Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

NODION

Advertising

Nodion Llywarch Hen

....... Cyfarfodydd Ysgolion.

Advertising

I I'Newyrth Huw yn Llanymor.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I I 'Newyrth Huw yn Llanymor. I (PARHAD.) III. I Riw brynhawrn ym Mehefin, pan oedd pobol y Cwm ymron i gid wedi rnvn'd i'r dre i riw sploet ne'i gilidd, a mine adre'n gwarchod, mi darodd yn. 'y mhen i roi tro tua Glynbredlw, i gael ys- gwrs bach ag efo'r hen wr; fawr feddwl nad oedd Gwendo wedi myn'd i'r dre'. Pwy oedd ar y lawnt ond Gwendo. Wela hai, a hai," ebra hi. Sut mae'r dyn dierth yma? P'le buost ti'r holl amser yma? Fuost ti ar y contin- ent, Huw?" Do, am wni i," ebrwn inert swil; ond gybeithio nad a'i byth yno eto." Wyddwn i ddim o'r blaen dy fod di'n anodd dy ddallt, Huw." Tarw, Gwendo, taw," meddwn ine. P'le mae'r hen wr?" Yn y dre," ebra Gwen,—" yn y dre mae pawb odd'yma, ond y fi. Rhaid i ti aros yma i de ag efoi fi, Huw." Wei," ebrwn ine, os ydi Gwendo yn deyd rhaid, 'does dim ond aros." Dene fachgen da. Mae hi mor braf fel'r ydwy' i am hwylio te yn yr arbor ymhen ucha'r ardd, dan y fed- wen." Dene bar'toi, a chario pethe idop yr ardd, a phobpeth yn barod a Gwendo, fine, a Jet,—ciath fach anwe.s Gwendo,—yn eiste' i lawr i gael pan-ed, a fuo 'rioed yn unlle 'pam,ed well na "rioed yn unlle gwimpeini mwy difir. Yr oedd 'Gwendo a fine mor rydid ag efo.'n gilydd ag y buon ni 'rioed yn Want ysgol. Ar ol y te mi nes y meddwl i fyny y to-rwn i'r ias, Nyw, ac y deydwn d 'nghalon wrth Gwendo, sut bynag y dele hi. Mi ofynes iddi hi'n ddiridano, pryd'r oedd hi am. briodi? Priodi? Priodi pwy?" Hwn a thfwn," ebrwn ine, gan enwi un o lanc- ie'r llythyre welswn i. Neiff Gwendo bytll1 bl,iodi hwn a hwn," ebra hitha. Mi ddedes ine betihe da oeddwn i'n feddwl oedd yn gwr ifanc. Mae o?:n eitha da am ddim wn i," ebra hithe; ond fydd o byth yn wr i mi, Huw." Wedi hyny aed i ,siarad ar draws ac ar hyd, am beth yma a phet!h arall. Ond 'doeddwn i ddim am 'i gadel hi ar hyny. Bob yn dipin mi ofynes iddd'n blwmp, olnd yn dawel, Ga i fod yn ffrynd i ti, Gwendo?" By he's dyd i'r ba.chgien? Onid wyt ti'n ffrynd i mi bob ams.er, a chest ti 'rioed le i ame nad wy ine'n ffryind i tithe." Naddo, naddo, Gwendo- bach; ond! ga'i fod yn fwy ffrynd i ti na neb o lancie'r llythyre weles i?" Huw," medde hi, r, faset ti ddim wedi cael gwel'r yr un o-r llythyre, ac mi welest bob llyth- vr felly dderbynies i, tase ti heb fod yn fwy o ffrynd :i imi na'r llancie" -rheiiny." Ie, ie, Gwendo^; ond ga'i fod yn fwy ffrynd i ti na neb ar 'y ddeuar? 'Rwyt ti yn fwy i mi na neb ar y ddeuar ? G.a ine fod yn fwy i ti na neb ar y dcJeuar? Gawn ni'n dau fod yn. gymin i'n gålidd fel ag i gyd-addo byw ag efo'n. gilidd?" Huw, 'rwyt ti wedi "nlgihym,ryid i by surprise. 'Rvdwv i 'miron colli f'anadl. 'Dwin i'n iawn be' i ddeyd, a mi wn hefyd. Fed-ra i ddiim meddwl am neb yn fwy iffrynd i mi ar v ddeuar nag wyt ti. Mae'r cwesltiwnene wedi'i hen setlo gen' i; a chei dithe byth ffrynd pur.ach beth bvnag na inline." "Dene ddigon, Gwendo1 an- wyl. 'Rydw' i'n dawel yrwan." Na, aros funud, 'Huw, mae gen' i air bach arall. 'R'yid'w' i/wedi deyd gwir 'ynghalon; ond dalla' i ddim rneddwl am i ti fyn'd oddyma dan ddim cam- feddwl. 'Dalla' i ddim addo^'r peth diwaetha ddedest ti—rnio'i addo fo 'heddiw beth bynag ond mi ddeda hyn, na'i mo'i addo, fo i neb arall byth." Gwendo- meddwn, 'rydw' i'n teimlo 'mod i'n. fwy dedwydd na neb. Mae 'maich i wedi myrnd i ffwrdd." Mi cofleidies hi, gan sibrwd,- Dan y fedwen, fonwen, fanwallt, Dal fy mhen yn llwyni'r wenallt." Cofleidiodd hithe fine; ond mi ddedodd air bach ynghanol y munud melus, y ce'-s i achos 1 gofio fo wedy'n, ond mi dediodd o'n tods o anwyl— Pethe'r ddeuar, pethe'n ysgwyd, An,.