Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yn Llandrindod y mae Mr. Evan Roberts, y diwygiwr, yn treulio ei wyliau haf eleni. Sonir fod gwyrth arall wedi ei chyflawni yn Ffynnon Gwenffrewi. Aeth geneth ieuanc, yr hon nis gallai gerdded, i'r dwfr yr wythnos ddiweddaf, a llwyr iachawyd hi ar unwaith Un o lenorion Cymreig yr America yw Dr. Morien Mon Hughes, yr hwn sydd ar fin dyfod drosodd i'r wlad hon i drelio ychydig fisoedd o seibiant. Ychydig o Gymry, mae'n debyg wyddai mai i deulu Lloyd Hughes, Coed Helen, Caernarfon, y perthyna hen Abaty Valle Crucis, ger Llangollen. Yn ol ewyllys Lloyd Warren Charles Hughes, syrthia'r ystad hon yn awr i ddwylaw Trevor Hughes, Glasgoed, Llandeiniolen. Ar yr un ystad hefyd y mae Llys Dinorwic, Cegin Arthur, a Phen Dinas

YR ORSEDD YN LLYDAW.