Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
A UNIAD DAU 0 BLANT Y GAN.
A UNIAD DAU 0 BLANT Y GAN. MR. DAVID RICHARDS, A.R.C.O. I MISS MARY DAVIES (Praed Street).
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. h FGAN ALAWYDD]. Son am y gwyliau mae pob dau y dyddiau tyn, a bydd y mwyafrif o'n cantorion yn treulio eu dyddiau seibiant am y ddeufis nesaf rhwng mynyddoedd Cymru. Ond nid amser segur gaiff amryw o honynt, canys gwelaf fod enwait rhai yn gysylltiedig a nifer o'r Eisteddfodau, a gwyliau cerddorol Yr haf. A rhyfedd fel mae'r Eisteddfodau Ueol yma yn lliosogi y naill flwyddyn ar ol y llall. Yn Eisteddfod fawr godreu Ceredig- ion gwelaf fod y pwyllgor wedi bod mor feiddgar a sicrhau Mr. Ben Davies, Mr. David Evans, a Miss Kirby Lynn. Pwy a Wad ar ol hyn nad yw'r Cymry gartrei yn koffi y cantorion goreu yn ogystal a'r gerdd- oriaeth oreu ? Dr. Dan Protheroe. Yr oedd yn llaweri gennyf gael cyfle i Weled y gwr talentog hwn pan ar ymweliad a dinas Llundain y dydd o'r blaen. Efe yn ddiau ydyw un o'r Oymry hynny sydd wedi dvrchafu cymeriad ein cydgenedl tu hwnt i'r Mae ei gyfansoddiadau wedi ennill ■edmygedd dau gyfandir, ond er hyn oil y iiiae mor ddirodres a pbe yn aelod cyffredin 0 gor cymreig. Mae yn organydd yn un o cyfoethocaf Chicago; yr eglwys, yn Wir, lie yr arferai Mr. Selfridge addoli. A fctira yn Llundain bu'n treulio y rhan fwyaf 01 amser yng nghwmni y masnachwr byd- glodus hwn, sydd bellach yn un o wyr blaenaf ein bywyd dyddiol yn Oxford Street. Bu Mr. Protheroe yma o'r blaen ar adeg Eisteddfod fawr Abertawe, ond blin oedd gennyf ddeall nas gall aros y waith bresen- -401 hyd adeg yr Wyl yn Colwyn Bay. Mr. James Sauvage. Dealiaf fod y cantor poblogaidd hwn yn trefnu i fod yma ar adeg yr Eisteddfod eleni. ac oni ddylid cael rhyw fath o gyfarfod i'w ftyflwyno i'r cylch Cymreig yn Llundain ? mae nifer o gyngherddau pwysig i'w cyrmal yma yn gynnar yn y tymor, ac out lellid manteisio ar un o'r rhai hyn i roddi gwahoddiad i'r hyglod James Sauvage ? Mr. Gwynnz Davies. y Ar ol ei ymddangosiad cyhoeddus y dydd r blaen yn Bechstein Hall y mae'r cantor hwn wedi penderfynnu rhoddi ei holl amser bellach i'r byd cerddorol. Fel tenorydd saif eisoes yn uchel ymysg ein pobl, a diau y gwelir ef cyn bo hir yn addurn gwych i'n cylchoedd cyhoeddus. Rhagor na bod yn gantor, y mae yn athraw da, a chan fod ei yrfa fel athraw mewn ysgol ddyddiol wedi bod mor llwyddiannus, dylai brofi ei hun yn un medrus hefyd yng nghylchoedd y.gan. Ysgol Haf i Ganlorion. Cyhoedda awdurdodau Coleg Aberystwyth eu bod wedi trefnu i roddi gwersi mewn cerddoriaeth ym mis Awst fel arfer. Rhoddir gwersi ar gyfansoddi, cynghaneddu, eyf- ieithu o un nodiant i'r llall, canu'r Piano, a phob offer cerdd. Mae Cerddorfa alluog Mr. Phillip Lewis, y crythor Llundeinig, yn chwareu yno drwy yr haf, a rhydd hyn gyfle i chwareuwyr ieuainc ein gwlad gael gwersi ar eu hoff offerynau; amcenir at ddyrchafa cerddoriaeth offerynol, cystal ag un leisiol. Rhoddir gwersi ar y llais gan athraw gallu- og, un ag sydd wedi cael cryn brofiad yn y gwaith. Rhoddir gwersi ar arwain, ynglyn a'r Gymdeithas Gorawl, gan Proffeswr Jenkins, yn cynwys awgrymiadau ar anadlu. defynydd priodol o'r llafariaid, cadw amser, &c. Mae Sir Aberteifi yn rhoddi ysgolor- laethau, a disgwylir llawer o athrawon i fynychu y dosbarthau hyn. Ceir pob manylion gan y Cofrestrydd yn y Coleg. Mr. David Richards. A.R.C.O. Dyma gerdyn i law with compliments of Mr. and Mrs. David RichardsP Hai Iwc i'r ddeuddyn hapus. Cymerodd yr uniad Ie ddydd Sadwrn diweddaf, ac aeth torf o'u hedmygwyr i ShirJand Road i roddi croesaw iddynt ac i ddymuno bendith ar y briodas. Fel mae'n wybyddus i bawb, Mr. Richards yw organydd yr eglwys yn King's Cross, lie mae'r prif-fardd Elfed yn bugeilio, ac nid llai enwog yn y cylch cerddorol yn Llundain yw ei briod siriol, yr hon a adnabyddid fel Miss Mary Davies, o Shirland Road-neu Praed Street, a rhoddi iddi ei chyfeiriad priodol. Bu hi yn gefnogydd cyson am flynyddau i bob madiad cerddorol ynglyn ag eglwys Shirland Road, ac mae wedi ennill lie uchel iddi ei hun fel cantores wych. Boed i'r undeb brofi yn oes o gan i'r ddau. Tua Llydaw. Clywaf fod mintai gref o wyr yr Orsedd a chynrychiolwyr cerdd y Cymry ar eu ffordd i Lydaw yr wythnos hon. Mae'r trefniadau ar raddfa helaeth, ac arweinir y beirdd gan Dyfed, tra y bydd llu o'r cantorion yno hefyd. Yn cynrychioli adran cerdd o Lun- dain bydd Miss K. Cordelia Rhys, yr hon sydd yn dra adnabyddus fel datganydd swynol o hen benillion telyn y Cymry. Eisteddfodau. Yn ol y rhaglenni i law mae nifer liosog o Eisteddfodau i'w cynnal ar adeg Gwyl y Bane a'r wythnos ddilynol. Dyddiau gwyl yw y rhain yng Nghymru, ac mae'r Eistedd- fod wedi dyfod yn sefydliad arosol i ddydd- ori pobl ar adeg eu gwyliau. Pob llwydd iddynt i droi yn llesol i gan a cherdd yr hen genedl.
