Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

NODION

Advertising

Nodion Llywarch Hen

....... Cyfarfodydd Ysgolion.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarfodydd Ysgolion. DOSBARTH LLANRWST. Cynhaliwyd cyfarfod ysgol y dosbarth uchod yn Nhalybonit y Sul diweddaf, pryd yr oedd y cynrychiolwyr canlynol yn bresennol: —Mri. Thomas a Roberts, Trefriw; O. Evans Jones, J. R. Jones, a W. H. Willit,ms, Seion; Davies, Bethel; E. Parry a T. W. Jones, Salem; Wiliams a Roberts, Roe Wen; T. L. Davies, Pwllterfyn; Peter Jone.9, Eglwysbach; J. Wil- liams, Bryndaionyn Jones, Llanrychwyn; D. G. Williams, Scotland-street; Ogwen Evans, Ty'nygroes; Roberts, Tan Lan, a Jones, Taly- bont. CYFARFOD Y BOREU. Cafwyd adroddiad rhagorol gan ddosbarth u ferched ieuainc, a holwyd y dosbarth canol gan Mr W. H. Williams. Yr oedd yr holi a'r ateb yn fywiog a dyddorol. Rhoddwyd cynghiorion buddiol ac amserol i'r dosbarth yma gan Mri. G. Roberts, Nant; O. Evans Jones, Peter Jones, a'r Parch. O. G. Williams. Yn ystod y cyfarfod canwyd yn swynol gan y planit. Holwyd prof- iadau yr athmwon gan, y Parch. O. G. Williams. Ymddengys fod gwedd hynod lewyrchus ar yr ysgol yn Nhalybont. Yng nghyfarfod y prydnawn cafwyd adrocid- iad rhagorol eto- gan ddosbarth o blant. Hfel- wyd y plant gan Mr T. W. Jones, Salem. Agor- wyd y mater, sef Dirwest,' gan Mr O. E. Jones., a chymerwyd rhan 3rmhellach gan Mri. J. Williams a W. H. Williams. Yng nghyfarfod y cynrychioilwyr pasiwyd i anfon ein cydymdeimllad a Mr Williams, King's Head, a Mr Davies, Talybont.—Penderfynwyd fod yr holl daliadau ynglyn a'r cyfarfod. ysgol i'w talu yn y cyfarfod ysgoll cyntaf ar ol Cy- manfa y Plant.—Penderfynwyd i'r Parch. O. G. Williams alw sylw pwyllgor yr Ysgol Sabothol at Rhif 2 yn y penderfyiniadau, yn.glyn a'r Ysgol Sul, a gadarnlhawyd yng Nghyfarfod Mi,sol Pen- machno.-—Etholwyd Mr Evan Evans, Eglwys- bach, yn gynrychiolydd ychwanegol dros y lie hwnnw.—Cafwyd adroddiad o gyfarfod ysgox Tan Lan.-—Rhoddwyd rhybudd gan y Parch. O. G. Williams y byddlai yn galw sylw yn y cyfar- fod nes,af (I) ar fod v cyfarfod ysgol (yn gyf- lawn) yn talu ymweliad ag un o'r canghenau ysgolion yn flynyddol; (2) fod Cymanfa Ddir- westol i'r plant i gael ei chynnal.—Cyfarfod ysgol Trefriw i'w gynnal lonawr gfed, 1910. Meonsydd ar gyfer y cyfarfod ysgol:-i Ioian ii., i holi, Parch. 0. G. Williams; Actau xiii., i holi, Mr O. E. Jones dan 16 (Safon v. 1-6), i holi, Mr W. H. Williams; u Rhodd Mam (ddwy bennod gynitaf), i holi, Mr J. Williams, Bryndaionyn. Dewiswyd Mr Evan Evans, Eg- lwysbach, i siarad ar y mater gyda'r brawd sydd i'w agor. DOSBARTH CONWY. Yr wythnos diweddaf cynlialiwyd cyfarfod trefniadol yng Nghaersalem, Llandudno Junc- tion, ar gyfer cyfarfod ysgolion y dosbarth am igio-ii, dan lywyddiaeth Mr H. Jones., Maelor, Deganiwy. Yr oedd nifer dda o gynrychiolwyr yn bresennol. Cyflwynwyd penderfyniadau pwyllgor yr Ysgol Sabothol gan y Parch. J. O. Jones, GyTffin, a chafwyd trafodaeth