Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

NODION NED LLWYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION NED LLWYD. CONWY. Cymer.af yn ganiataol y bydd £ t Llywar.cih Hen yn ysgrifennu sylwadau am y Gymanfa Ddirwestol Iwyddianus fu yma yr wythnos ddi- weddaf. Yn unig dywedaf mae canmol mawr sydd y cyfarfodydd, nid yn unig y rhai a gynhaliwyd yng Nghonwy, ond y rhai hefyd oedd yn yr ardaloedd cylchynol. Tipyn yn hallt oedd y sylwadau a wnaed ar waith yr ynadon yng Nghonwy yn gwrthod gwrandlaw ar Lais y bobl. Os y bu achos erioed yn teilyngu gwran- dawiad, yr oedd yr achos hwnnw. Dichon y bydd yn rhwyddach ganddynt gydsynio- y tro, nesaf. Y MAER NEWYDD. Llonigyfarohiadau calonog i'r Cynghorydd John Williams ar ei ddyrchafiad i brif gadair swvddogol Conwy. Yr oedd efe yn haeddu 3T anrhydedd hwn, gan ei fod wedi bod yn Gyng- horydd ffyddlon am gynifer o. flynyddoedd. Ni raid i neb bryderu na bydd iddo lanw y swydd gydasr urddas. Dymunaf iddo bob rhwyddineb a llwyddiant yn ystod tymihor ei Faeroliaeth. Diau y bydd gofyn ami am ei wasanaeth i wa- hanol gyfarfodydd. Mae y meddygon enwoc. Dr. Pricfeard a Dr. Morgan, wedi bod yn Sydd- Ion iawn i'r swydd, ac wedi ennill pa.rch ac ed- mygedd cyffreddnol, a chredaf y bydd y Maer neWydd yn olynydd1 teiIwng iddynt. LLANFAIRFECHAN, Mae y Ficer nnrchus sydd yma yn trefnu i gael arriryw socials ar nos Sadyrnau yn ystod y gauaf. Da iawn. wir, ydyw gweled rhai yn darparu adloniant iachus ar gyfer yr ieuenctyd. Hyderaf y byddant yn llwyddiant mawr, ac y rhoddir iddynt gefnogaeth gyftredinol. HTawdd ydyw beio pobl ieuainc am rodianna, &c., yn eu horiau hamddenol; yn lie hynny, darpaxei ar eu cyfer. MERCHED CWERYLGAR. Nos Sadwrn diweddaf, yn Ll-, yr oedd merched yn ymladd a'u gilydd, ac yn peri cyffro mawr yn y lie. Mae gweled dynion yn dar- ostwng eu huruain i wneud Deth fel hyn yn. ddi- frifol, ond mae gweled merched yn gwneud yn llawer mwy felly. Buasai yn llawer gwell i'r cldwy oedd yn gwneud hynny nos Sadwrn roddi eu hamser i rywbeth amgenach. Rhag cywilydd iddynt, meddaf fi. Mae arnaf awydd roddi eu henwau i lawr y tro hwn, ond nis gwnaf: ond mor wir a bod Llanfairfechan rhwng Aber a Phenmaenmawr, dyna wnaf y tro nesaf y clywaf eu bod yn 'gwneud eto. Felly, gochelwch. COLWYN. Yr oedd yn ddrwg gennyf nas gallaswn iyned i'r cyfarfod He yr oedd Penllyn a'i briod yn cael eu hanrhegu. Cefais wahoddiad caredig, ond nis gallwn gydsynio. Cyfeiriais, amser yn ol, at y bwriad oedd i'w hanrhegu. Mae Pen- llyn wedi gwneud gwaith ffyddlon yng Nholwyn yn ystod cyfnod ei weinidogaeth. Mae vn debyg mai efe oedd cvchwynydd yr Eisteddfod sydd wedi dod yn sefvdliad mor bwysig ar y Dydd Calan yn flynyddol—Eisteddfod sydd yn dwyn elw svlweddlol, yn ddiau. Caffed ef a'i briod oes hir i fod yn ddefnyddiol eto. Teimlad hapus ydyw gweled ardal ac eglwys yn cydnabod gwasanaeth. Mae yn debyg y bydd Penllyn yn ysgrifennu mwy nac erioed wedi cael y type- writer. Amiheuwn i dd,im na fyddai cysodwyr y Weewlv Kews" yn faldh pe byddai rhywun yn ddigon caredig i roddi un i Ned Llwyd hefvd. Beth ddeudwch chwi,- hogiau? (" Wel, byddwn, wir. Bendith arnynt "-Nr hogiau.) Sut bvnnag, hwyl a llawenydd i Penllyn ddoniol a'i briod. PENMAENMAWR. Dyma ychydig o'r pethau a glywais yma yn ddiweddar Fod Tom Jones, R.A.M., wedi cael hwyl eithriadol mewn cyngherdd yn Llundam vr wythnos o'r blaen.—Fod hynny wedi bod yn fantais iddo ar gyifer y dyfodol.