Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
MAE'R ADAR YN CANU.
MAE'R ADAR YN CANU. Mae'r adar yn canu ar gangau y coed, Rhwng irddail gwyrddleision a blodau Ymbranciant yn llawen fel engyl dan oed Wrth weled prydferthwch y borau. Mae'r haf wedi dod- Per-bynciant ei glod Diddarfod ei swynol ganiadau. Ar doriad y wawrddydd, Pob 'deryn a edrydd Ei sfori fach newydd Er mwyniant i minnau. Mae'r adar yn canu, a'u cywair yn lion, Byw fiwsig a leinw'u canigan Ymgiliodd y gwanwyn er gofid i'm bron, Tra'r haul yn cusanu ei flodau. Mae'r haf yn ei sedd, Yn siriol ei wedd Fe'i molir gan fyrdd o delynau. Ymunaf yn llawen A cherdd adar Eden, Ymhoffa fy awen Eu hyfryd ber-seiniau. Bryn-yr-Oged. LLINOS WYRE,
CYFARFODYDD.
CYFARFODYDD. CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Jewin Newydd, Gorffennaf 20. Llywyddion, y Parch. J. Thickens a Mr. W. Price. 1. Dechreuwyd gan Mr. E. Edwards, M.A. 2. Cadarnhawyd cof- nodion. 3. Traddododd y Parch. J. Thickens anerchiad dyddorol a gwerthfawr iawn wrth roddi i fyny llywyddiaeth y C.M. i Mr. Wm. Price. Galwodd Mr. Thickens sylw at genadwri Cymru grefyddol, yn arbennig cenhadwri y Corff yn Llundain. Rhoddodd i'r C.M. ystadegau tarawiadol yn dangos ymdrech y Corff hyd yma gyda chyfrannu ac mewn cyfeiriadau ereill i gyflawni ei genadwri, a phwysodd arnom ni heddyw i fod yn wir olynwyr i'r tadau drwy wneud crefydd, nid yn ychwanegiad, yn atodiad, i'n bywyd beunyddiol, ond yn ganolbwynt llywodraethol ein holl fywyd. Diolchwyd i Mr. Thickens am ei lywyddiaeth a'i anerchiad ar gynygiad y Parch. D. Oliver, ac eiliad Mr. John Morgan, ac ymgymerodd Mr. Wm. Price a'i lywyddiaeth yntau ynghanol dymuniadau goreu y frawdoliaeth. Nid yw y C.M. heb obeithio y caiff Mr. Price y boddhad mawr o weled 210,000 wedi eu casglu at ddyledion capelau y C.M. erbyn diwedd tymor ei lywyddiaeth. 4. Dar- llennwyd llythyrau (a) oddiwrth y Parchn. J. Gerlan Williams, B.Sc., a Dr. Edward Williams, y Cen- hadon, Mr. E. W. Jones, Holloway, a Mr. T. Morris, Jewin, yn cydnabod cydymdeimlad y C.M. a hwy yn eu profedigaeth; (b) oddiwrth y Parch. S. E. Prytherch, Llanbedr, yn diolch i'r C.M. am ei gared- igrwydd tuag ato ar hyd amser ei aelodaeth o hono, ac yn arbennig drwy y dysteb anrhydeddus gyflwynwyd iddo adeg ei ymadawiad i Lanbedr (c) oddiwrth y Parch. W. W. Lloyd, Brynteg, Bethesda, yn cydnabod derbyn, trwy law Mr. W. W. Griffith, Wilton Square, y swm o 216 7s. 6d. gyfrannwyd o fewn cylch y CM. tuagat dysteb y Parch. T. J. Wheldon, B.A.; oddiwrth Mr. Wynn P. Wheldon,' M.A, yn hysbysu ei fod yn derbyn yn ddiolchgar yr ymddiriedaeth i fod yn gyfreithiwr i ofalu am reoleidd-dra gweithredoedd eglwysi y C.M.; (e) oddiwrth Mr. W. Williams, Falmouth Road, yn datgan ei ofid na fedr dderbyn yr apwyntiad i