Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd y Gol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd y Gol. Pan glywodd y beirdd fod Dyfed i lywyddu'r cyn- -lilliad yr wythnos hon, ni ddaeth ond nifer fechan lawn ynghyd. Clywodd yr Archdderwydd fod Elfed wedi cilio o'r ddinas, a theimlai fod angen cadw i fyny urddas y cylch barddonol; felly, ar ei daith yn ol o Lydaw, wele ef yn cymeryd awenau y cyfarfod. Yn anffodus yr oedd ei Gymraeg yn rhydlyd iawn. Ni siaradai ddim ond Ffrancaeg â'r Macwy, ond pan glywodd Cochfarf yn parablu Llydawaeg, torrodd allan i ganu "Hen Wlad fy Nhadau yn yr iaith honno- 0 Breiz ma bro me gar ma bro Tra ma vo'r mor 'vel mur'n he zro, Ra vezo di'gabestr ma bro! Cawd hwyl wrth uno yn y oydgan hwn, a mynnodd "Sam Davies ail-adrodd y geiriau gyda hwyl. Ond cenhadaeth bennaf yr Archdderwydd oedd gwahodd y Beirdd i Orsedd Colwyn Bay, ac addaw- odd Syr Finsent y byddai catrawd Llundain yno yn gryno, ac wedi cael sicrwydd y Marchog am hyn, cymerodd Dyfed yn ganiataol y byddai'r wyl yn llwyddiant mawr. Gan fod amryw o'r hil lenorol ar eu gwyliau, bodd- lonwyd y tro hwn i gael adroddiad cymmen o'r Orsedd yn Llydaw, ac addawodd y gweddill o'r cwmni draethu ar droion difyr y daith yn y cyfar- fod yr wythnos nesaf. Hyd hynny boed i'n gohebwyr arferol arfer eu hamynedd yn ogystal a mwynhau eu seibiant haeddiannol.

Advertising

Y GENINEN EISTEDDFODOL."

Advertising

NODIADAU LLENYDDOL.