Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
TROS Y WERYDD.
TROS Y WERYDD. Son am newid pulpudau wir. Dyna i chwi Elfed yn pregethu yn yr Unol Daleithau ddydd Sul diweddaf, ac un o bregethwyr y Taleithau yn pregethu yn King's Cross Un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Chicago yw Dr. Gunsaulus, y gwr sy'n llenwi pulpud City Temple y dyddiau hyn. Yn ei eglwys ef mae Dr. Dan Protheroe yn arweinydd y gan, a chyfrifir y gwasanaeth yno fel un o'r goreuon yn y cyfandir newydd. Hysbysir ni gan gyhoeddiad crefyddol parchus, medd y Drych, fod cnwd y D.D. yn llai eleni nag y mae wedi bod ers tro. Ym- ddengys fod rhywbeth allan o le ynglyn a'r supply neu y demand yn ein plith ni y Cymry, yn y Taleithau. Mae y gweithfau heb archebion neu y mae y gweithwyr yn sefyll allan neu rywbeth. Clywsom fod un felin arferai droi allan gryn gyflawnder o'r nwydd wedi cau i lawr o herwydd rhyw reswm neu gilydd. Mae un arall o blant y gan o'r America newydd ddod drosodd i Gymru, sef Mr. W. R. Jones, arweinydd canu yn eglwys Hebron, Chicago. Beth bynnag am glod y ddinas honno fel lie annuwiol, y mae yno nifer o eglwysi llewyrchus iawn, a chymer y Cymry ran flaenllaw mewn amryw o honynt. Dydd Sadwrn diweddaf, Awst 13eg, oedd y Welsh Day yn Scranton, America, a bu'r ddinas mewn llawn hwyl am y dydd, a thyrrai'r Cymry yno o bob man i gadw gwyl. Eisteddfoda a chanu a chroesawu eyfeillion fu prif orchwylion y dydd yno. Pan fo gwyl yn yr America ni fydd ball ar rialtwch y bobl. Y diwrnod mawr yn y Taleithau yw'r "fourth of July," sef dydd dathliad rhyddid y wlad honno. Gofynai cyfaill i Gwilym Glan Conwy un tro- Dywed i mi," meddai, "beth mae y Fourth of July yma yn i feddwl ? 0," atebai Gwilym, coffadwriaeth ydi o am yr adeg y darfu y wlad yma roi cweir i'r Hen Wlad." Wel, bobol anwyl, os dyna ydi o, be 'dasa'r Hen Wlad yn cadw gwyl am bob cweir ro'th hi i wledydd ereill; Fourth of July fasa hi yno am byth." Bwriedir cynnal eisteddfod fawr yn Chicago ar adeg y Calan nesaf, ac er mwyn rhoddi tipyn o atyniad i gorau o Daleithau ereill y mae'r gwobrau yn rhai lied haelionus. Mae'r hwyl eisteddfodol mewn cryn fri yn y Cymro wedi croesi'r Werydd, ac mae'r hen sefydliad a chymaint o "fynd" arno a phe yn yr Hen Wlad. Mae Cymdeithas Elusengar Utica a'r cylchoedd wedi anfon cais am ddarlith gan y Parch. Elved Lewis ar Williams Panty- celyn,' yn ystod ei ymweliad a'r ddinas. Gan fod y Gymdeithas hon yn anenwadol gellid disgwyl cynulleidfa fawr i wrando y gwr athrylithgar. Ysgrifenna Mr. E. J. Morgan, Milwaukee, yr hwn fu ar ymweliad a Llundain ychydig amser yn ol, hanes ei daith yn y papur Americanaidd. Ar ol bod yn gwrando y Parch. R. J. Campbell yn y boreu," meddai, aethom i gapel