Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
NODIADAU LLENYDDOL.
NODIADAU LLENYDDOL. Eisteddfod Colwyn Bay. Erbyn hyn mae'r holl gyfansoddiadau llenyddol gogyfer ag Eisteddfod fawr Colwyn Bay wedi dyfod i law, ac yn ol y rhestr sydd wedi ei chyhoeddi gan y pwyllgor y mae'r nifer yn lliosog iawn. Yn wir, os nad ydym yn camgymeryd ni chafwyd erioed fwy o gynyrchion nag a welir eleni, ac os ydyw'r safon llenorol yn cydfyned a'r cyn- haeaf llawn hwn dylai Eisteddfod Colwyn Bay gael ei chofio ar lechres ein prif wyliau am amser hir. Am awdl y Gadair mae 14 yn cystadlu ar Bryddest y Goron 9; am y Cywydd i'r angel" 9 ar y Rhieingerdd 3 Myfr- draeth 8; cyfres o Delynegion 9 cadwen o Englynion 2; Hir a Thoddaid 24; a chyn- nifer a 153 wedi ymgeisio ar yr Englyn. Pwy ddywed, ar ol hyn, fod yr englyn yn colli tir, ac nad yw ein beirdd yn ymhyf- rydu yn y cywreinbeth hwn. Am y prif waith llenyddol, sef traethawd ar Hanes Sir Ddinbych," y mae dau yn cynnyg am y wobr o £ 50. Ar ddaearydd- iaeth siroedd Meirion, Trefaldwyn, &c., 15 casgliad o weithiau anghyoeddedig 3; Dylanwad y Rhufeiniaid ar iaith y Cymry 4; Traethawd Llew Llwyfo 4; eto ar Twm o'r Nant 8; Ffugchwedl ddirwestol 15 tra mae'r cyfieithiadau a'r man gystadleuon llenyddol a barddonol wedi cael cefnogaeth barod iawn.
DAN LENNI'R NOS.
DAN LENNI'R NOS. Lleddf yw'r awel yn y llwyni Ar hyd y nos. Mud yw'r adar yn y perthi Ar hyd y nos. Ond mae'r ser uwchben yn gwenu, O'u huchelfan yn pelydru Y maent hwy yn peraidd ganu Ar hyd y nos. Nid yw'n hawdd cyweirio'r tannau Dan lenni'r nos. Cloff yw'r gerdd-rhwydd rhed y dagrau Dan lenni'r nos. Ond y nos a'i gwyll-belydrau, Ddengys ini'r eangderau, 'Rym yn nes i fyd sylweddau, Dan lenni'r nos. JOHN HUWS.
Gohebiaethau.
Gohebiaethau. METHODISTIAID LLUNDAIN A'R IAITH GYMRAEG. At Olygydd CYMRO LLUNDAIN A'R CELT, Dywedwyd wrthyf y dydd o'r blaen gan wr pwyllog ei farn fod mwy a gwell Cymraeg gan y Methodist- iaid na'r un enwad arall yn Llundain. Pa faint bynnag o wir sydd yn hynny, gellir dweud mai felly y dylai fod, beth bynnag, oherwydd y mae plant y Methodistiaid wedi cael manteision neilltuol drwy'r blynyddau. Cynhelir dosbarthiadau yn yr Iaith Gymraeg yn wythnosol, a dylai hynny fod o gryn ddylanwad ar Gymraeg y plant. Y mae cryn lawer o frwdfrydedd i'w deimlo ynglyn ag arholiadau'r Iaith Gymraeg, gynhelir dan nawdd Undeb Ysgolion M C. Llundain, ond y mae lie i ofni fod mwy o frwdfrydedd nag sydd o waith sylweddol. Tybed, onid yw ennill tystysgrif yn waith lawer iawn rhy hawdd, o saf- bwynt ieithyddol hynny yw, fod plant yn medru ei ennill heb fod ganddynt nemawr ddim gwybodaeth o'r Iaith—ei deall a'i siarad. Os medr plentyn ddysgu tipyn ar y cof yn Gymraeg, a medru darllen tipyn, y mae pass yn sicr, ond prin y mae y naill na'r Hall yn unrhyw brawf o fedru Cymraeg da. Da fydd gan lawer ddeall fod symudiad ar droed i ystyried gwell- iantau angenrheidiol ynglyn a hyn, a diau y bydd yr arholiadau yn y dyfodol yn fwy pwrpasol ac ymar- ferol drwy roddi y lie blaenaf i sillebiaeth, cyfieithu, a gramadeg Gymraeg. Diau hefyd y mabwysiedir Llyfrau Elfenol fel gwers-lyfrau, yr hyn rydd ddech- reuad gyrfa i'r plant i Lenyddiaeth gyfoethog y Genedl. Yn y gorffennol rhannau o'r Beibl fabwys- iadwyd fel gwers-lyfr, ond, er cymaint ein set dros addysg Feiblaidd i'r plant, yr ydym yn gorfod teimlo mai anghymwys yw y Beibl fel gwers-lyfr. Ymlaen yr elom, fel Methodistiaid, i ddwyn i fyny ein plant yn Gymry-eu dysgu yn yr hen Iaith, a chreu ynddynt genedlgarwch yr hyn fydd o fantais tymhorol a chrefyddol iddynt hwy, ac yn golofnau i'r achos Cymreig yn Llundain yn yr oes sydd yn dilyn. PICA.
