Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

NODION NED LLWYD.

Nodion Llywarch HenI

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion Llywarch Hen Y mae Gwyneth Vaughan yn wael ei hiechyd. Gofid i'r genedl yw deall hyn. Nid llawer o ferched blaenllaw a galluog a roddwyd i'n cenedl ni. Y mae hi yn un o'r hoelion wyth." Hi ddeall yn dda gyfrinion a throion ein bywyd, a diau y daw o'r cystydd hwn a phwysi o flodau a dyfodd yn ei fanau tyner ger dyfroedd Marah. Disgwylir yr Athro Henry Jones i fwrdeisdrefl Arfon ar nosweithiau ola'r flwyddyn i gefnogi ymgeisiaeth Lloyd George. Caiff groeso calon a gwrandawiad aiddgar gan lawer heb fod o'r un farn wleidyddol. Gan wired mai Lloyd George yw ein gwleidyddwr mwyaf poblogaidd, yr Athro Henry Jones yw'r athronydd uwchaf ei glod a fedd ein cenedl. Car Gymru, a gwilia ei symud- iadau o ganol gwlad yr Yscotyn, a daw yn ei dro i daro ei ysgwydd gref o dan ei baich. < Brodor o Gaerfyrddin oedd Syr Alfred Jones, brenin masnach y banana. Ni fagodd Cy nru ers talm wr o gynheddfau masnachol cryfach. Meddai lygaid barcut i ganfod ei gyfleu, a gwyddai'n dda lle'r oedd ysglyfaeth yn ymguddio. Yr oedd yn Gyniro dymunol, ddaed ag y gellid disgwyl i wr o anian fasnachol, heb reddfau llenvddol y genedl, fod Ni chymysgodd lawer a Chymry ein trefi Seisnig, am mai rhwymau llenvddol neu wleid- yddol a'u tynai hwy ynghyd, a chi^iai ef i raddau 1 1:1 o swn y naill a'r llall. Treiliodd lawer diwedd wythnos yn ardal Llanddulas, a thalodd beth sylw i fywyd y pentrefwyr. Rhoddodd yn rhad iddynt goed ffrwythau i'w planu yn eu gerddi; ond dilewyrch fu'r anturiaeth. Gwell gan Gymry wobr mewn eisteddfod na choed ffrwythau. Mas nachwr trwyadl a llwyddianus oedd ef, heb ynddo fawr o'r hud a'r lledrith barddonol sy'n hudo ysbryd y Cymro. Ni fu colli'r peth hwn iddo'n golled. Casglodd yn ei oes agos i filiwn o bun- au-yr orchest yr ymestyna pawb am dani. Bu farw'r Brenin Leopold, Harri'r VIII. y ganrif hon. Yr oedd yn waeth na Pharaoh am ei greulondeb. Gweddi'ai ei wraig gyfreithlon ddydd a nos am gael marw, er cael dianc o gyredd ei greulonderau. Anfonodd un o'i ferched i wall- gofdy i foddio ei flinder. Blinai ar ei wragedd, a chai pob hoeden groesaw yn ei balas. Diwedd- odd ei oes yng ngwarogaeth puteiniwr. Bu farw gan bwyso ar gredo'r Eglwys Babaidd, a threfna'r Eglwys hono er cydnabod mam ei blant ieuengaf fel ei wraig gyfreithlon. Onid yw'n rhyfedd y goddefwyd y fath anuwioldeb llygredig yn nheyrn- asoedd cred ? Ceuodd y teyrnasoedd eu clustiau rhag clywed llefau'r Congo, a cheuasant eullygaid rhag gweled llygredd bywyd y brenin a'u nhoddai. Beth bynnag a wnelo'r Eglwys Babaidd, y mae gwyngalchu bywyd yr adyn aflan a chreulon hwn allan o gwestiwn. Amser yn ol rhanai Mrs Lloyd George wobrau yn un o Ysgolion Caerdydd. Diolchodd y plant iddi yn Gymraeg. Ymhlith y rhai diolchgar yr oedd geneth bengrych, groenddu o Affrica bell, yn diolch yn iaith Gwalia Wen. Esiampl ragorol i Gymry Cymru. Thank you neu'r tanciw bastardaidd yw eu diolch hwy. Rhyw wyth y cant o Gymry sy'n nhref Caerdydd. Leied eu rhif, lefeiniant y dref Seisnig, a llusgant hi'n araf i sylweddoli mai hi yw prif dref Cymru. Paham y llithrodd masnach Caerdydd i ddwylaw estron- iaid ? A'r Cymry i Loegr i fasnachu, a daw estron- iaid i'w broydd hi ei hun. Nid eu beio hwy'r ydym. Ond beio ein cig a'n gwacd ein hunain am adael Cymru i'r neb a'i hoffo. Os myni glod bid farw. Ymlidiwyd Pawl Kruger o Dde Affrica, a bu farw yn ffoadur. Gwrthododd blygu i'r awdurdodol Mr Joseph Chamberlain. Gwrthododd Gladstone o'i flaen, a Balfour ar ei ol yr un ffurf-wasanaerh diflas. Anfonodd Joseph luoedd Prydain i droi Pawl Lywydd o'i wlad, a llwyddodd. Mr Kruger oedd prif bechadur y byd y pryd hwnw. Bellach gwawriodd