=iafadwy fel y dwr." Ond y geirie ddedodd hi cyn hyny oedd yn llanw 'nghalon i. Mi wyddKvn yn o dda am bethe'r ddeuar yn ysgwyd; ond yr own i'n teimlo nad ysgydwen nhw byth bellach mo 'nghalon i a chalon Gwendo oddiwrth 'i gilidd. a mi deimlwn. rwsut, ar y pryd, fod 'y nhraed i ar ddeuar go. gadarn. Am nad oedd neb gartTe yn y Llain, 'roedd raid i mi fyn'd adre'n gynt nag y dymunswn i. D'ledswydd ydi d'ledswydd, Nyw, a mi 'rnos- tynges iddi fel arfer. 'R,o,edd rhai o'r crydiried yn. galw am sylw. Wrth fyn'd i lawr yr allt, ac hyd y wernlas, mi deimlwn 'mod i'n fwy ysgafn- droed na 'hedydd bach y mynydd. 'Roedd Gwendoi'n eiddo i mi, a mine'n eiddo i Gwendo o hynny allan byth. 'Doeddwn i ddim mwy hoff o Gwendo nag o'r blaen, ond yr oedd y pethe ddedodd hi wedi chwalu riw gymyle, wedi cli.rio-'r awyr, ac wedi troi wyneb 'y mywyd i ar nelf newydd danlli. Mi deimles fod rwbeth mewn bywyd na wyddwn i ddim am dano fo o'r blaen. Mi aeth popetih. o. 'nghwmpas i, Nyw, yn buraoh, yn felusach, ac yn glysach. Mi fydde gen i riw lieges o hyd, o hyd, i redeg i Lynbreilw a phan na fydde neges, mi awn yna beunios bron, a mi fydde Gwendo yn 'i thrcfnu hi'li. ddela 'rioed i ni fod ag efon gilidd. A llawer awr ddedwydd,-mwy,a:' dedwydd 'y mywyd i, a'i bywyd hithe hefyd, 'rwi'n credu, ddar'un ni dreilio ag efo'n gilidd yr adeg hono. Ymhen rhai wthnose mi fentres ofyn,—" Bryd y cawn ni gymryd step eto>, Gwendo ?" Pa step fydd bono ?" ebra hitibe. Priodi." O Huw bach, 'dydwy' i ddim, wedi addo" hyny i ti." Niaddo- ebrwn ine, ond cystled ag addo." Na, ddar'um i ddim addo hyny." Mi ddedest na pbriodet ti neb arall." Do, a mi ddeda hyny heno, a byth." Wel," meddwn ine, gan y'n bod ni'n dallt y'n gilidd mor bell a hyna, gad i ni ddallt y'n gilidd am y ,gweddill-bryd. y cawn ni briodi?" Huw, rhaid setlo un ne ddau o bethe cyn galla' i ateb i ti?" Be 'dy rheiny, Gwendo?" Rhaid i ti ofyn i 'nhad a mam yn gynta peth." "Mi a i ofyn iddyn' nhw'r m'unud yma," ebrwn me. Na, ddim heno.. Mi fydd y peth yn 'i taro nhw'n rhy sydyn. Mi bar'toi 'i meddyli,e nhw. 'Rwyt ti ar ormod o frys. Huw bach. Mi dych- rvnet nhw. Tro nesa doi di: yma, mi gei ofyn iddynt nhw. Bryd y medri di alw eto?" "Mae'r seiat nos yfo-ru," ebrwn ine; mi ddof nos drenycld." Dene fo," ebe Gwendo, a thyr'd yn gynar." Felly fu hi. Mi es yn gynar, ac wedi sgwrs bach ag efo Gwendo, mi es i'r par- Iwr bach at yr hen bobol, ac heb hel dail, na chwilio am eirie, mi ddedes 'y neges yn ddigwm- pas. Mi agores 'y ngha,lo,n i'w dymuniade ddod allan. gyda'r geirie p'rotta i gerdded. Mi 'tebodd Rihobet Vaughan yn ods o neis. 'Ryd,ech. chi 'n leicio'ch gilidd, ddyliwn i," ebra fo, ac 'r vdech ohi'n dallt ych gilidd. 'Ryde'n nine 'n dau yn dallt Gwendo-, ac yn dy 'nabod dithe'n o dd-a, Huw. Weilso" ni neb y base'n ni'n medru trystio Gwendoi'n- gynt iddo fo nag i ti, machgen i; a 'ryden ni, Margiad a mine, 'n rhoi'n con- sent. a bendith. Duw pob gras fo arnoch chi'ch dau." Mi ddiolches i'r ddau, a mi 'sgydwes law ag efo-'r ddau, fel tase'n ni'n selio riw berthynas newydd a'n gilidd. Fine mi es yn ol at Gwendo. pan edrych yn ddedwydd ym myw llygid 'yngeneth anwyl i." 'Chododd hi ddim yn ddrycin yn y nadwlT bach, ddyliwn," medde hi'n chwareus ddigon. Naddo," ebrwn ine, 'roedd yr awel yn dyner, a'r gwynt yn deg, a'r haul yn t'wvnu ar y'nghalon i. a meddygin- iaeth yn 'i esgill o." N,a'n nhw byth ddim yn groes i 'nheimlade i, Huw, a 'na ine ddim yn groes i'w teimlade nhwthe." (Tw barhau.)

------Local Solicitor's Affairs.

IDolgarrog Works.

THE WERNHER-BEIT OFFER.

...-- . -.:... Colwyn Bay…