Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

NODION II NED LLWYD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION NED LLWYD. GYDA MR. LLOYD GEORGE YNG NGHAERNARFON. Trwy y gwlaw i gyd aethum i, fel miioedd eraill, i'r cyfarfod mawr yng Nghaernarfon nos Iau diweddaf; ac y mae yn dda iawn gennyf fy mod wedi gallu myned, oblegid yr cedd yn gyf- arfod nad anghofiaf byth. Yr wyf wedi bod yn y Pafiliwn mewn cyfarfodydd mawr droion o'r blaen, ond nid wyf yn cofio i mi erioed weled cynifer yno ag oedd yn y cyfarfod nos lati a chyda llaw, gwell i mi ddweyd yrwan na welais erioed yno gyfarfod mwy trefnus. Yr oedd yno I rai miloedd oriau cyn dechreu y cyfarfod, ond yr oedd yn hanner awr wedi pump pan aethum i'r lie yng nghwmni boneddwr o Benmaenmawr. Cawsom le ein dau ar y llwyfan. a dyna olygfa oedd i'w gweled oddiyno. Oddeutu canol yr adeilad yr oedd nifer o fyfyrwyr gwahanol golegau Bangor, ac yr oeddynt mewn ysbryd parod i ryfel, yr oedd yn amlwg. Donioi a brwd oedd y caneuon oedd ganddynt. Er mwyn di- ddanu y gynulleidfa canodd Mr. J. E. Jones, Caernarfon, oddiar y llwyfan, a chafwyd can a chydgan addas gan Mr. Griffith John Roberts, Bontnewydd, ac adroddiad gan Deiniol Fychan. AR Y LLWYFAN yr oedd amryw o wyr pwysig a dylanwadol, ac yr oedd yn syn gennyf na fuasai thai ohonynt hwy wedi dweyd gair i ddechreu yr oedfa. Yno yr oedd y Parch. Evan Jones, arwr llawer brwydr, a rhoed derbyniad croesawgar iawn iddo pan wnaeth ei ymddanghosiad. Yno hefyd yr oedd y Parchn. John Williams (Brynsiencyn), T. Chas. Williams, M.A., D. Stanley Jones, Dr. Hugh Jones, D. Tecwyn Evans, B.A., Prifathraw T. Rees, M.A., Bangor, a 11 u o weinidogion eraill. Mor hawdd fuasai i rai ohonynt hwy roddi an- erchiad. Gvvelais hefyd Mri. T. C. Lewis, Conwy J. P. Griffiths, Conwy Henry Lewis, Bangor Colonel Darbishire, Penmaenmawr ac ugeiniau eraill allwn enwi pe angen. Y ddau wr oedd yn rheoli y llwyfan oeddynt Mri. J. R. Pritchard. U.H., a J. R. Hughes, U.H., Caer- narfon. Fel ag yr oedd yn agoshau at chwech o'r gloch, yr oedd y brwdtrydedd yn codi a dis- gW) liad mawr am "arwr y dydd" i ddyfod i fewn. Pan y daeth Mr. Nath. Roberts i'r golwg ar ochr dde y llwyfan gwyddai pawb erbyn hyn fod Mr Lloyd George yn ymyl. Ar hynny dyma ef yn dod, a'i briod ffyddlon a Mrs Nath. Roberts gydag ef, a Mr Ellis Davies. A.S Cododd y dyrfa fawr i fyny, a chwifiwyd cad- achau a hetiau am amser, Y CYFARFOD. Y llywydd oedd Dr Wynne Griffith, Pwllheli, Cadeirydd y Gymdeithas Ryddfrydol. Bu yn ddoeth iawn i beidio cymeryd llawer o amser cyn galw ar Mr Lloyd George. Cododd i fyny ar unwaith, a chododd y gynulleidfa gydag ef. Bu am ychydig cyn cael tawelwch i ddechreu. Dy- wedodd ychydig o eiriau yn