y Bed- yddwyr yn Heol y Castell-capel yr enwog Lloyd George, yn yr hwyr. Yno cwrdd- asom a Miss Gwen Evans, yr hon sydd yng ngwasanaeth y Brenin er's amser maith, a rhoddodd wahoddiad i ni i ymweled a Buckingham Palace. Nos dranoeth, yn ol y gwahoddiad, aethom i'r Palace Breninol, a chawsom dderbyniad croesawgar iawn gan. Miss Evans. Trwy fod y Fam-Frenines Alexandra, ei chwaer, y gyn Ymerodres Marie o Rwsia, a dau neu dri o freninoedd Ewrop yno, cawsom weled pethau ar eu goreu. Yr oedd yr Ymerawdwr William o Germani newydd ymadael y prydnawn hwnnw, felly ni chawsom gymaint a chyff- wrdd a godreu ei wisg na'i weled o hir-bell, ond gwelsom yr ystafelloedd lie yr oedd yn aros, a'r bwrdd ciniaw wedi ei osod yn barod i'r rhai oedd wedi aros. Gwelsom ystafell yr orsedd yn yr hon yr oedd y diweddar Frenin Edward, neu yr hyn oedd farwol o hono, yn gorwedd cyn ei gymeryd i West- minster Abbey. Yr ystafell hon yw y fwyaf a'r fwyaf gorwch yn y palas. Gwelsom lawer o ystafelloedd ereill, y rhai, wrth gwrs, oeddynt oil yn wychion. Nid oedd gennym amser i edrych ar y dar- luniau ardderchog oeddynt yn gorchuddio y muriau, ond tynwyd ein sylw yn neillduol at un o'r Frenines Alexandria, ac er ei weled yn briodol trodd Miss Evans y goleuni trydanol, a goleuwyd chandelier anferth o cut glass nes oedd yn edrych fel coelcerth fawr o dan amryliw, yn ddigon i gymeryd yr anadl allan o honom.
[No title]
PAROH. T. C. EDWARDS (Cynonfardd).
ARWEST GLAN GEIRIONYDD.
ARWEST GLAN GEIRIONYDD. Ym marwolaeth y bardd dyddan Gwilym Cowlyd, collodd Arwest Geirionydd ei phrif arolygydd. Gwir i Ellis o'r Nant gael ei benodi yn fath o Eliseus i'r Elias hwnnw, ond mae yntau'r Ellis yn llai hoyw nag y bu, a blin oedd deall iddo fethu bod yn bresen- nol yn yr Arwest gynhaliwyd ddydd lau yr wythnos ddiweddaf ar lan y Ilyn enwog hwn. Yn arwain y gweithrediadau eleni oeddent- Ifan Dafydd ac Isgoed. Ar ol dinoethi y cledd a chyhoeddi heddwch trafodwyd amryw faterion, yn eu plith pleidlais o gydymdeim- lad ag Ellis o'r Nant yn ei lesgedd, a dymun- iad ar i lywydd Pwyllgor yr Arwest, sef Isgoed, ei anfon iddo. Yna datganwyd dymuniad am lwyddiant i'r Eisteddfod Genedlaethol yng Ngholwyn Bay y mis nesaf. Oherwydd agosrwydd yr Eisteddfod hon, yn benaf, y rhoed heibio yr arwest eleni, ond yn unig agor a chau yr orsedd, ac i gyhoeddi yr Arwest am y flwyddyn 1911. Wele ddau englyn anfonwyd gan Dr. Roberts (Isallt), Plaswaenydd, Blaenau Ffes- tiniog, mewn atebiad iddo ddod i'r Arwest eleni Gomedd raid i'm (o'th gymell)—arweinio Ngeirionydd anghysbell Isgoed, does farch nac asgell Fy ngharia byth i'r fangre bell. Er hwylio dawn i'r Wyl doed-awenwyr Lu heinyf o bob oed Wyf mal plwm, rhy drwm o droed I esgyn y Bryn, Isgoed.
