Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Special Offer to Kelt' Readers. ti The CAMBRIA FOUNTAIN PEN FOR 3/6 EACH. GUARANTEED FOR TWO YEARS.- J at last within the reach of all. Superior to any offered at Half a Guinea, and suitable to Large 14 Carat Gold Nib, in I A PERFECT Writing Implement at last within the reach of all. Superior to any offered at Half a Guinea, and suitable to Large 14 Carat Gold Nib, in alFpoints and degrees of flexi- Best Vulcanite holder, twin feed ;*and British^make through- Will prove a faithful com- panion for a lifetime with fair wear and use. Every pen carefully tested and guaranteed for Two Years. Send a steel nib and style of writing, and we will fix you up with a reliable pen—and not a out. Will prove a faithful com- panion for a lifetime with fair wear and use. Every pen carefully tested and guaranteed for Two Years. ") Send a steel nib and style of writing, and we will fix you up with a reliable pen—and not a toy. 1iHr- Money Returned if not satisfied. PRICE 3s. 6d. POST FREE. Send for one at once and save 7s. AGENTS WANTED EVERYWHERE. To be had only at 'KELT" OFFICE, 302, GRAY'S INN RD., LONDON, W.G.
GWNEUD CREFYDD YN WAWD.
GWNEUD CREFYDD YN WAWD. Un o'r pethau hyllaf a mwyaf cableddus a wneir yn enw crefydd y dyddiau hyn ydyw'r ymgais at greu math o ddiwygiad ymhob cynhadledd Grefyddol, neu ynglyn a phob cynulliad o Gymry a dyrrant i addoli yn rhai o leoedd poblogaidd ein gwlad. Os digwydd i ryw siaradwr hyawdl godi hwyl, a chreu brwdfrydedd yn y gynulleidfa, ceir gweled rhai o'r dorf yn colli pob rheolaeth arnynt eu hunain, gan waeddi a moliannu megis y gwnai'r torfeydd yn Niwygiad 1905. A chefnogir yr arferiad gan rai gweinidogion, y rhai a draethant yn haer- Ilug mai dylanwadau nefol" ydyw'r cyfan i gyd. Ac os digwydd i rywun ymarfer doethineb a gofyn am drefn a rheolaeth ar y dorf, torrir allan i'w felldithio megis person heb feddu unrhyw gariad na pharch tuag at y grefydd Gristionogol. Caed esiampl nodedig o hyn ynglyn a'r cyfarfodydd gynhaliwyd yn Llandrindod yn ystod yr wythnosau diweddaf. Yr oedd y diwygiwr Evan Roberts yn bresennol yn y dref, a cheisiai'r cyhoedd gredu ei fod wedi dwyn dylanwadau neilltuol yn ei gamrau. Gwelwyd ami i dorf yn colli pob hunan- reolaeth mewn amryw o'r cyfarfodydd, a gweithiai ereill o'r arweinwyr eu heithaf i greu math o rith ysbryd diwygiadol ar bob adeg dichonadwy. Y canlyniad naturiol oedd, fod y brwdfrydedd yn eithafol ac yn parhau hyd oriau hwyr eto gwelid yr un personau trannoeth mor ddireidus a neb o'r ymwelwyr yn mwynhau pleserau yn yr awyr agored, megis pe heb deimlo unrhyw arwydd o argyhoeddiad erioed! Nid oes gennym unrhyw wrthwynebiad i weinidogion ac ereill gynnal math o rialtwch diniwed, ond yr ydym yn protestio yn erbyn y duedd o gyhoeddi rhyw ffwlbri o'r fath yn ddylanwadau nefol." Cabledd o'r fath waethaf ydyw brawddegau felly, ac mae'n hen bryd rhoddi taw arnynt. Nid oes mwy o ddylanwadau nefol yn cael eu harddangos nag a welir yn ami yn rhai o'n cyfarfodydd gwleidyddol cyhoeddus. Yno gwelir y dorf yn colli pob hunanlywodraeth ac yn myned i ystumiau rhyfedd yn ami, eto ni ddwedai'r mwyaf penboeth mai gwaith yr ysbryd" fyddai rhyw ymddygiadau afreolus o'r fath Pan gyhoeddir rhyw ymddangosiadau rhith-foesol fel hyn fel Gwir Grefydd nid syndod fod pobl yn colli eu bias ar yr Eglwysi, ac fod y colliadau blynyddol yn lliosog iawn. Rhaid i arweinwyr crefydd edrych ati, a gofalu fod pob cynhadledd o'r fath yn cael ei chario allan yn drefnus ac yn rhydd oddiwrth y cabledd a glywir ymhob cyfarfod diwygiadol" yn y blynyddoedd hyn.
