Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
DIM.
DIM. Hen hosan a'i choes yn eisie,-a'i brig Heb erioed ei ddechreu, A'i throed heb bwyth o'r ede, Hynny yw Dim, onide ? CYMANFA GWYL DDEWI.-Tro yr Anibyn- wyr a'r Wesleyaid ydyw hi i ddewis pre- gethwyr gogyfer a'r Gymanfa yn City Temple ar ddydd Gwyl Ddewi 1911. Deall- wn fod coelbren yr Anibynwyr wedi syrthio ar y gwr ieuanc dawnus, Parch. Edward Jones, M.A.;B.D., yr hwn sy'n bugeilio, Eglwys yr Anibynwyr Seisnig yn Rhyl.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Gan fod y beirdd oil wedi dychwelyd o Lydaw yr oedd nifer liosog o honynt wedi cyfarfod o gylch y Bwrdd yr wythnos hon, gan adrodd eu helyntion am y troion difyr yng ngwlad y Wynwyn. Ond ar ddechreu'r cyfarfod bu raid i'r Macwy wneud ym- ddiheurad, a gwyr pawb fod yn rhaid ei fod wedi pechu yn aruthrol cyn byth y buasai yn cydnabod ei fai. Ei drosedd y tro hwn oedd camgymeryd gwaith un bardd a dweyd mai arall oedd yr awdwr. Pan glywodd y Beirdd yn canu yn Llydaw bu mor esgeu- lus a rhoddi enw Ifano wrth benillion o eiddo Coch- farf, a dacw'r ddau am y cyntaf yn codi i wneud eu protest. Ond gan mai Cochfarf oedd y cadarnaf o'r ddau, mynodd ef ei hawl i ddweyd ei gwyn yng nghyntaf, fel a ganlyn:- "GWELLIANT GWALL.Mr. Gol.: Nage'n wir, nid Ifano ysgrifennodd y ddau bennill sydd uwchlaw ei enw yn y CELT am heddyw, a gwn nad yw Ifano am eu harddel ychwaith. Mor anaml yr wyf yn cordeddu penillion oddiar pan wyf wedi gosod fy ysgwyddau o dan arch cynghorau dinesig, &c fel yr wyf yn eiddigeddus iawn ynghylch perchenogaeth y ddau gyw cloff" a ddaeth i fodolaeth yn ystod ein taith i Lydaw. Yr oedd corn gwlad Abalor yn chwythu yn un o'm clustiau, ac eirchion Mr. Trevor Evans am benillion yn llanw y glust arall pan yr oeddwn yn ceisio rhoddi ffurf i'r ddau bennill, onide buasent yn ychwaneg, ac nid oes neb a wyr pa bryd yr ysgrifennaf gyfryw linellau eto. Tra fo Teifi* deg yn llifo Caiff y dyddiau hyn eu cofio Arfor, Cymru, o un haniad Heddyw unwyd mewn gwir gariad. Un ein cnawd, ein hiaith, a'n delfryd, Un ein can a'n hanes hefyd Un ein hymgais, cofiwn hynny,— Un o galon Breiz, a Chymru. (* Teifi yw'r afon sydd yn llifo drwy fro genedigol Mr. Trevor Evans.) Cofion at bawb o'r fintai Lundeinig-Lydewig. Cochfarf, Fel esgusawd dros ei gamwedd dywedai'r Macwy fod cymaint o Ffrancaeg a Saesneg wedi eu siarad yn yr wyl nes iddo ddyrysu rhyw gymaint yn ei waith, ac i hynny y priodolai'r anffawd. Ar yr un pryd yr oedd yn erfyn am faddeuant y cawr o Gaerdydd am y tro hwn. Ac fel ynad dyngarol cydsyniodd Cochfarf i'w ryddhau dan y First Qffenders Act. Ar ol adfer heddwch dacw un o hen feirdd y CELT yn codi yn urddasol gan gordeddu mawl i LLINOS WYRE. Ar gangau mwynber gyngan-o'i fynwes Addfwynaf lif allan; Eilia'i gu wefreiddiol gan Yn beraidd a'i bib arian. Y llonaf un mewn Ilwyni-yn ei mysg Yno mae'n barddoni O'i awen ef fe ddaw i ni Swyn y Llinos i'n Iloni. Ar ol cael y folawd hon mynnodd y Llinos ganu cerdd, a chafodd wrandawiad parod gan y dorf i gyd YR WYBJREN. Yn min y nos dan wen y lloer Mi ganaf gan i'r wybren, Nid oes yn awr un awel oer Mae gwedd y byd yn llawen Sylldremiaf ar y gloewon ser Fu'n canu'n ber un borau, Fe'u lluniwyd oil gan ddwylaw Ner Yn der cyn trefnu'r oesau. Er fod yr wybren dlos yn hOn Ei gwen i mi sy'n Ddwyfol, Deil Bydded' yr Anfeidrol en Medd awen arni bythol; Mae ser y nos yn dangos haf Preswylfod Naf Ei Hunan, Daioni byth i'm henaid gaf O'i Orsedd fraf a diddan. Claer yw ei gwedd uwch nos y byd Tra gwrid yr haul yn cilio, Machluda dros y gorwel clyd I hyfryd