Gymraeg, yna troes i'r Saesneg, am y rheswm, meddai ef, mai nid yn annerch y gynulleidfa honno yn unig yr oedd y noson hon, ond fod yna gynulleidfa fawr arall yn disgwyl am yr araeth. Gan y credaf y bydd gennych grynodeb o'r araeth yn Saesneg, ni fydd i mi ond cyfeirio at rai pwyntiau ynddi, er mwyn y rhai hynny o'ch darllenwyr nas gallant ddeali yr iaith fain. Cyfeiriodd at waith yr Arglwyddi yn bwrw allan amryw o fesurau gwerthfawr ag yr oedd y Senedd wedi cymeryd trafferth gyda hwy-Mesur Addysg, Mesur rhoddi Un Bleidlais i Bob Dyn, y Mesur Trwyddedol, ac yn ddiweddaf oil y Gyllideb. Dywedodd fod y Rhyddfrydwyr wedi dangos amynedd mawr am flynyddoedd- amynedd a fu yn ymyl myned yn llwfrdra yng ngwyneb yr anigylchiadau. Ond daeth yr amser i daro, ac yr ydym wedi gwneud. Yr oedd taflu allan y Gyllideb yn ddifrifol, yn ol ei farn ef, ac yn golygu dyrysu trefniadau cyllidol y wlad am flwyddyn. Dywedodd fod y Gyllideb yn wahanol i'r un fu o'i blaen. TRETH YR INCWM. Canmolai hon fel un hollo! deg. Beth oedd allan o le yn un sydd yn derbyn ei fiioedd yn y flwyddyn i dalu cyfran 0 hynny ftiag at dreuliaii y wlad ? Gelwir ar y dyn sydd ganddo ugain mil y flvvyddyn i dalii ç/¡vyç' cheiniog y bunt tuag at ailglienion diamheuol y wlad. Y mae arnoch eisieu rhywbeth i'ch amddiffyn. Hwy eu hunain a waeddasant am dano. Y maent wedi cael y nwyddau, ond nid ydynt yn barod i dalu am danynt. Y mae ugain mil o bunnau yn y flwyddyn yn golygu, os y cymerwch holl ddyddiau gwaith am flwyddyn a rhoddi i'r dyn sydd yn ei ennill fis o wyliau-mae'n golygu ^70 y dydd. Buasai £ 70 y dydd yn y wlad hon yn talu cyflogau dau gant a hanner o seiri, neu bedwar cant o lafur- wyr. A ydyw yn annheg 4'r dyn sydd morffodus a meddu y swm yna-a ydyw yn ormod gofyn iddo dalu chwe' cheiniog y bunt allan o hyn i dalu tipyn i'r tlawd a'r anghenus sydd yma ac acw ? Nid y dyn sydd yn ennill sydd yn grwgnach. Mi a adwaen Haws ohonynt hwy, ac ni chlywais un ohonynt yn cwyno ei fod. wedi ei alw i dalu. Y mae pob un ohonynt wedi dweyd wrthyf fod y peth "yn brawf teg a rhesymol." Hyn, a llawer o bethau da eraill, a ddywedodd ar y pen hwn, a mynych y derbynid ei sylwadau gyda chytner- adwyaeth uchel. Y TRWYDDEDAU. Dywedodd pe buasai cyfraith yn cael ei phasio i gyfyngu ar ddilladwyr y wlad, y byddai y rhai hynny yn barod i dalu treth am eu hamddiflfyn. Os felly, nid oedd ond teg i dafarnvvyr y wlad wneud yr un peth. Mae trwydded yn feddiant gwerthfawr a greir gan y Wladwriaetb, ac nid anghyfiawnder yw i'r Wladwriaeth hawlio tAl gweddol a digonol yn ol am eiddo sydd yn creu deddfau i'w amddiffyn. Paham na ddylai ty tafarn mawr dalu, niewn cyfartaledd, un ran o ugain o'r hyn y rhaid i dafarnwr tlawd y pentref wneud ? Yr