YR ATHRAWON A'R GYMRAEG.
YR ATHRAWON A'R GYMRAEG. Dyddiau adfywiad yr iaith Gymraeg ydyw y rhain. Y mae'r genedl wedi ymladd yn hir dros ei chadwraeth, ac wedi llwyddo hyd yn oed i'w chael i fewn i'r ysgol ddyddiol. Yno, rhaid ei dysgu bellach, os bydd rhieni y plant yn dweyd hynny. Ond rhyfedd y rhwystrau a osodir ar ei ffordd gan ei gelyn- ion gorchfygedig. Gwir fod y wlad fel cyfangorff wedi cyd- nabod gwerth yr iaith, ac wedi boddloni ar iddi gael y lie goreu yn ein cyfundrefn addysg a'r unig berygl bellach ydyw credu fod hynny yn ddigon. Yn anffodus, y mae engreifftiau o'n blaen a brofant fod gelynion mwy peryglus o lawer yn aros heb eu gorch- fygu. A'r athrawon yn ein hysgolion dyddiol yw y rheini Mae nifer liosog o'r rhai hyn heb fedru gwybodaeth o'r iaith, a gwnant yr oil o fewn eu gallu i osod rhwystrau ar y ffordd i'w dysgu. Yn ardal y Barri, ger Caerdydd, beth amser yn ol, cododd yr athrawon gri yn erbyn dysgu'r Gymraeg yn yr ysgolion dyddiol, fel pwnc gorfodol. Ni wnaethant hynny yn gyhoeddus, mae'n. wir, eithr gweithiasant yn llechwraidd drwy lais y Pwyllgor Lleol. Awdurdodwyd anfon cylch- lythyr i rieni y plant i geisio ganddynt a oeddent am ddysgu'r Gymraeg i'r plant, a'r cmlyniad oedd fod dros 60 y cant o'r rhieni, mewn ardal Seisnigaidd fel y Barri, yn awyddus ei dysgu Ac ar ol cael y fath ddyfarniad, mae'n amiwg mai dyledswydd y Pwyllgor Addysg yw gofalu fod pob athraw yn y lie yn medru'r iaith, ac yn ddi-os fod pob un a benodir o hyn allan yn meddu y cymhwyster priodol i'w dysgu. Dylai hon fod yn rheol bendant ynglyn a phob cais am swydd tan Bwyllgor Addysg y Barri. Ond myn rhai athrawon gredu nad er mwyn y plant y sefydlir ysgolion, eithr er budd yr athrawon. Dyna yn ddiau oedd barn y feistres honno fu ger bron pwyllgor addysg ym Mynwy y dydd o'r blaen. Ymddengys fod yr awdurdodau addysgol wedi penderfynu rhoddi i'r Gymraeg ei lie priodol ym mywyd ysgol neilltuol yn y sir, a bod cryn nifer o'r rhieni yn hawlio hynny ond yn ystod yr ymdrafodaeth gwnaeth yr athrawes gais ar iddynt newid eu meddwl, am na fedrai hi na'i chynorthwywyr ddysgu'r iaith i'r plant! Yn ol rhesymeg yr athrawes hon, a'i chyfeillion, y mae'r ysgol yn bod er mwyn yr athrawon, ac nid yr athrawon. yn cael eu penodi, a'r ysgolion eu hadeiladu, er mwyn y to sy'n codi. Er budd y to sy'n codi y ceisir dwyn y Gymraeg i'r ysgolion ac er budd athrawon anghymwys yn fynych y cilgwthir hi o'r neilltu. Ond o bob eng- raifft o wyneb-galedwch buasai'n anhawdd taro ar hafal yr athrawes tan sylw. Nid yn unig yr oedd yn anfoddlawn i'r iaith gael ei lie, ond yr oedd hefyd yn anfoddlawn i'r