Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Eisteddfod Caerfyrddin 1911. Nid yw'r adran gerddorol ynglyn a'r Wyl hon wedi ei gorffen hyd yn hyn, ond os ceir yr un safon i wyr y gan ag a osodir i wyr lien yn yr adrannau ereill y mae'r rhagol- ygon yn ddisglair iawn. Yr unig anhawster ar ffordd y pwyllgor yn ddiau yw y wedd ariannol. Hawdd fuasai codi'r safon pe gallesid codi'r pris; ond fel y mae, rhaid troi yn yr un cylch materol ag arfer a threfnu cymaint o newydd-deb ag sydd bosibl o fewn y terfynau hyn. Daw y rhaglen gyf- lawn allan erbyn ddechreu Medi, ac yna rhoddir mantais i'w dosbarthu i'r byd Eis- teddfodol ar adeg yr wyl yng Ngholwyif Bay. Curo ar yr Eisteddfod. Mae yn rheol gan rai cerddorion i guro byth a hefyd ar yr hen Eisteddfod; ond er beio yr Wyl y syndod yw, nas gallant ddy- feisio yr un cynllun a atebai y diben yn well i fyd y gerdd a'r gan. Y Saeson, gan amlaf, yw'r beirniaid hyn, a'r diweddaf i draethu ei farn ydyw Dr. F. Cowen. Bu y cyfansoddwr enwog hwn yng Nghaerdydd y dydd o'r blaen, a gwnaeth ei oreu i daflu sen ar yr Eisteddfod a'i gwaith. Mae cylchwyl gerddorol i'w chynnal ymhrif ddinas y Deheubarth, a chan fod rhai o weithiau Dr. Cowen wedi cael rhan yn y gwyliau hyn yr oedd ef yn naturiol yn barod i farnu'r cyfan o safbwynt y Gylchwyl. Dyma ddywed Cemlyn yn y Weekly Mail am syniadau I hunanol Dr. Cowen- Safbwynt y Sais. Galarai Dr. Cowen nad oedd y gylchwyl yn derbyn y sylw a haeddai, a bod ei cbef- nogwyr yn gyfyngedig i gylch Caerdydd. Hyd yn oed pe bai hynny'n wir, yr hyn nad yw, gyda llaw, ni fuasai'n unrhyw syndod fod cylch ei chefnogwyr mor gyfyngedig, oblegid nid yr un dosbarth gar gylchwyl ac eisteddfod yng Nghymru ag yn Lloegr. Gwerin Cymru yw asgwrn cefn ei holl gylchwyliau, ac o'i phrinder y rhydd y werin ei thalentau goreu at wasanaeth y cyfryw. Ac nid yw'n afresymol disgwyl i weithwyr cyfyng eu hamgylchiadau deithio i Gaerdydd i'r gylchwyl a thalu pum' swllt neu ychwaneg am ryw lun o sedd i glywed un cyfanwaifch ? Yn Lloegr y mae'n dra gwahanol. Nid ei gwerin hi yw asgwrn cefn ei chylchwyliau, ond, yn hytrach, ei theuluoedd cefnog, a'r sawl fedr fforddio teithio i bellderoedd byd heb amddifadu neb o gysuron nac angenrheidiau'r aelwyd. Ac etc sieryd Dr. Cowen am Gymru yn union fel pe bai ddarn o Loegr, a'i theuluoedd cefnog yn degymu eu da ac yn rhoddi'n ewyllysgar eu holl dalentau ar allor y Gylch- wyl. Pe bai gwerin Cymru mor amddifad o gariad at gerddoriaeth ag yw gwerin Lloegr, ac mor annhueddol i hunan-aberthu er ei mwyn, ni fuasai galw o gwbl am wasanaeth Dr. Cowen mewn cylchwyl nac eisteddfod, ac y mae'n syndod i mi baroted yw'n cymydog- ion i gollfarnu a chamddarlunio popeth nad yw'n ddelweddiad o fywyd Lloegr, boed wych, boed wael. A dyna'r rheswm, ond odid, ei fod yn dannod ein bod yn rhy gul ac ynysaidd ein cariad at gerddoriaeth fel nad ydym yn ymawyddu am ymgynefino a gweithiau goreu pob gwlad, a'i fod yn priodoli'r holl wendidau hyn i'r Eisteddfod." Y Cymmrodorion. Rhoddodd y Gymdeithas anrhydeddus hon ei hymgomwest flynyddol nos Fawrth ddi- weddaf, ac er nas gellir disgwyl am safon uchel o gerddoriaeth mewn unrhyw gwrdd clebran," rhaid cydnabod i Syr Vincent t

----TY'R GLEBER.