ar ol paratoi, rhed i gweryla ar ei union, os teimla fod ganddo unrhyw fantais drwy orchfygu ei wrthwynebydd. A thra y rhoddir rhyddid i'r fath egwyddor gan Ryddfrydwyr, nid yw o un gwerth siarad am ddiwylliant a moes a chynnydd ysbrydol o fewn y tir. Yr unig wawr o obaith yn yr holl hanea gwrthun yw'r ffaith mai'r dyn du a ennill- odd y frwydr! Bydd hyn yn rhyw help i ladd yr ysbryd balch ac hunanol sydd yn y Saia a'r Americanwr mor amlwg; a dylai ddysgu gwers i ninnau yn yr ynys hon, fod yn bosibl i genedl arall, a gwlad arall, ennill buddugoliaeth yn y man. Tra y gosodir y fath fri ar greulondeb a bwystfileiddiwch, ofer disgwyl am gynnydd meddyliol na diwylliant a fydd o un gwerth i wneud ein cenedl yn gref ac yn anibynol.
[No title]
Ar wahan i'w alluoedd meddyliol, y mae Arglwydd Kenyon yn un o'r rhai talaf yn y Ty Uchaf. Y mae yn chwe troedfedd a phedair modfedd o uchder. Y mae'n ddyddorol sylwi heiyd mai Cvmry yw'r aelodau talaf yn Nhy'r Cyffredin, sef y Phillipiaid, brodyr Arglwydd Tyddewi. Dywed newyddiaduron y Cyfandir fod Carmen Sylva, Brenhines Roumania, yn wael iawn. Ar un adeg bu sibrwd y gwelid hi yn Eisteddfod Caerfyrddin yr haf nesaf, os caniatai ei hiechyd, ond yn awr y mae pob gobaith am hyn wedi cilio. Nifer y cynyrchion llenyddol yn Eistedd- fod Colwyn Bay ydynt 424, sef 160 yn rhagor nag a gaed yn Llundain. Dengys hyn fod testynau Colwyn Bay yn apelio yn lied gyffredinol at lenorion a beirdd ein cenedl. Mae holl gasgliad llenyddol y diweddar Barch. J. Hathren Davies, Cefn, wedi eu sicrhau i'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aber- ystwyth. Yr oedd Mr. Davies wedi gwneud casgliad rhagorol o draethodau a phamph- ledau yn ymwneud a hanes yr Undodiaid yng Nghymru, ac mae ami i berl gwerth- fawr, yn ol tyb y chwilotwyr llyfryddol, i'w gael yn eu plith. Mae gan Mr. Jeremiah Williams, prifathro Ysgol y Sir, Abergele, gynllun newydd i wneud chwareuon yn bethau llesol ac addysg- iadol, yn ogystal ac yn boblogaidd ymysg ei efrydwyr. Yn ei adroddiad ar ddydd rhannu'r gwobrwyon, dywed :—" Trefnwyd chwareuon yr ysgol yn ystod y flwyddyn yn ol cynllun newydd, sef drwy fabwysiadu Cyfundrefn y Ty (House System). Y mae pob aelod o'r staff yn bennaeth Ty, y tai yn dwyn enwau hen wroniaid Cymru Fa. Perthyn pob llanc a lodes yn yr ysgol i ryw Dy neu gilydd, ac fe'u ceir yn eiddigus tros anrhydedd ac enw da'r ty hwnnw. Ffrwyth hyn ydoedd, na chaem y drafferth leiaf bellach i gael gan yr egin dysg gymeryd rhan o'u bodd ymhob rhyw chwarea iach, ac ni chlywir un son yma mwyach am chwar- euon gorfod. Enwau'r Tai' ydyw Caradog, Caswallon, Cunedda, Gwenllian, Llewelyn, Glyn Dwr, etc."