Advertising
WELSHMAN & KELT OFFICES, THE LONDON WELSHMAN AND KELT is a high-class Family Paper, and counts among its contributors the most prominent Welsh Scholars and Writers. NOTE.-Advertisements must reach the Office by Wednesday morning for insertion in the current week's number. Advertise- ments for insertion in THE LONDON WELSHMAN AND KELT will be trans- ated into .Welsh free of charge. The Editor invites correspondence. All letters. must be signed with the full name oj the writers and the address must also be given, not neces- sarily for publication, but as a guarantee of good faith.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. EFENGYLU I'R SAIS. — Y Parch. T. C. Williams, M.A., sydd i lanw pulpud capel Dr. Campbell Morgan yn Westminster, am y Sul yfory. Y GWYLIAu.-Mae'r deadelloedd Cymreig yn dechreu crwydro, a bydd golwg wag yn ein haddoldai am y ddeufis nesaf. CAPEL BRUNSWICK. Nos Saboth nesaf llenwir pulpud y capel hwn gan un o ddon- iau amlwg y Wesleyaid yng Nghymru, sef y Parch. William Price, Rhos. ST. MAIR, CAMBERWELL.—Dydd Iau di- weddaf cynhaliwyd Garden Party a Sale of Work yng ngardd y Persondy mewn cys- ylltiad a'r Eglwys uchod. Agorwyd yr arwerthiad gan Mrs. Principal Thomas, y Coleg, Wood Green, am 3 o'r gloch. Yr oedd nifer dda yn bresennol drwy y pryd- nawn ond yn yr hwyr, pan oedd y cynulliad yn fawr, daeth y gwlaw i lawr, a gorfodwyd pawb i redeg i'r Lecture Hall am gysgod, ac i orffen y gwaith mewn can ac araith. Deallwn fod yr arwerthiad yn llwyddiant mawr, a buasai yn ddiddadl yn well nag erioed oni bae am y gwlaw. Yr oedd y gerddi wedi eu haddurno yn brydferth. Mae clod neilltuol yn ddyledus i'r gwragedd am baratoi pethau mor dda a gwerthadwy ar eu byrddau. Rhoddwyd y refreshments gan Miss M. Jones, Tyneham Road, Lavender Hill. Canwyd unawdau yn ystod y dydd gan Miss M. Evans, Miss Evans (Peckham), Miss Roderick, Miss G. Davies (Southside, Clapham), a Mr. D. Edwards. Miss Catherine Mary Jones, 37, Richmond Road, West Kensington Park, enillodd y Gold Diamond Ring." BORo'Aeth Ysgol y Boro' dydd Sadwrn diweddaf i dreulio y dydd i Rye House, dan arweiniad Mri. D. R. Jones, Harry Watkins, Arthur Davies, D. Caesar Davies, James Jones, a W. R. Evans. Diau fod i'r lie hanes dyddorol, gan y saif ar fin y brif- ffordd o Lundain i Newmarket, tuallan i goedwigoedd Epping. Yma y safai yn 1683 amaethdy drigianid gan Rumboldt, yn yr hwn le y trefnwyd gan Rumsey, Walcot, Goodenough, Ferguson, John Hampden, a llu o gyfreithwyr a masnachwyr Llundain i lofruddio y Brenin Charles II ar ei ddyfod- iad adref i Lundain o Newmarket. Ond gan i'r ty y lletyai y brenin ynddo yn New- market losgi, bu raid iddo ddychwelyd i Lundain wyth niwrnod yn gynt nag y bwriadai. Hynny achubodd ei fywyd o gynllun Rye House. Erys ychydig olion o'r hen gastell yn y lie hyd heddyw. Yn ei neuaddau llwydion adfeiliedig mae rhai cistiau derw cerfiedig a darluniau hen. Adran o'r ddaeargell a'r fynedfa danddaearol