ber noswylio Y Iloer a leinw'i brydferth sedd Tra'r ser yn claer oleuo Tywyllwch byd, a'i hafaidd wedd,— Mewn hedd myn gwlith eneinio. Hardd wybren glir y dawel nos Beth ydwyt uwch ein bryniau ? A'i darlun gardd Paradwys dlos Yn orlawn o rosynau ? •. Mwynhau dy hyfryd wenau byw A wnaf tra pery f' awen, Edmygaf waith Anfeidrol Dduw 0 clir y byw yn Ilawen. Llinos Wyre. Ar ol i'r Llinos ddistewi ceisiodd Iago Plaistow ganu tant, ond cyhoeddodd y Gol. fod gormod o'r wedd bersonol ynglyn a'r penillion, y rhai a ddylid eu caboli ychydig yn rhagor cyn gadael iddynt ym- ddangos o flaen y cyhoedd. Yr oedd ereill yn disgwyl eu tro, ond bu raid atal y llifeiriant ar hynyna y tro hwn
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. YR YMWAGHAD.—Mae Llundain Gymreig wedi diflannu y dyddiau hyn. Yn Nghymru mae'r miloedd yn chwilio am adgyfnerthiad iechyd ac adnewyddiad yr ysbryd cenedl- aethol. CEISIADAU AM EISTEDDFOD 1912. — Gan mai yn Chancery Lane" mae swyddfa Cymdeithas yr Eisteddfod, yno y mae'n rhaid anfon ceisiadau am Eisteddfod 1912. Deall- wn fod eisoes nifer o drefi wedi danfon eu deisebau am yr Wyl. CYNORTHWY I'R C.M.—Yng Nghymdeith- asfa Blaenanerch yr wythnos ddiweddaf penderfynwyd rhoddi £250 i Gyfarfod Misol Llundain i'w gynorthwyo ynglyn a'r achos- ion Cymreig yn y ddinas. YR ATHRO YN GWELLA.—Da gennym ddeall fod yr Athro J. Young Evans, yr hwn sydd yn awr yn Ysbytty Guys, ac wedi bod dan driniaeth lawfeddygol, yn gwella yn fodd- haus. MR. JENKINS A'I BEIRIANT CANU.—Nid yw pobl Argyle Road, Ealing, yn hoff iawn o gerddoriaeth. Mae Mr. Jenkins, o'r heol honno, wedi prynu peiriant canu, o'r gradd goreu, ynghyd a modur trydanol i'w yrru. Dywedir fod y peiriant yn ddigon cadarn i roddi cyngerdd hwylus i'r holl ardal, a hynny heb i neb o'r preswylwyr adael eu Ilety Bydd raid i ynad y rhanbarth draethu ei farn ar y peiriant un o'r dyddiau nesaf yma. EGLWYS ST. BENET.—Cymerodd priodas o ddyddordeb mawr i aelodau yr Eglwys hon, le yn Eglwys henafol St. Pedr, Caerfyrddin, ar y 16eg o'r mis hwn, rhwng Miss Etta J. Thomas, o Meiros Hall, Caerfyrddin, a Mr. W. Owen, oBorthmadog, ac Islington. Gwas- anaethodd y Parch. Aldred Williams, yr offeiriad lleol. Y Misses Lizzie Owen a Lizzie M. Thomas oedd y morwynion priodas, a Mr. Walter Thomas, y gwas priodas, pryd y rhoddwyd y briodasferch ymaith gan ei hewythr, Mr. Walter Thomas, Ffos y Gest. Treulir y mis mel" yn Aberystwyth a Gogledd Cymru. Derbyniasant nifer fawr o bellebrau cyfarchiadol a llawer iawn o anrhegion gwerthfawr. Hir a dedwydd oes i'r par ieuanc. Y mae y ddeuddyn ieuanc yn aelodau dichlynaidd o Eglwys St. Benet, ac yn flaenllaw iawn gyda'r cor. DAL Y FFOADUR. Y dyddordeb pennaf ynglyn a'r enwog Dr. Crippen oedd cenhad- aeth y pellebr diwefr ynglyn a ffoadurion ar y mor. Dyma'r tro cyntaf i ddefnyddio y ddyfais newydd i'r fath amcan, ac mae'n ddyddorol nodi mai llanc ieuanc o Lundain —mab lorwerth Oeitho-oedd yn rheoli yr offeryn ar fwrdd y llong, ar yr hon y ceisiai'r ddau ddianc o afael cyfraith Lloegr. Yr wythnos hon hwylia C6r Glyndwr Richards ar ei daith tua'r America, a bydd yno am rai misoedd o amser. Mae trethiant y tir, tan gynllun Mr. Lloyd George, yn achosi cryn gynnwrf ymysg y tir- feddianwyr. Dyma'r tro cyntaf y bu raid iddynt ddweyd y gwir am eu meddiannau Bwriedir gwerthu Bryntysilio, ger Llan- gollen, hen gartref y diweddar Syr Theodore Martin, ar y 16eg o'r mis nesaf. Mae'r ffordd haiarn o Aberystwyth i Bont- y-Gwr-Drwg wedi ei gwerthu i gwmni newydd, a bwriedir gwneud nifer o well- iantau ynglyn a'r anturiaeth erbyn yr haf nesaf.