arnynt. Dewiswyd deuddeg o frodyr o'r gwahanol eg- lwysi i gvdweitihredu a'r cynrychiolwyr yn y cyfarfodydd ysgolion am 1910-11, fel y canlyn -Tab,ernacl, Mr Lewis, Henllys; Gyffin, Mr W. E. Griffiths; Carmel, Mr W. D. Jones, Station House; Caersalem, Mr T. S. Jones, Oswald- road Pensarn, Mr Williams, Bron Heuiog; Glan Conwy, Mr Hughes, Glyn Bryn: Pydew, Mr Williams, Shop; Deganwy, Mr Davies, Morannedd Siloh, Mr Hughes, Awelon Reho- both, Mr W. S. Williams Bethania, Mr Davies, Palm Villa; Penrhynside, Mr D. Evans.—Caf- wyd ymdrafodaeth helaeth ar y priodoldeb o gael cynhadiledd ynglyn a'r Ysgol Sul. Yr oedd yr oil o'r brody-r yn selog dros gael cyfarfod cyhoeddus ar adeg cyfleus. Ymddiiriedwyd y gwaith i bwyHgor i ddwyn allan gynllun. Ar derfyn y cyfarfod trefniadol, cafwyd cyfar- fod i gyfiwyno tysteb, ar ran y cynryohiolwyr, i Mr A. L. Evans, cyn-Ysg-rifennydd y dosbarth, ar ei ymadiawiad yn ysgolfeistr i ardal Dreffyn- non. Llwyddwyd gan Mr E. Jones, a chyilwyn- wyd y dysteb, sef Stationary Cabinet hardd ag yn gerfedig ar blat: "Lyftwynôidg i Mr A. L. Evans, gan gynrycihiolw3T dosbarth Con- wy, am ei weithgarwch a'i ymroddiad fel Ysgrif- ennydd." Cafwyd amryw anerchiadau cymhwys i'r amgylchiad gan amrvw frodyr. Diolchodd Mr Evans yn gynhes am y datganiad o deimlad- au. da y cynrychiolwyr. Tachwedd 7fed, cynhaliwyd cyfarfod ysgol ym Mheniel, Deganwy, dan lywyddiaeth Mr H. Jones, Maelor. Yr oedd cynrychiolwyr yn bre- sennol o.'r oil o'r eglwysi. Dechreuwyd am ddeg o'r gloch gan Mr J. Edwards, Gyffin. Adrodd- wyd rhannau o'r Ysgrythyr gan ddosbarth o chwiorydd ieuainc. Yr oedd un peth hynod ynglyn a'r dosbarth hwn, set clywed dwy eneth ieuanc o deulu Saesneg yn adrodd allan yn glir ac yn groyw ran o'r Ysgrythyr yn. Gymraeg. Yr oedd y dysgu allan a'r canu gan y plant yn glod- fawr yr oedd caniu y tonau sydd ar gyfer Gy- manfa'r Plant yn swynol anghyffredin. Holwyu y plant yn y seithfed bennod o'r Rhodd Mam gan Mr E. Jones. Yr oedd yr holwr medrus yn ei lawn hwyl, a'r plant wedi dysgu yn rhagorol, nid yn unig y bennod, ond amrywiiOl gwestiynau ag oedd yr holwr yn gofyn mewn cysylltiad a'r bennod. Holwyd y dosbarth canol oddiar Actau xiii. 1-13, a'r holl ysgol gan y Paroh. 0. Selwyn Jones. Am chwech, cafwyd ymdrafodaeth ar Yr Ysgol Sabothol: Fel y bu, fel y mae, ac fel y dylai fod," yn cael. ei agor gan Mr E. Jones. Yr oedd y syIwadau yn amseml a phwrpasol. Ategwyd gan Mr D. G. Jones, Llandudno Mr Griffith Hughes,. Mr Griffith. Williams, Pen- sarn, a chan Mr Hugh Parry, Conwy. Cafwyd hanes yr ysgol yn y lie, yn ol y llyfrau, gan yr arobwilwyr. Cwyno yr oeddynt fod yna ychydig o didysgu allan ymysg y dosbarth hynaf, ac nad ydyw yr ysgol, fel dosbarth hynaf, o lawer, yr hyn ag yw wedi bod. Rlhoddid canmoliaeth uchel i'r plant am ddysgu allan. Cafwyd cyfar- fod ysgol da a bendithiol.

Advertising

I I'Newyrth Huw yn Llanymor.

------Local Solicitor's Affairs.

IDolgarrog Works.

THE WERNHER-BEIT OFFER.

...-- . -.:... Colwyn Bay…