sydd agored hyd heddyw. Tyfa berw-y- dwr yn ei ddyfrffos gylchynol. Noddfa i deithwyr rhag lladron fforest Epping oedd yr hen gastell yn ddechreuol. Diau fod iddo hanes dychrynllyd pe cadwesid ar glawr. Llifa yr afon Lee heibio, ac ychydig latheni oddiwrthi gwelir y New River, arweiniwyd gan Hugh Canoldref i gyflenwi angen Llun- dain am ddwfr. Ganwyd y peirianwr anturiaethus hwnnw ym mhlwyf Henllan, gerllaw Dinbych. Efe oedd chweched fab i Richard Canoldref, llywydd Castell Dinbych yn nheyrnasiad y Brenin Iorwerth VI. a'r breninesau Mari a Betty. Er cael tair gweithred Seneddol yn rhoi hawl i ddinas- yddion Llundain i arwain afon i'r ddinas o unrhyw le yn swyddi Middlesex neu Hert- ford, methwyd gwneud dim nes i'r Cymro galluog, Hugh Canoldref, i ymgymeryd a'r gorchwyl o arwain y Lee o Amwell a Ware i Islington. Cychwynodd ar y gwaith Chwef- ror 20, 1608 agorodd rawd i'r dwfr sydd gylch deugain milldir o hyd. Dydd Gwyl Mihengel, Medi 29, 1613, daeth y dwfr i Islington, neu Iseldon = pentref Isel. Tal- odd y Brenin Iago hanner y treuliau aeth at yr anturiaeth. Ond llyncodd yr Afon Newydd holl gyfoeth Hugh Canoldref gan gynnwys dwy fil o bunnau yn y mis o'i fwngloddiau yng Ngheredigion. Gwnaeth y brenin ef yn farchog yn 1613, ac yn far- wnig yn 1622. Bu yn Aelod Seneddol dros Ddinbych yn 1603, 1614, 1620, 1623, a 1628. Bu raid iddo weithio fel peirianyddwr i ddyfrffosi tiroedd gwlybion ac mewn mwn- gloddiau wedi colli ei gyfoeth. Bathodd arian i'r llywodraeth yng Nghastell Aber- ystwyth. Bu farw yn 1631 gan adael hiliog- aeth. Elizabeth, merch ac aeres John Olmstead, Ysw., Ingatestone, Essex, oedd ei wraig. Syr William Canoldref, neu Myddle- ton, ei fab, a'i holynodd yn y farwnigiaetb. Ba mab hwnnw, Syr Hugh, y trydydd barwnig, farw yn 1675, yn ddiblant, a dar fyddodd y teitl. Saif cof-golofn i Syr Hugh Canoldref, neu Myddleton, ar gongl Islington Green, yn Upper Street, N. Medodd per- chenogion diweddar yr Afon Newydd gyf- oeth mawr o aberth, gallu, a llafur Syr Hugh. Ereill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt." Treul- iodd Ysgol Sabothol y Boro' ddiwrnod hyfryd ar lennydd y Lee. Gweinyddwyd wrth y byrddau gan Mrs. J. B. Evans, Mrs. J. E. Evans, Mrs. Tyssilian Jones, Miss Lizzie Hodges, Miss E. J. Jones, Miss Mari Evans, Miss Nelly Davies, Miss Maggie Jones, Miss Rachel Thomas, Miss B. Lewis, Miss Mabel Lewis, ac ereill. Mwynhawyd y chwareuon yn fwy na dim. Canodd y plant amryw ddarnau wedi te, dan arweiniad Mri. Harry Watkins a D. R. Jones. Hyfryd yw persawr dail a blodau yn awelon y wlad lonydd, ond mil hyfrydach yw peroriaeth twrf masnach ym mwrllwch Llundain! Dinasiaeth yn ei gwaith a'i breintiau yw ffurf uwchaf bywyd moesol.
A BYD Y GAN.
pryd y rhoddwyd datganiadau gan rai o'i ddysgyblion, amryw ohonynt yn wir dda, ac yn llawn haeddu y gymeradwyaeth roddwyd yn wresog iddynt gan y beirniaid. Dylai Mr. Davies gael noson i'r cyhoedd i wrando ar ei efrydwyr yn un o'n neuaddau poblog- aidd.