[No title]
Tebygol yw mai yn Nhregaron y cynhelir cyfarfod hanner-blynyddol y Bwrdd Canolog Cymreig, yr hwn gynhelir ym mis Mai nesaf. Clywir swn eisoes am baratoadau yn y dreflan enwog hon gogyfer ar amgylchiad pwysig. Teimlir llawer iawn o frwdfrydedd yng Nghanolbarth Ceredigion yn ymweliad Syr Marchant Williams a Thregaron ddechreu tymor y gaeaf. Teimlir cryn awydd i ddod i adnabyddiaeth ag ef. Darlithir ganddo ar Ceiriog yng nghyfarfod agoriadol y Gym- deithas Lenyddol.
Y BEIRDD YN LLYDAW.
Y BEIRDD YN LLYDAW. 'Rwyf yn caru Cymry Llydaw, Am eu clod ni byddaf ddistaw Cymry oedd yr hen Frythoniaid, Cymry heddyw yw'r Llydawiaid. —DYFED- Tra fo Teifi deg yn Ililo Caiff y dyddiau hyn eu cofio Arfor Cymru o un haniad Heddyw unwyd mewn gwir gariad. Un ein cnawd, ein hiaith, a'n delfryd, Un ein can a'n hanes hefyd Un ein hymgais, cofiwn hynny,— Un o galon, Breiz a Chymru. -IFANo. Os yw'r dwr yn rhannu'r gwledydd, Os ymhell y byw'r Bretonydd Yn y pellter mwy fy nghariad Bendith Duw fo ar ein huniad. —J. MEREDITH. Gorsedd Llydaw, Gorsedd Nanti, Sydd yr un a Gorsedd Cymru; Baner heddwch y Brythoniaid, Lledir hi uwchben Llydawiaid. Enw Dyfed, pen y defion, Lonna Llydaw i'w gwaelodion, A Chaledfwlch, uwchlaw adfyd, Loewa afiaeth Gwalia hefyd. Pan fydd Bleriot, White a Farman, Wedi dysgu'r Beirdd i hedfan, Ni a gawn o lawn lawenydd Gadw'n gwyliau gyda'n gilydd. Tra fo Llydaw'n tyfu wynwyn, Tra fo Cymru'n tyfu cenin, Cadwed Llydaw, cadwed Cymru Ar ddwy faner-Hedd i fynu. —BRYNFAB. Miss K. Cordelia Rhys, ar ol bod ym mrwydr y blodau, a ganodd :— Heddyw bum mewn rhyfel enbyd Ac yn ymladd am fy mywyd, Rhyfel flodau oedd y rhyfel, Rhwng cyfeillion heb un fagnel. Taflwyd blodau at fy nghalon, Gan edmygwyr a gelynion Buaswn heno wedi marw Oni bai im' het fy nghadw. Arglwydd Faer Deheudir Cymru, Yn y rhyfel oedd yn gwaedu Ond fe ddaliodd megis gwron Nes i'r Ffrancod dorri'u calon. Gwelais yr Archdderwydd yno, A'r byddinoedd arno'n curo Ond fe gurodd lu'r tywyllwch, Heb un arwydd gwaeddi Heddwch."
[No title]
LLANDRINDOD.—Mae catrawd o Gymry'r ddinas ar ymweliad a'r lie hwn yn awr, a gofelir am gysuron y mwyafrif o honynt gan Mr. Edward Jenkins, Gwalia Hotel.
TROS Y WERYDD.
Dyma'r gwr sydd a rheolaeth taith y Parch. H. Elfet Lewis, yn yr America. Cyfrifir Cynonfardd" yn un o'r Cymry mwyaf dylanwadol yn y Taleithau fel darlithydd a phregethwr. Fel arweinydd eisteddfodol y mae heb ei ail ar hyn o bryd, a sonir fod ymdrechion i gael eu gwneud i'w ddenu i dreulio gweddill ei oes yng Nghymru.