oil a ddywedai ydoedd, ei bod yn deg i dafarnwr y pentref gael ei osod ar yr un tir a thafarnau mawr y dref. TRETH Y TIR. Y mae perchenog tir amaethyddol yn talu gwir werth y tir hwnnw, ac yn gyffredin, nid yw y tir sydd yn agos i dref yn talu y ddegfed ran o'i werth. Nid ydyw hynyna yn deg. Rhaid cofio fod tir yn ymyl tref wedi ychwanegu yn ei werth trwy ymdrech dinasyddion y dref eu hunain. Egwyddor treth y tir ydyw pan gyfyd tir yn werth fod i'r perchenog dalu un ran o bump o'r gwerth hwnnw yn ol i'r bobl sydd wedi gwneud yr ychwanegiad yng ngwerth y tir. Am y cynllun prydlesol sydd gennym yn y wlad hon. Y mae o'r fath waethaf, ac yn wirioneddol ddryg- ionus. Pan y cymer dyn ddarn o dir i adeiladu arno, aiff pris y tir hwnnw mewn rhai amgytch- iadau i fyny i gan' waith pris cyntefig y tir. A hynny yn unig am fod yr adeiliad wedi ei godi arno, ac ym mhen blynyddoedd bydd y ty drachefn wedi mynd yn eiddo i ddyn na thalodd ddimeu erioed i'w wneud. Gan fod yn rhaid i ni gael arian rhaid trethu ar gyfer hynny. Nid ydym am drethu bwyd, dillad, diwydiant na masnach, ond yr ydym am drethu y dyn sydd yn derbyn yr hyn nad enillodd erioed mohonno, na chynyrchodd erioed, ac na ddylai fod yn eiddo iddo yn ol unrhyw ddeddf gyfiawn a theg. Felly- pan ddaw prydles y ty i fyny, a phan Si yn eiddo i'r tirfeddianwr, rhaid fydd iddo dalti Zio y caiit i gymdeithas. Dywed rhai ohonynt fod hyn yn lladrad, ond cymer y tirfeddianwr £100 y cant. Dywedodd fod Ardalydd Bute yn cartrefu mewn castell yng nghanol Caerdydd, a bod yno gan' acer o dir o amgylch y castell, ac mae swm y dreth a delir ar hwnnw ydyw Z924 y flwyddyn, ond y drws nasaf i'r castell mae siop deiliwr, yr hon sydd saith droedfedd a deugain wrth naw- ychydig uwchlaw 400 o latheni ysgwar, tra mae'r castell yn 500,000, a chodir treth ar hono o £ 947. Rhaid i'r teiliwr dalu am lawn werth ei siop. Paham na ddylai Ardalydd Bute wneud yr un peth ? Mae pob masnachwr yn foddlawn i dalu yr hyn sydd iawn at drethi ymherodrol a lleol, ond nid iawn oedd gofyn iddo dalu dros eraill. Cyfeiriodd, hefyd, at addoldy bychan perthynol i'r M.C. oedd wedi ei adeiladu a'r gost iddynt o ^150. Lie bychan gwledig oedd. Adeiladwyd ef ar brydles. Daeth hono i ben, a bu yn rhaid i'r eglvvys brynu y capel yn ol gan y tirfeddianwr. PRISIO TIR. Yr amcan wrth geisio cael prisiau o dan y Llywodraeth oedd cael pris teg ar dir pan fyddo ei angen at amcanion cyhoeddus. Codi ysgol- ion, gwaith dwft", neu gladdfa. Fel y mae a'r hyn y bryd, cymer ami i berchenog tir fantais annheg er cael prisiau eithafol. Wedi manylu ar hyn fe droes i'r Gymraeg. DYLANWAD AREITHYDDIETH. Yr wyf wedi darllen amryw weithiau am ddyn- ion yn gallu cario dylanwad anghyffredin ar