[No title]
Ar y Cyfandir mae Syr D. Brynmor Jones a'i briod yn treulio eu gwyliau haf. Penodwyd unarddeg o bersonau yn Y stusiaid yn swydd Faesyfed yr wythnos hon. Mae yr oil yn Doriaid. Mae'r Athro J. Young Evans yn Guy's Hospital ar hyn o bryd. Aeth dan driniaeth lawfeddygol yno ddechreu yr wythnos hon. Treulia Mrs. Mary Davies ei gwyliau haf yng nghanolbarth Ceredigion. Bu'n dyddori rhai o'r brodorion nos Sadwrn diweddaf trwy gymeryd rhan mewn cyngerdd lleol yn ago a i hen bentref Llangeitho.
YR HEN A'R NEWYDD MEWN EISTEDDFODAETH.
YR HEN A'R NEWYDD MEWN EISTEDDFODAETH. Prawf o lwyddiant a dylanwad yr Eis- teddfod yng Nghymru ydyw, fod cymaint o feirniadu ar ei chyfansoddiad a'i gweithred- iadau a'r dyddiau hyn mae dau ddosbarth o griticyddion wedi codi i ymosod arni gyda haerllugrwydd digymar. Y cyhuddiad cyntaf a wnaed i'w herbyn ydoedd eiddo Dr. Gomer Lewis, yr hwn a'i cyhuddai o fod yn sefydliad enwadol hollol, ac nad oes neb gwr i gael rhan yn ei gweithrediadau oni fydd yn perthyn i enwad neilltuol. Gan mai Bed- yddiwr ydyw Gomer, mae'n naturiol casglu mai ei enwad ef sydd yn cael ei anwybyddu ond prin y gellir dweyd fod hyn yn ffaith. Y mae cymaint o urddau'r hen sefydliad wedi eu gosod ar Fedyddwyr ag ar bersonau yn perthyn i enwadau ereill. Hwyrach mai'r Doctor ei hun sydd wedi cael ei anwybyddu ar rai adegau; a gwyr pawb os na chaiff Gomer fod yn foxer nad yw'r sefydliad o unrhyw werth yn ei olwg. Ei gwyn arall ydoedd, fod Swyddfa yr Eisteddfod yn Chancery Lane. Gwell ganddo ef gael adfer yr hen Wyl i'w symlder cyntefig; a chan mai mewn tafarn- dai y cynhelid yr Eisteddfod gynt, gallem gasglu mai mewn lleoedd o'r fath yr hoffai Gomer ei gweled unwaith eto, ac yna feallai y cawsai yntau ei le haeddiannol yn ei holl drefniadau. Mae'r syniad a'r cyhuddiad mor wrthun fel y mae'n syn gennym i wr o safle Dr. Gomer Lewis wneud y fath sylwadau. Yr ail ddosbarth o feirniaid yw'r beirdd newydd, y rhai a honnant nad ydynt hwy yn cael eu safle briodol ynglyn a'r Wyl. Gwneir y cyhuddiad hwn gan yr Athro J. Morris Jones a Mr. W. J. Gruffydd, ond gan mai plant yr Eisteddfod ydyw'r ddau, ac na fyddai son am danynt yng Nghymru oni bae am eu cysylltiad a'r Eisteddfod, y mae'n anhawdd dirnad pa le mae sail i'w cwynion. Mae'n wir nad oes un o'r ddau wedi cael rhan flaenllaw yn Eisteddfodau Colwyn Bay na Chaerfyrddin, ond hawyr a oes raid roddi swydd i'r brodyr hyn bob tro y cynhelir Eisteddfod ? Os na ellir cael rhyw feiau gwaeth na'r rhai hyn yn erbyn yr hen Wyl, mae'n eglur fod ei safle yn wir gadarn, a thra y deil yn ei hoywder presennol ni fydd angen pryderu am ei gyrfa yn y dyfodol.