ofalu am gofnodion agoriad cist y C.M. Dewiswyd Mr. G. W. Jones, Lewisham, yn lie Mr. Williams (f) oddiwrth y Parch. J. Gwynoro Davies, Abermaw, yn galw sylw y C.M. at y penderfyniad canlynol basiwyd yng Nghymanfa Gyffredinol Castellnedd Gan nad ydyw Pwyllgor y Genhadaeth Dramor yn cyfarfod ynglyn a'r Gymanfa, nid oes angen i'r cyfarwyddwyr sirol i fod o nifer y rhai ddewisir yn gynrychiolwyr i'r Gymanfa Gyffredinol." Cyflwynwyd y pender- fyniad i ofal Pwyllgor Enwi y C.M.; (g) oddiwrth y Parch. D. A. Jones, Llangeitho, ar ran C.M. Deheu Aberteifi yn trosglwyddo Mr. T. Huws Davies (Welsh Church Commission, 68, Victoria Street, West- minster), a Mr. D. Rhys, M.A., o aelodaeth yng Nghyfarfod Misol Dehau Aberteifi i Undeb a Chyfar- fod Misol Llundain. Croesawyd Mr. Huws Davies yn aelod o'r C.M., a gohiriwyd croesawu Mr. Rhys hyd y Cyfarfod Misol y gall fod yn bresennol ynddo; (h) oddiwrth Mr. D. Thomas, ysgrifennydd Undeb Ysgolion Sul Llundain, yn hysbysu am barodrwydd yr Undeb i drefnu cyfarfod i'r plant mewn cysylltiad a'r gymanfa ganu nesaf. Cadarnhawyd yr hysbys- iad, gan awgrymu fod y C.M. yn talu treuliau y cyfarfod eleni, fod y cyfarfod i'w gynnal am 3 o'r gloch prydnawn ddydd y Gymanfa, a bod trefniadau terfynol y cyfarfod i'w gwneud mewn cydymgyngor- iad a Phwyllgor Cymanfa Enwi y C.M. 5a. Cydym- deimlwyd a Mr. Wm. Hughes, Falmouth Road, oherwydd marwolaeth ei anwyl chwaer. 5b. Hys- bysodd Mr. Anthony a Dr. Lloyd Williams fod Mri. Gomer Jones, Benjamin Evans, a Herbert Thomas wedi eu dewis yn rheolaidd yn flaenoriaid yn Eglwys Walham Green. Penodwyd y Parch. F. Knoyle, B.A., Mri. W. Price a T. J. Anthony, i fyned i Eglwys Walham Green nos lau, y 28ain cyfisol, i osod y brodyr hyn yn eu swydd. 6. Derbyniwvd Mr. T. Jones, ymgeisydd am y weinidogaeth o Mile End, yn awr yn ysgol Mr. Phillips yn Castellnewydd Emlyn, yn aelod o'r C.M. Rhoddwyd iddo gynghorion gwerthfawr gan Mr. W. Prydderch Williams. 7. Adroddiadau Pwyllgorau (a) Pwyllgor Dyledwn Capelau (ysgrifennydd, Parch. D. Tyler Davies). Y swm sydd wedi ei addaw hyd yn hyn at y deng mil punnau er lleihau dyledion capelau yw £ 5,236 3s. 6d. Dymuna y Pwyllgor ar i holl aelodau y C.M. gynorth- wyo y trysoryddion i sicrhau y pum mil gweddill cyn diwedd y flwyddyn hon. (b) Pwyllgor y Genhad- aeth Dramor (ysgrifennydd, Mr. Sam Davies, Fal- mouth Road). Cadarnhawyd yr hysbysiad am ym- weliad y Parch. J. Ceredig Evans a Rai Bhajur a chylch y C.M. yn ystod Medi 18-21. Trefnwyd iddynt i fyned i Charing Cross boreu Sul, Medi 18 i Falmouth Road nos Sul, Medi 18; i Jewin Newydd, nos Lun, Medi 19 i Wilton Square nos Fawrth, Medi 20, ac i Shirland Road nos Fercher, Medi 21. Penderfynnodd y C.M. i ddwyn treuliau y ddau Gen- hadwr yn Llundain, ac archwyd ar i ysgrifennydd