ei amser gogoneddus yntau. Rhoddir iddo safle sant gan Eisteddfod y Cymry, Paul Kruger yw testyn y bryddest. Bu rhai o hyr- wyddwyr yr Eisteddfod yn y wlad hon adeg y rhyfel, yn lluchio pechodau Kruger fel olew i'r tan. Pa wedd erbyn y newidiasant ? Peidiodd yr aur, oedd yn peri i'r oraclau gablu. Daeth y doethion i'w hiawn bwyll yng nghorsydd siom. Caned beirdd Cymru eu calonau i Pawl Kruger, yna fe wel Cymry Johannesburg loywed barn pobl yr hen wlad. Y mae chwys oer ar ruddiau Maldwyn, a chura ei chalon Ryddfrydiol yn. wan. Meddalodd gwlianen y Dre Newydd: rym a chaledwch ei hesgyrn. Nid oes o'i dau aelod un yn iach yn y ffydd Ryddfrydol. Eto tyf Mr. David Davies yn araf i awyr glir a iach Ixhyddfrydiaeth. Ni chredai gynt ym Masnach Rydd." Ni chred heddyw yn nhrethiad tir y Gyllideb. Ymreolwr olnuS ydyw. Er y pethau hyn, llefara'n groyw ar arnfoes Ty'r Cyfoetbogion. Wele ei eiriau The present system of a Second Chamber is not much better tha-n a one-house Government. When the Conservatives were in power there was no House of Lords, but when the Liberals I were an office there was no House of Commons." Y mae'r Bragwyr am orffwys ar eu rhwyfau hyd ddSeehreu'r flwyddyn newydd. Gwedi delo'r flwyddynj gollyngaiit afonydd y cwiw i feddwi'r etholwyr a'u notio i'r rhengau Toriaidd. Ar- faetharit wario rhywbeth cyfartal i £;650 ar gyfer pob ethoLaeth i osod y blaid Geidwadol mew-r. grym, a chadw eu shareholders yn Nhy'r Arglwyddi. Cyn hir fe gwymp Prydain yn deilchion i'r llawr, a'r awenau yn gyflym i ddwylaw pobl y cwrw a phobl masnachau eraill. Gwae'r wLad wertho ei breintiau am gwrw. Cwympodd Rhufen pan ymddiiriedodd yn ei segurwyr, a phan aeth hunan-elw yn amcan ei hymdrechion gwleidyddol. A Mri. E. Jones Griffith, William Jones, a Changlhellydd y Trysorlys i Loegr i eth-coliadu ac i osod y rhan anwadal ym mhlith y Saeson yn eu oarnau. Hyd y gwelais, y mae gwerin Cymru yn uwchradd i werin Lloegr, ond y mae'r Lloegriaid yn deall gwleidyddiaeth ddaed a gweu n.ar eiaoom ni. Anseiydlog ydynt. Gwierthant eu pleidlelisiau aim ffafrau. Lotri yw gwleidyddiaeth, a threiant eu ffawd at lywod- raethau. Y gynffon wan, siigledig hon sy'n new id1 ei hochr, gan osod llywodraethau yn eu lie. Gorfoledda'r ddwy bLaid wleidyddo-I yn eu mhwyafrif, gwneir ef i fyny gan bobl anwadal Lloegr, y rlxai sy'n newid fel bo nerth y gwynt. Pleidleisia rhan ehelaeth bob amser yn Geid- wadol, rhan bob amser yn Rhyddfrydol, ond a'r gweiniaid gyda'r gwynt. Felly y mae'n hantfodol angenrheidiol gael breichiiau cryfio/n wrth y meg- inau. Ni gawn, weled pa un ai gwynt nerthol yr areithiau Rhyddfrydol ynte cwxw'r bragd-ii ym mharlyrau oefn y tafarndai garia'r dydd. Y mae pob un yn ei drefn ei hun yn ymegnio. A phwy eiiiIIa'r gamp? Ymorfoledda. Arglwydd Curswn, yr Arglwydd sy'n gapten cad yr Arglwyddi, yn eu rhan hwy. Ni raid iddynt hwy drimio eu hwyliau i wynlt y farn gyhoeddus, nid ydynt hwy yn rhwym i neb, ac ni faidd unrhyw "Caucus" godi ei llaw amynt hwy. Felly'n wir. Onid Caucus parlwr Arglwydd Lansdowne fwniodd allan y Mesuir Trwyddedol, a pha sawl Caucus" o fragwyr diegwydcfcr oedd yn gwasgu, gw^nt pobl y parlwr? Os yw'r Arglwyddi uwohLaw cyd- nabod bam y bobl, paham y ffug barchant y bobl trwy ofyn eu barn ar y Gyllidieb? Diolch iddo am addief y gwir. Y fellidith yw eu bod yno fel meibion eu tadau, heb fod gyfrifol i neb, yn gwbl rydd i daenu eu hiadenydd dros eu budd- iarizu eu hunain, yn dir a cihwrw. Da chwi, bobI bwyBog, agorwch eich llygaid, a deallwch

Advertising

.....--._.-Congl yr Awen.

..--. Trefriw Council School.

IFred W. Jones.

---.-.-...:-North Wales Coast…

.-.-..:-Colwyn Bay Conservative…

....--.---An Open Letter to…

Advertising

Mr. William Jones' Campaign.

COLWYN BAY.

Nodion Llywarch HenI