Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. [GAN ALAWYDD]. Y Cerddor. Yn rhifyn Awst o'n cylchgrawn cerddorol ceir darlun ynghyd a bywgraffiad edmygol o'r crythor poblogaidd, Mr. Philip L6wis, Llundain. Ar hyn o bryd mae Mr. Lewis yn arwain cerddorfa yn Aberystwyth, a chydnabyddir yn bur gyffredin ei bod yn un o'r rhai goreu a glywyd yn dyddori ym- welwyr glannau mor Cymru yn ystod mis- oedd yr haf. Rhagor na bod yn chwareuwr medrus ar y crwth ei hun, y mae Mr. Lewis yn athraw penigamp i efrydwyr o'r offeryn hwn, a manteisir ar ei dymor yn Aberyst- wyth iddo roddi gwersi i'r rhai fynychant yr ysgol haf gerddorol yno. Mudiad amserol ydyw hwn ar ran awdurdodau y coleg, canys y mae yr adran offeryiiol wedi ei hesgeuluso yn ddirfawr ar hyd y blynydd- oedd, ac er cymaint a sonir am wella yn hyn o faes, rhaid addef mai ychydig iawn o gynnydd sydd wedi ei wneud hyd yn awr. Esgeuluso'r Offerynwyr. Y mae cymaint bri wedi ei roddi i'r lleiswyr ar hyd y blynyddau, a phawb wedi myned i gredu ei fod yn gerddor os yn meddu ar lais pur addawol, fel nad yw o un syndod deall paham y mae ein hofferynwyr mor brin. Rhyw hanner byw y mae pob cerddorfa gennym yng Nghymru heddyw, ac anaml y rhoddir iddynt alwadau cyhoeddus lie y gall yr aelodau ennill rhyw gymaint at eu bywioliaeth, tra y mae ein prif gyng- herddau yn cael eu hamddifadu yn hollol o wasanaeth y rhai fedrant roddi alaw offer- ynol i ni bob yn ail a'r unawdwyr lleisiol. Yn hyn o beth yr ydym yn dra gwahanol i'r genedl Seisnig, ac mae yn werth ymholi pa un a'i diffyg gwrtaith cerddorol ydyw, ynte anallu y Cymro i fwynhau cerddoriaeth ar wahan i farddoniaeth neu eiriau yn gysyllt- iedig a hi. Os oes modd cael diwygiad yn y cyfeiriad hwn, credwn mai'r diwygiad cyntaf ddylai fod ynglyn a'r geinogaeth briodol i offeryn wyr, a gellid gwneud hyn pe sefydlid cerddorfa fechan ymhob eglwys lie y mae corau lleisiol yn awr, a phe gwneid hyn cyn- yrchid awydd yn yr ieuainc i ddechreu yn foreu gyda'r gwahanol offerynau, a rhoddi'r sylfaen angenrheidiol i wybodaeth o'r gelf a'r gan. Nodweddion Cenedlaethol. Ar yr un pryd ni ddylem anghofio fod perygl i ni redeg i eithafion pan yn con- demnio ein difrawder ynglyn a'r adran offerynol. Nid doeth gosod unrhyw genedl arall yn esiampl penodol cyn ymholi a fyddai'r cyfnewidiad yn unol a'n nodweddion cen- edlaethol. Rhaid gofalu fod pob cam a gymerir nid yn unig yn welliant eithr yn un ag y gall y genedl fel cyfangorff ei werth- fawrogi a'i fwynhau. Os mai rhoddi arben- igrwydd i'r adran leisiol wna'r Cymry, nid yw hynny yn brawf ei bod yn ddiwrtaith ac yn angherddgar. Ond gan ein bod wedi cyrraedd cryn fri yn y cyfeiriad hwn y mae'n Werth talu sylw i'r adrannau ereill, a da fyddai gennym weled ein colegau yn myned o ddifrif ati i roddi'r cyfarwyddyd priodol i'r ieuainc ar ddechreu eu gyrfa. Pe caem hyn hwyrach y codid, cyn bo hir, ami i gyfansoddwr a cherddor a wnai enw Cymru yn gyfuwch a rhai o genhedloedd y cyfandir yn y clasuron cerddorol. Anwybyddu'r Hen Donau. Mae'r awydd am efelychu cenhedloedd ereill wedi ei ddangos yn eglur yn y blyn- yddoedd diweddaf hyn ynglyn a'n haddoliad crefyddol. Myn y cerddorion diweddaraf i