y Pwyllgor, gyda Mr. O. M. Williams, i drefnu i gyhpeddi y cyfarfodydd yn holl eglwysi Cymreig Llundain. (c) Pwyllgor Addysg (ysgrifennydd, Parch. J. Thickens). Hysbyswyd dderbyn adroddiad o'r ysgolion a'r colegau am Mri. E. Tibbott, J. Abel Jones, a T. Jones. Ca,oddy Pwyllgor ymddiddan a'r myfyrwyr hyn. Ystyriwyd eu trefniadau addysgol gogyfer a'r dyfodol, a dymunwyd eu llwyddiant yn fawr. 8. Diweddwyd gan Mr. E. Tibbott.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. GWIBDAITH. Ddydd Llun nesaf bydd gwibdaith Ysgolion Sul yr Anibynwyr yn ymweled a Ruislip. Ceir y manylion mewn colofn arall. COLLI EI LAIs.-Ar ol bod ar ymweliad a bro Morganwg cafodd Mr. Clement Edwards anwyd trwm nes colli ei lais. Bu raid wrth gymorth meddygol i adfer ei wddf i'w gynefin hwyl. AR WIB.-Tynnu tua'r wlad mae ein doniau pregethwrol y dyddiau hyn, a bydd nifer o'n gwyr mawr yn cymeryd eu seib- iant dros fis Awst. PRIODAS BOBLOGAIDD. Bu'r byd cerdd- orol Cymreig yn gyffro i gyd ddiwedd yr wythnos ddiweddaf. Yr achlysur ydoedd priodas Miss Mary Davies, Praed Street, a Mr. David Richards, organydd eglwys y Tabernacl, King's Cross. Cymerodd yr uniad le yng nghapel Shirland Road, y capel lie bu Miss Davies yn aelod ffyddlawn am flynyddau, a gwasanaethwyd gan y Parchn. H. Elfet Lewis, King's Cross, a T. F. Jones, Shirland Road. Gwasanaeth- wyd ar y briodferch fel morwyn y briodas gan Miss Jennie Jones, Afccham Stieet, tear y gwr ifanc gan Mr. Evan Richards, arol- ygydd iechyd Bethnal Green. Mr. David Davies, ei brawd, roddodd y briodferch ymaith, ac ar ol y seremoni aeth y cwmni i Gwalia Hotel i fwynhau y boreufwyd dar- paredig, lie y dymunwyd hir oes a phob dedwyddwch i'r ddau. Ar ol y wledd aeth y par ieuanc ar daith drwy Ogledd Cymru, lie y bwriadant dreulio y mis mel. Gan fod y ddau mor adnabyddus nid yw'n syndod deall fod nifer yr anrhegion yn lliosog a drudfawr iawn. Eu HANIAD.-Un o fechgyn ardal Aber- tawe ydyw Mr. David Richards, ac mae wedi bod yn organydd mewn eglwys er yr adeg yr oedd yn hogyn ysgol. Mae wedi dringo i reng flaenaf yr offerynwyr, ac mae galw parhaus am ei wasanaeth i roddi organ recitals mewn gwahanol fannau. Nid yw eto ond megys ar ddechreu ei gyrhaeddiadau cerddorol, a diau y clywir am dano fel un o'n goreuon yn y maes hwn. Am ei briod, Mrs. Richards, y mae wedi ennill cryn safle- fel cantores swynol iawn. Genedigol o ardal Llangeitho ydyw hi, ac mae iddi. gylch eang o gydnabod yn Llundain. Ar eu dychwel- iad i'r brifddinas bwriadant breswylio yn. Framfield Road, Highbury. ELFED A'¡ DAITH.