gynulleidfaoedd gyda'u hareithyddiaeth. Un waith o'r blaen yn fy oes y gwelais i olygfa debyg i'r hyn oedd yn y Pafiliwn y noson hon— yn amser Cyfarfodydd Undeb yr Anibynnwyr ym Mangor rai blynyddol yn ol. Yr oedd y Parch John Thomas, Merthyr, yn areithio ar y Beibl Cymraeg, a phan y daeth at ddiweddglo ei araith cariodd y fath ddylanwad ar y dyrfa fel y cododd ar ei thraed. Nid anghofiaf y tro. Nid oedd y dorf oedd yno i'w chymharu mewn rhif i'r dorf oedd yn y Pafiliwn nos Iau. Pan ddarfu Mr Lloyd George ddechreu siarad yn Nghymraeg, yr oedd yn ferw mawr, ac y mae yr hyn aC ddywed- odd yn werth i'w roddi ar gof a chadw i'r oesau a ddêl. Dyma gyfle i adroddwyr Cymru. Credaf y gwna hwn ddarn da i gystadlu arno Y mae y Gyllideb yn dod a chvnlluniau sydd er budd y bob!. Chawn ni mohonynt heb lawer o ymladd, heb gwrs o frwydro, ond nid ydynt yn werth eu cael heb ymdrech. Nid ydyw rhyddid yn disgyn o'r nefoedd fel matina y mae yn rhaid ymladd a'r Caananeaid. Rhaid myned ymlaen trwy droedio'r anialwch, ymladd a gelynion, croesi'r lorddonen, a chlirio y Jebusiaid. Wydd- och chwi, ni eir yr un cam ymlaen ond trwy ym- drech a dioddef. Felly yr enillvvyd pobpeth gwerth ei ennill erioed. Peth arall, bydd yr hamdden ar ol y ddrycin yn werth ei gael. Y mae yr ymdrech o'n blaen yn awr, ond y mae llawer eto i ddod. Gwn na chawn bobpeth a ddisgwyliwn, ond bob tro eniilwn rywbeth nad oeddym yn disgwyl am dano. Ddoe es fel dafad i'm hen gynefin. Bu m yn cerdded trwy blwyf Llanystumdwy, gan gamu ar hyd hen lwybrau bore oes. Gwelais bientyn bach yn casglu priciau tân. Bum innau yn gwneud hynny. Bum yn dipyn o back-woodsman fy hun. Bum yn htl pric- iau tin fy hun, ond ni fyddwn yno i hel ar dywydd braf. Myned yno y byddwn ar ol yr ystorm. Diau y bydd yn ddrycin, hwyrach yn auaf o ddrycin, ond trannoeth bydd ami i hen goeden lwgr yn y goedwig wedi ei dymchwel. Ond ar ol y ddrycin ceir llawer o ddefnydd i gynhesu llawer aeiwyd ac i gynhesu llawer caloii-i ymlid gofid, gor- thrwm, tlodi, angen, a thrais ymaith am byth." Dyna'r darn a ddylanvvadodd ar y dorf fawr nes ei gwneud i godi ar ei thraed mewn brwd- frydedd. Yr oedd y dylanwad yn ysgubol. Yr oedd yr olygfa yn un nas anghofir gan n eb oedd yno. Cynygiwyd diolchgarwch i Mr. Lloyd George gan Dr Parry, ac eiliwyd gan Mr Maurice Jones, Pwllheli, a Mr T. C. Lewis, Conwy. Cynygiwyd penderfyniad yn erbyn Ty yr Ar- glwyddi gan yr Athro T. Rees, M.A., Coleg Bala-Bangor, mewn araith wresog, ac eiliwyd gan Mr Ellis Davies, A.S. Wedi talu diolch i r cadeirydd terfynwyd y cyfarfod bythgofiadwy hwn. "NED LLWYD," Weekly News" Office, Conway.

IDeganwy Improvement Association.I

| Llanrwst Petty Sessions

Nodion Llywarch Hen

AR FARWOLAETH

Advertising