ni gredu nad oes fawr o werth yn yr hen donau Cymreig, a'r canlyniad ydyw, fod llu o alawon tramor wedi eu dwyn i'n gwahanol gasgliadau o Lyfrau Tonau a arferir gan yr amrywiol enwadau. Ynglyn a hyn ysgrif- enna gohebydd fel a ganlyn :— EFFEITHIAU CERDDORIAETH AR GENEDL Y CYMRY." Mr. Gol.Gallem feddwl nad oes dim dwy farn i fod nad oes yna gryn ddirywiad wedi cymeryd lie, yn ystod, dyweder, yr ugain mlynedd diweddaf, yn ein canu cynulleidfaol. Fel y dywed Mr. Peter Edwards (Pedr Alaw), yn ein cyhoeddiad cenedlaethol "Y Geninen," am Ebrill, y mae y rhan fwyaf o'r hen donau wedi cael eu gwthio o'r neilltu gan donau Seisnig a thramoraidd, fel, gan y byddys yn gwrandaw arnynt yn cael eu canu, nad oes ond yr iaith Gymraeg yn brawf mai mewn lie o addoliad Cymreig yr ydym. Haerir gan rai fod 11awer iawn o ddefosiwn, o'r elfen argyhoeddedig, wedi ei cholli o'n canu er pan y taflwyd yr hen donau o'r neilltu, Dywed ereill mai nid yn yr hen donau yr oedd y rhinwedd, ond yn ysbryd defos- iynol y bobl. Da fyddai rhoi darlleniad pwyllog i ysgrif Pedr Alaw, canys o hynny delai i ni ddaioni.—Yn gywir, CERDDOR. Mae'n wir nad oes rhyw werth clasurol mewn ami i hen d6n Gymreig, er hyn oil maent yn apelio at enaid y Cymro, a dyna yn sicr ddylai fod prif genhadaeth cyfansoddiadau o'r fath. Ond pw gerddor gydsyniai a hyn ? Cymro yn Organydd Capel Whitefield. Gwn y bydd yn llawen gan lu o gyfeillion Mr. W. Matthews Williams, X.R.C.O., glywed am ei benodiad i fod yn organydd cynorthwyol yng nghapel enwog y Parch. Sylvester Horne, M.A., yn Tottenham Court Road. Allan o nifer o ymgeiswyr dewis- wyd Mr. Williams, a thystiodd Mr. F. A. Atkins a'r Barnwr Wallace-dau o reolwyr y lie—iddynt gael eu llwyr foddloni ganddo pan yno ar brawf. Mae y swydd yn un bwysig, a rhydd fantais arbennig i'r cerddor ieuanc hwn ddadblygu ei alluoedd, ac mae i'w longyfarch ar ei lwyddiant digamsyniol hyd yn hyn. Ei yrfa gerddorol. Ac olrhain hanes Mr. Williams fel cerdd- or, cawn fod iddo yrfa ddisglair hyd yn hyn. Bu yn yr Academy am ddwy flynedd wedi iddo ennill y Stainer Scholarship for organ playing." Wedi gorffen o honno ei dymor yn yr Academy, dychwelodd adref i Amlwch, Mon, ac yn ystod y tymor y bu gartref, ymdaflodd i waith. Ffurfiodd g6r cymysg yn ogystal a chor merched, a bu'r ddau yn dra llewyrchus dan ei ofal. Bu ei ymdrechion yn y cyfeiriad hwn yn foddion i ennyn dyddordeb o'r newydd mewn cerdd- oriaeth ymhlith trigolion Amlwch a'r cyffin- iau. Y mae wedi cyfansoddi amryw unawdau, rhanganau, ac anthemau. Nid oes gennyf ond dymuno iddo bob rhwydd hynt yn ei faes newydd. Bydded ei wasan- aeth yn Whitefield's yn glod, nid yn unig iddo'i hun, ond i ninnau fel cenedl; ac o'm hadnabyddiaeth o Mr. Williams, nis gallaf lai na chredu mai felly y bydd. Dr. Dan Protheroe. Bu'r cerddor Americanaidd hwn ar ym- weliad a Chapel y Tabernacl, King's Cross, y Sul diweddaf, a threuliodd y gweddill o'r wythnos hon i ymweled a'r Cyfandir. Bydd yn dychwelyd i'r Taleithau yr wythnos nesaf. Deallwn ei fod wedi addaw bod yn bresennol, yr haf nesaf, yn Eisteddfod Fawr Caerfyiddin, pryd y disgwylir gweled cor o'r America ymhlith y cystadleuwyr.

[No title]

Advertising