—Fod darlith y Parch. D. Lloyd Morgan, Pontardulais, ar ei Rhwng ei gryd a'i groes," yn Salem, yn rhag- orol.—Fod son mawr am dani trwv v lie fel un o'r rhai goreu glybuwyd erioed.—Fod cwyno na byddai rhai meTched yn aros yn fwy yn eu tai, yn Ile sefyll ar ben y drysau.—Fod rhai yn awgrymu gofyn i Dr. Clifton Hughes ddyfod ar ymweliad a'r ne.-Fod y Doctor doniol wedi rhoddi gwers iddynt un tro pan oedd yn myned heibio.—Fod y C6r Meibion yn rhy ddistaw yn ddiweddar.—Fod amrvw yn holi beth vdvw y mater?—Fod yn bryd iddynt ddeffro, as am fynd i Golwyn Bay v Calan.—Fod yn dro gwael na buaswn wedi cael gafael ar rhvw lythvr dder- bvniwyd yma y dydd o'r blaeTi.-Fod yn natuTiol i mi deimlo vn siomedig am y gwrthoddad.—Fod Cor Meibion Llanfairfechan wedi casglu at eu gilydd eto.-Fod y C6r yn bwniadu cystadlu mewn gwahanol leoedd yn fuan.-Fod cyngherdd ganddynt cyn diwedd y mis hwn, er cyohwyn ronfa-Fod test-vnau Eisteddfod Gerizim allan o'r Wasg.—Fod Dr. Lloyd Williams wedi bod vn Llanfairfechan yn rhoddi ei ddarlith ar Ddamhegion y Llvsiau," i gymdeithas len- yddol Horeb.—Dyna'i chwi ychydig o'r pethau a glywais. DWEYD Y GWIR. Chwi gofrweh i mi roddi cyngor i beidio rhedeg ar ol yr het pan fyddai v gwyntyn ei chymeryd i ffwrdd. Nos Sadwrn diweddaf yr oedd Mr Jones, yr insurance agent o Aber, yn Llanfairfechan, ac aeth y gwynt yn ddigon hyf i fynd a'i het. Cofiodd yn y fan am gyngor Ned Llwyd," ac wele y peth yn cael ei brofi. Yn y fan mi welai ddau frawd caredig yn rhedeg cymaint fyth ar ei hoi. Goeliwch chwi, bellach. fy mod yn dweyd y gwir? CYSTADLU. Cymaint ydyw awydd rhai prwyllgorau am rhywbeth newydd, fel y gwelais y dydd o'r blaen gystadleuaeth i ferched i ohwibanu "Ton y Botel," a hynny mewn addoldy. Dyna i chwi wreidd,i-c)ldeb beiddgar.-Er mwyn tynnu crowd, mae un ghowman yn myned trwy y wlad, ac yn darparu ar gyfer yr ysbryd cystadleuol sydd N-nom fel cenedl. Yr hyn a wna ef ydyw rhoddi cystadleuaeth i ganu unrhyw gan ddigrif, a bod pob cystadleuydd i ganu a dal mochyn byw yn ei freichiau yr un pryd y gynulleidfa i farnu pwy yw y goreu; a'r wobr ydyw y mochyn. A synais pan glywais fod cynifer yn ymgeisio yn y gwahanol leoedd yr ymwelir a hwywarchod pawb, beth fydd y nesaf, tyb,ed," EGLWYSBACH. Yr oedd y cyngherdd plant, nos Wener, yn gampus yn ol barn pawb. Mae y cyfeillion sydd yma yn llafurio gyda hwynt yn teilyngu cefnog- aeth, a balch oeddwn i ddeall fod yi ysgoldy yn or lawn, a phawb yn canmol, ac yn dymuno cael cyngherdd cyffelyb eto yn fuan. Y rhai sydd yn cymeryd y drafferth i'w dysgu ydynt: Athraw yr ysgol, a Mr R. E. Huglhes a Mr Owen Williams, A.C., tri brawd galluog a gweithgar. Bydd y plant yn son gydag edmygedd am lafur y tri hyn ymhen blynyddoedd eto, a diau fod Thieni v plant yn falch iawn o honynt. Nid oes dim yn well'na rhoddi cvchwyn priodol i'r plant, cael rhai parod i aberthu i wneud hynny sydd yn anhawda mewn llawer lie. G-ofyna gaual einioes Yr hyn a wneir wanwyn oes." DEWI MAI 0 FEIRION. Gwelais y bardd a'r dadganwr penillion en- wog hwn dydd Sadwrn, ar ei daith i Lanberis. Yr oedd yn dda gennyf ei weled yn edrych mor iach a chalonog. Brawd parod ei ddawn ydyw Dewi, ac un sydd yn gwasanaethu yn ami fel beirniad, ac arweinydd, &c. Yn ol a ddywed- odd, digon tywyll ydyw pethau yn parhau yn Ffestiniog. NED LLWYD, Weekly Ne7vs, Conwy.

Advertising

INodion Llywarch Hen

.....-... Cymru a'r Beibl.

Dirwest yn Rhydyfoel.

LLINELLAU COFFA

Advertising

! Atebiad "Llywarch Hen" i'r…

IThe Wonderful Story of the…