Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. YMWELWYR. Pobl o'r wlad yw nifer liosocaf ein cynulliadau Eglwysig y Suliau presennGl. ———— SYR J. PRICHARD JONES. Cyflwynir rhyddfreintiau dinas Caernarfon i'r Barwnig poblogaidd hwn un o'r dyddiau nesaf yma. CYNYRCHION EISTEDDFOD LLUNDAIN.—Bydd dwy gyfrol o weithiau yr Eisteddfod hon yn barod i'r cyhoedd erbyn adeg yr Wyl yn Colwyn Bay. ———— Y CYMMRODORION. Mae Syr Vincent Evans wedi llwyddo i gael Syr Ivor Herbert i agor ymdrafodaeth yn Colwyn Bay-yn adran y Cymmrodorion-ar y pwysigrwydd i goffhau arwyr hen genedl y Cymry. Hwyrach, ond i'r Gymdeithas hon gymeryd at godi colofn-goffa i Llewelyn, y gwelir y bwriad yn ffaith. Y BEL DROED -Gwelir fod tymor y pel- droedwyr Cymreig i ddechreu ganol mis Medi. Mae'r Clwb Llundeinig wedi trefnu -rhestr ddyddorol o chwareuon am y tymor dyfodol, a dylai gael cefnogaeth unol y rhai a garant yr ymarfer poblogaidd hwn. MR. CLEM, EDWARDS.—Da gennym ddeall fod Mr. Edwards yn graddol wella o'i an- hwyldeb diweddar, ac y'i gwelir cyn pen ychydig wythnosau yn cymeryd rhan flaen- llaw ym mudiadau gwleidyddol Dwyrain Morganwg, lie y mae wedi ei ddewis i fod yn ymgeisydd, ar ol i Syr Alfred Thomas ym- ddiswyddo. ———— Y GYNULLEIDFA A'R PREGETHWR.—Mae'r Parch. T. Phillips, Bloomsbury, wedi dyfeisio cynllun newydd i greu dyddordeb yn y cyfarfodydd crefyddoJ gynhelir ynglyn a'i glwys. Rhoddir mantais i bobl o'r gynull- eidfa i siarad ac i holi cwestiynau ac atebir hwy gan Mr. Phillips gyda pharodrwydd a hwyl. Hyd yn hyn, y mae'r cynllun wedi ateb yn rhagorol, a dywed Mr. Phillips ei fod yn bwriadu parhau y cynllun dros y gauaf. YN LLYDAW.—Ar ol yr ymweliad diweddar a'r Orsedd yn Llydaw arosodd amryw o'r Cymry yn y wlad er talu ymweliad ag amryw 0 leoedd gerllaw Nantes. Gofalwyd am eu teithiau gan Mr. Kelt Edwards, yr arlunydd, yr hwn sydd yn wir boblogaidd ymysg ei frodyr Celtaidd yn y wlad honno. Cyn dod yn ol i gymeryd rhan yng Ngwyl Colwyn Bay bwriada Mr. Edwards dynnu nifer o luniau o brif leoedd Llydaw, a rhannau ,ei-,eill o Ffrainc.

Bwrdd y Gol.

Advertising

"Y GENINEN EISTEDDFODOL."