Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

COFIO TOM ELLIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

COFIO TOM ELLIS. Syniad hapus ar ran cyfeillion y diweddar Tom Ellis oedd gosod cofeb ar fur yr hen gapel lie yr arferai addoli yng Nghymru. Ac ar adeg ei dadorchuddiad daeth torf o .edmygwyr yno i gadw ei goffa yn wyrddlas ymysg cenedlaetholwyr Cymru. Yn ei araith goffhaol am dano, dywedai ei hen gyfaill, Mr. Lloyd George, fod un-mlynedd-ar-ddeg a throsodd wedi myned heibio er pan ddaeth y newydd am farwolaeth Mr. Tom Ellis fel saeth i galon Cymru, ond yr oedd ei goffa- dwriaeth mor fyw yng nghalon Cymru ag erioed. Yr oedd yr argraff wnaed ganddo ar galon Cymru yn ddwfn, a hollol annileadwy. Ond beth oedd y rheswm am hynny ? Nid oedd efe ond dyn ieuanc pan dorwyd ef i lawr; gwr deugain oed oedd efe. Wrth edrych dros gronicl arwyr Cymru, fe welid fod y mwyafrif o honynt ddwbl oed Tom Ellis pan yn gwneud gwaith mawr dros Gymru-John Elias, Henry Rees, Christmas Evans, Williams o'r Wern, Henry Richard, a Thomas Gee-buont hwy oil farw wedi cyrraedd dwbl oed Tom Ellis. Yr oedd y rhan fwyaf o ddynion cyhoeddus wedi colli eu nerth a'u hyni cyn cyrraedd y safle honno o ddylanwad y gallent ddylanwadu ar eu cenedl. Dyna un o "tragedies" bywyd cyhoeddus gweriniaeth. Anaml y cai gwerin y goreu oddiwrth ei phobl, am nad oedd yn adnabod eu hansoddau nes yn rhy hwyr. Mantais fawr Cymru ydoedd i Tom Ellis gael cyfle i wneud gwasanaeth tragwyddol iddi cyn ei dorri i lawr yn ddyn ieuanc. Os oedd ei dorri i lawr pan y gwnaed yn tragedy," yr oedd Cymru yn ddyledus i Ragluniaeth ddwyfol am ei godi pan y gwnaeth. Yr oedd cyfnod yn hanes pob cenedl pan gymerai cyfnewidiad cyflym le yn yr arolwg a gymerai ar bethau; a dyma'r amser yn yr hwn y codwyd Tom Ellis. Pan yn 27 oed, nid oedd yn adnabyddus ond i ychydig o gyfeillion personnol a gredai ynddo pan yn 28 oed, yr oedd yn arweinydd cenedl (cymeradwyaeth)—De, Gogledd, Dwy- rain, a Gorllewin-o Gaergybi i Gaerdydd- yr oed pob Cymro yn glynnu wrth enw Tom Ellis, ac ymuno dan ei faner. Gwnaeth ei waith, yn wir, o fewn y tair blynedd cyntaf o'i fywyd cyhoeddus; a phe torasid ef i lawr yn fab deng-mlwydd-ar-hugain, buasai enw Tom Ellis ar gael tra Cymru yn bod. 'Roedd y gwaith wedi ei wneud. Torwyd ef i lawr yn ngrym ei alluoedd, gyda holl asbri ieu- enctid ganddo, a holl aeddfedrwydd profiad yn perthyn iddo. Beth roddodd i Tom Ellis y fath ddylanwad mewn dwy flynedd o amser ? Un rheswm am hyn ydoedd ei wladgarwch angerddol, ysol. Ni welodd ef (Mr. Lloyd George) ddyn a garai Gymru yn fwy ac yn well na Tom Ellis. Carai ei hiaith, ei thraddodiadau, ei llenyddiaeth, ei chrefydd, ei hafonydd, ei mynyddoedd, ac uwchlaw'r cwbl, carai ei phobl. Heddyw, yr oeddynt yn dadorchuddio tabled bychan i'w goffadwriaeth. Ar furiau capel bychan Cefnddwysarn yr oedd y tabled hwn; ond yr oedd tabled wedi ei godi i'w goffadwr- iaeth a ddarllenid pan na fyddai gareg ar gareg o'r capel-tabled ar galon Cymru. Gweithiodd dros Gymru, a gweithiodd ei hun allan erddi. Byddai i'w waith sefyll, a sefyll dros byth. Gallai rhai o honynt fyw yn ddigon hir i weled â'u llygaid eu hunain Gymru a welodd Tom Ellis a llygad ffydd na phylwyd erioed mo honi-Cymru a feddai ar bobl wedi eu dysgyblu trwy addysg, pobl yn byw mewn dyffrynoedd wnaed yn ffrwyth- lawn gan wyddoniaeth Cymru y byddai ei phobl yn rhai deallus yn caru eu hiaith, eu crefydd; Cymru fyddai yn annibynol a rhydd; Cymru yn ofni Duw, ac yn ofni neb arall. Y siaradwyr ereill oed dent-The Master of Elibank, y tri A.S. Haydn Jones, Llewelyn Williams, a J. Herbert Lewis, a'r Parch. J. Gwynoro Davies, ysgrifennydd y mudiad. Wele'r ysgrif oedd ar y gofeb :— "THOMAS EDWARD ELLIS, A.S. Ganwyd Chwef. 16, 1859; bu farw Ebrill 5, 1899. Etholwyd yn A.S. tros Feirion Gorffennaf 1886. Dewiswyd yn flaenor Medi 1895. A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf ac a ym- dreuliaf dros eich eneidiau chwi.2 Cor. xii. 15."

Am Gymry Llundain.

[No title]

NODIADAU LLENYDDOL.