Cleber o'r Clwb.
Cleber o'r Clwb. Nos FERCHER. Yr oedd rhyw frwdfrydedd anarferol ynglyn a'r cynulliad yn y Clwb heno, ac erbyn ymholi deallais mai helynt urddwisgo Tywysog Cymru oedd wedi achosi'r fath gynulliad a'r fath ddadlu. Yn y gongl bellaf clywais lais Owen Rhoscomyl tu ol i gwmwl mwg yn cyhoeddi yn groch nad oedd yno neb yn deall dim o'r manylion nac yn gwybod dim am hanes Cymru. Cyn i fi ddod i'r maes," meddai, 'roedd pob ffaith wedi ei gwyrdroi, a phob ofergoeledd a rhamant wedi eu derbyn megis hanes gwirioneddol, ond os caf amser ac iechyd mi ysgrifennaf y gwir am yr hen wlad, ac yna caiff ei lie priodol ymysg gwledydd cred." "Ond beth am Gaernarfon fel y man lie ganwyd y Tywysog cyntaf," holai Dr. Bryant. Lol i gyd," atebai Owen, yn bendant. Doedd mo Gastell Caernarfon mewn bod yr amser hynny." "A 'doedd Caerdydd ond rhyw dwmpath eithinog garw," ychwanegai Norick, yn chwareus. Ond ym mhle," gofynais, y dylid cynnal y seremoni yn awr ac ar hyn wele bleidwyr pob treflan yn ceisio siarad ar un- waith, ac yn ol yr hyn fedrais gasglu, dyma oedd eu barn 'Roedd Owen Rhoscomyl am roddi'r lie blaenaf i Gaerdydd am mai honno oedd prif ddinas Cymru yn awr. Dadleuai Howel Thomas dros Gaernarfon, canys yr oedd y lie hwnnw mewn traddodiad a hanes wedi ei gysylltu o'r amser boreuaf a'r Tywysog. Aberffraw oedd dewis fan W. E. Daviea, canys y lIe hwnnw oedd un o hen ddinas- oedd y brenhinoedd gynt. Pleidiai Pennant Jones dros gael y sere- moni ar ben yr Wyddfa, gan mai'r fan honno oedd coron Cymru wedi'i holl ddadlu. O'r ochr arall, yr oedd John Rowland yn gadarn dros Tregaron, canys yno y bu Twm Shon Catti yn byw, ac yno hefyd y cynhelid rhai o'r ffeiriau mwyaf yng Nghymru, ac os deuai'r Tywysog yno am dro byddai'n ffair gwerth ei chofio wedyn. Mynnai Edward Jenkins mai Llandrindod oedd yr unig fan i gynnal y fath wyl, canys. yno yr oedd canolfan y wlad, a rhoddai fantais i bob pregethwr i weled yr urddiad, canys yr oedd y dosbarth hwnnw yn tyrru i Landrindod ar bob dydd gwyl. Ond rhoddwyd taw ar y dadleuon gan John Hinds, yr hwn a ddadleuai mai ar faesdir Westminster y dylid cynnal yr wyl, canys yr oedd yr hen Gymry yn saethu petris fan honno cyn fod son am un Sais o fewn yr ynys hon, ac os oes eisieu bendith ar y seremoni, wel, gallwch ddod a'r dorf i Castle Street, lie y gellir gorffen popeth yn weddaidd ac mewn trefn. Os daw'r Tywysog i'r Clwb yr wythnos nesaf, byddaf yn sicr o ddweyd wrtho beth yw barn aelodau gwybodus y sefydliad hwn ar y pwnc amserol yma. Ap SHON.