Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
MUSICAL- MHDHM HUGHES THOMAS'S Royal Welsh Ladies ehoir. For vacant days, &c., apply- 3, WINDSOR PLACE, CARDIFF. MADAME S. M. LEWIS, Medalist R.A.M., Soprano. For Concerts, Oratorios, At Homes &c. For terms apply 206, Newport Road, Cardiff. Pupil of Madame Maixliessi, Paris. Address: 42, Belsize Park G ardens, Hampstead, London, or 24, St. Mary St., Cardiff. Available for Oratorio, Concerts, At Homes, &c. Book ( f Press Notices sent on application. Miss GEINWEN PRleE (Medal ist R.A.M.), RECITER. At Homes, Concerts, Banquets, etc. For Terms and Vacant Dates apply- 93, CAMBRIDGE GARDENS, N. KENSINGTON, W. Phone.—1798 Paddington. MHOOe OHYIES, H.R.e.M., Teacher, L.C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone 8914 Central. NOTE NEW ADDRESS:— 495, OXFORD STREET, W. (Near Marble Arch). tf. GWYflflE DR VIES (TENOR) A R.C.M., Teacher Voice Production and Solo Singing at the London College of Music, GIVES LESSONS IN Voice Production, Interpretation of Songs, Oratorio and Opera, at his Studio- 54, Gt. Marlborough St., Oxford Circus, W. For Terms, &c., apply- 1, PORTLAND ROAD, FINSBURY PARK, N. D. GOOKSEY & SON, Inexpensive and Modern Funerals. Cremation. Country Burials, &c. (Price List on application.) 266, UPPER STRgFTt ISLINGTON, and 52, ANWEIL STEXET, PENTOBVILLE Carriage Department 97, CHAPEL STREET Telephone Nos. 30 and 601, NORTH. PUBLISHERS' NOTE.
PUBLISHERS' NOTE.
The Publishers of "The London Welsh- man and Kelt" will be pleased to hear from any Header or Newsagent who ex- periences a difficulty in obtaining this paper. To avoid any delay a standing order should be given to a Newsagent, or at the Railway Boukstall, so that. they can make the necessary arrangements to obtain a supply punctually each week. Bydd yn hyjrydwch gan y Golygydd dderbyn Gohebiaethau lie erthyglau i'w hystyried, ona nis gellir ymruoymo i ddychwelyd ysgtifad gwrthodedig.
PERYGLON PLAID LLAFUR
PERYGLON PLAID LLAFUR Ar ol brwydro am genedlaethau dros eu hawliau y mae perygl i blaid Llafur fyned yn fethiant hollol. Ar hyn o bryd y mae dau neu dri o anghydwelediadau dibwys yn achosi pryder mawr i arweinwyr y gwahanol un- debau, yn unig am fod y gweithwyr yn gwrthod cydnabod y cytundebau a wneir ar eu rhan gan eu harweinwyr. Bu agos i holl weithwyr ardal y glofeydd yn Neheudir Cymru fyned ar streic ddechreu yr wythnos hon, trwy wrando ar ychydig benboethiaid diawdurdod yn hytrach na gweithredu yn unol a chyngor eu harweinwyr. Os am osgoi y colledion dirfawr hyn, a gwneud eu hunain yn allu gwirioneddol er ymladd a gormes y meistriaid a'r perchen- ogion, rhaid cael undeb difwlch yn holl rengoedd Llafur. Mae ymddygiadau rhai o'r undebau yn ddiweddar wedi calonogi y meistriaid yn ddirfawr, ac ofer yw disgwyl y ca'r gweithiwr ei hawl a'i safle os na chydna- byddir y rhai sydd yn gweithredu yn briodol ar ei ran. Byddai creu rhyfel gweithfaol yn awr ar ddechreu gaeaf, a hynny oherwydd mympwy ac ystyfnigrwydd rhai personau, yn drosedd o'r fath waethaf, a hyderwn y llwyddir i adfer undeb a chydweithrediad rhwng y pleidiau fel ag i arbed unrhyw bryder am ddyfodol gweithwyr ein gwlad.
[No title]
Unwaith eto mae'r cri am Ymreolaeth i Gymru wedi ei godi i'r gwynt. 0 dipyn i beth fe ddaw hwn yn un o bynciau gwleid- yddol y dydd." Er mwyn ad-ennill ei ffafr gyda'r werin, y mae'r blaid Geidwadol yn awr yn awyddus am gynnyg tal i aelodau Seneddol. Dydd Mawrth diweddaf bu Mr. Lloyd George yn hen gapel Cefnddwysarn yn dadorchuddio cofeb i'r diweddar Tom Ellis. Yn y capel hwn yr arferai Tom Ellis addoli, a theimlodd ei edmygwyr mai priodol oedd coffhau ei enw trwy osod tabled ar fur y capel gerllaw y fan yr arferai eistedd. Enw barddol Maer Caerdydd yw Caer- ydd." Efe, yn ol barn yr Orsedd, yw'r gwr sy'n gwylio popeth ddaw i Gymru trwy ddinas Caerdydd. Dadorchuddir cofeb i Dafydd Williams, yr emynydd, yn nghapol y Bedyddwyr, Croesy- parc, ar yr 21ain o Hydref. Mr. Lloyd George sydd i gyflawni y gwaith. Bu mater yr Iaith Gymraeg ger bron Cyfarfod Misol Dwyrain Morganwg yr wyth- nos ddiweddaf. Amiwg yw fod y C.M. a'r Eglwysi i ryw fesur wedi deffro i bwysig- rwydd y pwnc. Treuliwyd cyfarfod cyfan i siarad am berthynas yr iaith a'r genedl ac a'r teulu, &c. Da odiaeth mor belled. Ond y mae'r feddyginiaeth yn un syml ddigon. Gofaled y swyddogion eglwysig ac ereill siarad yr iaith a'u gilydd ac ar yr aelwyd- ydd. Yna ni raid pryderu am ddyfodol y Gymraeg.
Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL.
Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL. Yn ei araith ddyddorol ar Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn ei pherthynas a Llyfrgelloedd a Sefydliadau ereill," dywed- odd Mr. John Ballinger, M.A., yng nghyfar- fod blynyddol y Gymdeithas Lyfryddol yr wythnos ddiweddaf fod Siarter y Llyfrgell Gymreig yn yr ail adran yn darparu ar gyfer casglu pob llawysgrifau a llyfrau a chyhoeddiadau ereill ym mha iaith bynnag y bont a pha le bynnag y cyhoeddir hwy a pha beth bynnag a fo eu testynau os byddant yn gynorthwy at gyrraedd yr amcanion y sef- ydlwyd y Brifysgol Gymreig a'r colegau cenedlaethol er eu mwyn, ac yn enwedig i gefnogi addysg uwch, yn ol ystyr a meddwl y Deddfau Addysg o 1870 hyd 1902, a chefnogi ymchwil ynglyn a llenyddiaeth a gwyddor. Darperir hefyd yn y Siarter ar gyfer dyblu ac amlhau copïau a chasgliadau o lyfrau i'w rhoi'n fenthyg at amcanion addysg ynglyn a'r colegau a sefydliadau addysgol ereill. Gobeithir gallu cyfarfod anhawsterau daearyddol Cymru drwy yr adran hon. Cadwyd golwg gyson ymhob cam a roddwyd ar yr amcan hwn, sef gwneud i'r llyfrgell wasanaethu amcanion goreu y colegau a'r ysgolion yn gystal a llyfrgelloedd ereill. Bydd, wrth reswm, yn emhosibl rhoi benthyg llawysgrifau, llyfrau tra phrinion, i fyned allan o'r llyfrgell, ond trefnir i ledaenu copïau o ryw fath neu gilydd o'r pethau prinion hynny a fo de- bycaf o fod yn fuddiol i athrawon ac ysgol- heigion. Trefnwyd eisoes a'r Brifysgol ac ag Urdd y Graddedigion i gyhoeddi testynau chwe llawysgrif, fel y gellir eu gwerthu am bris na byddo ond digon i ddwyn y draul. Bydd hyn yn ddechreuad cynllun a ddaw o'r diwedd, os ceir moddion, i gynnwys printio casgliad o lenyddiaeth Gymreig,—peth y mae ei ddiffyg yn awr ar ffordd pawb sy'n astudio ein hiaith a'n llenyddiaeth. Lled- aenir copïau o lyfrau argraffedig yn y modd ehangaf y gellir yn ol y Siarter. Gellir, yn ddiameu, pan fo angen, roddi benthyg cop'iau i'r naill neu'r Hall o'r colegau, i lyfr- gelloedd cyhoeddus, ac i sefydliadau addysg- ol ereill o natur gyhoeddus ac hwyrach hefyd rai hanner cyhoeddus, yn gystal, yr wyf yn gobeithio, dan amodau penodol i bersonau unigol. Hyd yn oed os nad allwn roi benthyg i bersonau unigol, bydd bron ym mhobman yn bosibl gosod y llyfrau yng ngofal rhyw lyfrgell yn eu cymydogaeth. Dyma'r unig ffordd i gyfarfod anhawster sydd mewn rhan yn un ariannol-gwlad dlawd yw Cymru-ac i fesur mawr yn ddaearyddol. Byddai diystyrru y ffeithiau hyn yn golygu cau manteision y Llyfrgell Genedlaethol allan rhag llawer a all, drwy gymorth yr adran fenthyca, wneud gwell gwaith nag a allent fel arall. Y mae'r Llyfrgell Genedlaethol ar safle gwahanol i bob llyfrgell arall yng Nghymru, am ei bod yn apelio at y wlad i gyd, a'i hamcan yw ychwanegu at y gwaith y maent hwy yn ei wneud ac fel y mae Llyfrgell Bodley yn Rhydychen, nid yn drygu, ond yn symbylu ac yn ychwanegu at werth y gwaith a wneir yn Ilyfrgelloedd y colegau, felly y bydd i'r Llyfrgell Genedlaethol ychwanegu at fudd- ioldeb llyfrgelloedd ereill yng Nghymru.
[No title]
Ynglyn ig Eisteddfod fawr Caerfyrddin yr haf nesaf cynnygir gwobr o £ 15 gan Gymdeithas yr Eisteddfod am draethawd hanesyddol ar Gymdeithasau Cymreig y brif-ddinas. ——— Daw cor Mormonaidd, o ddinas y Llyn Halen, drosodd i Eisteddfod Caerfyrddin. Arweinydd y cor yw Mr. Evan Stephens (Ieuan Bach), un o fechgyn cerddgar o'r Deheubarth.