—Cychwyna y Parch H. Elfet Lewis ar ei daith tuag America ar y 6ed o Awst. Bydd yn hwylio ar y Lusitania- o Lerpwl, ac ar ol glanio yn yr Unol Dal- eithau trefnir am ei daith gan y Parch. T. Cynonfardd Edwards. Mae Cynonfardd wedi gofalu y caiff y prif-fardd gyfle i ym- weled a'r prif ddinasoedd lie mae cynulliad o Gymry, a sicr y bydd llawer o'r rhai hyn yn awyddus i glywed Elfed o'i felfed fin Yn rhoi araith i'r werin. Ar ol pregethu a darlithio am rai wythnosau bwriada Mr. Lewis fod yn ol wrth ei waith yn y Tabernacl ar y 20fed o Hydref. Y CLWB CYMREIG—Yn 01 yr adroddiad gyhoeddwyd yr wythnos ddiweddaf, y mae rhagolygon y sefydliad hwn yn dra addawol ar hyn o bryd. Yn y cyfarfod cyntaf o Bwyllgor y flwyddyn hon, penodwyd Syr E. Vincent Evans yn gadeirydd am y flwyddyn, ac ni ellid wrth gymhwysach arweinydd na'r Marchog o Chancery Lane. DIM ADRODDIAD ETO.- Eu aelodau y Ddir- prwyaeth Eglwysig yn cynnal cyfarfod arall ddechreu yr wythnos hon, ond ni lwyddwyd i gytuno ar gynllun yr adroddiad a gyflwynir i'r Senedd. Mae'r eisteddiadau wedi eu gohirio yn awr hyd fis Medi-canys y mae'n rhaid i'r Ddirprwyaeth gael cyfle i fwynhau gwyliau hâf-ac ar ol ychydig eisteddiadau, y pryd hynny feallai y llwyddir i ddod i ryw: benderfyniad. SWN YMADAEL.—Sibrydir fod un arall o'r gweinidogion Cymreig ar ymneilltuo o ofal bugeiliol yn Llundain. Mae dau neu dri wedi gwasanaethu yma am ysbaid hir, a chan mai caledwaith yw gofal eglwysig yn y brif-ddinas, nid syndod fod un o honynt yn son am neilltuo i unigedd a seibiant yr hen wlad. Cyfarfu'r Parch. Hugh Davies, gweinidog ar Eglwys y Methodistiaid Cymreig yn Wilkesbarre, America, a damwain angeuol ar y lleg o'r mis hwn. Pan yng ngorsaf New Jersey tarawyd ef yn farw gan ger- bydres. Yr oedd yn 70 mlwydd oed.
YR ATHRAWON A'R GYMRAEG.
awdurdodau addysgol benodi neb i ofalu am yr adran Gymreig ym mywyd yr ysgol. Nid oedd yn foddlawn, ebai, i ddim gael ei ddysgu yn yr ysgol os nad oedd hi yn gyfarwydd ynddo; ac yma eto ym- resymma'n union fel pe na bai hawl gan neb godi'n uwch na phen llanw athrawes unieithog. Gresyn na fuasai'r Cyngor Sir drwy ei awdurdod addysgol yn ymgymeryd ag argyhoeddi'r athrawon gwrth- nysig hyn unwaith am byth, oblegid yr unig beth sydd eisieu yw dangos iddynt na cheir swydd oni byddo cymhwyster i'w llanw yn y sawl a'i cais, a bod yr awdurdodau wedi gwneud eu meddwl i fyny yn derfynol fod gwybodaeth o'r Gymraeg yn hanfodol i wneud cyfiawnder a'r plant ymddiriedir i'w gofal. Rhaid i gefnogwyr yr iaith barhau i weithio drosti. Nid digon ydyw sicrhau iddi ei lie haeddiannol, eithr rhaid gofalu iod pob gwrthwynebydd iddi gael ei symud o'r ysgolion, ac oddiar y pwyllgorau addysg yn holl siroedd Cymru. Unwaith y gadewir i'r pwyllgorau addysg fyned yn ddifater yn ei chylch, yna bydd bywyd yr athrawon gelynol yn hapus, a gwyddom trwy brofiad fod mwyafrif mawr y dosbarth hwn yn wrth- wynebol iawn i gynnwys y Gymraeg ymysg y pynciau y dylid rhoddi addysg i blant y genedl ynddi.