Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Y MUDION A'R BYDDARIAID.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y MUDION A'R BYDDARIAID. AT Y GOLYGYDD. Diau ei bod yn hysbys i lawer o'ch dar- llenwyr bellach fy mod yn gwasanaethu i'r mudion a'r byddariaid ym Mhontypridd a'r cylchoedd er yn agos i chwe mlynedd. Yn ystod yr amser hwnnw y mae y gwaith wedi ei arddel a'i lwyddo mewn modd rhyfeddol, ac yr ydym ninnau, mewn canlyniad, yn ceisio ymgyfaddasu ar gyfer y sefyllfa newydd a grewyd gan y llwyddiant eith- riadol hwn. Bydd yn chwith gan y darllenydd glywed fod y gymdeithas anhebgorol hon, sef Cen- hadaeth Mudion Morganwg, mewn bod er's dros chwarter canrif, a'i bod eto heb un adeilad yn feddiant iddi hi ei hun. Nid yw hyn yn golygu ein bod yn cyfarfod yn yr awyr agored. Dyna yn ddiau a fuasai raid i ni, oni bai fod caredigion achos yr Ar- glwydd yn rhoddi benthyg ystafelloedd i'n gwahanol ganghenau gyfarfod ynddynt. Y mae yr ystafelloedd benthyg hyn yn addas iawn i addoli ynddynt, ond y mae arnom ni angen dybryd am le i ddwyn gwaith y Gym- deithas ymlaen ohono, a lie i fudion Ponty- pridd (oblegid dyna lie y mae y mwyafrif ohonynt yn byw) gydgyfarfod am hyffordd- iant ac adloniant. Yr ydym eisoes wedi cael darn o dir nas gellir ei gyfaddasach, gan Arglwydd Tredegar, un o is-lywyddion y Gymdeithas, ar delerau rhesymol iawn, ac yr ydym wedi anfon apeliadau at holl eglwysi Cymru am Fil o Bunnau, y swm y credwn y bydd ei angen, at yr hyn sydd gennym mewn llaw eisoes. Cofier mai yr un gwaith a gyflawnir gennym ni ymhlith y mudion ag a gyflawnir gan ein brodyr yn y weinidogaeth ymhlith y rhai sydd yn clywed. Nodwn hyn, gan fod llawer dan gamargraff mai ysgol i blant sydd gennym, neu ryw fath o nodd-dy mawr, neu elusendy o ryw fath, a'r dydd o'r blaen, holai brawd fi ynghylch fy amddifatty Cofier fod y plant a enir yn fyddariaid, neu a gollant eu clyw yn nyddiau eu mebyd, yn tyfu i fyny ac yn gadael yr ysgolion, a'u bod hwythau mewn angen am fara'r bywyd fel rhywun arall. Cofier, hefyd, fod llawer fel fy hun yn colli eu clyw ar ol tyfu i fyny, ac y mae eisieu darpariaeth gyfaddas ar gyfer y rhai hynny. Gweinidogaeth yr Efengyl a gyflawnir gennym, yn yr ystyr lawnaf a helaethaf. Gan fod baich bywyd yn un trwm o angenrheidrwydd i'r bobl amddifad hyn, gwnawn lawer drostynt yn dymhorol. Chwiliwn am waith iddynt, a chyfranwn elusenau pan fo angen am danynt. A chan ein bod yn hysbys o'u holl amgylchiadau, gallwn roddi yr effeithiolrwydd mwyaf i bob cymorth a estynwn. Cydnabyddir pob rhodd yn ddiolchgar gennym, ond eu hanfon i ni i Bontypridd,, i'r cyfeiriad isod. Yr eiddoch yn bur, J. BODFAN ANWYL. Bryn Elen, Tyvici Road, Pontypridd.

[No title]

HEN FYNWENT Y LLAN.

Am Gymry Llundain.