Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

NODION Llywarch Hen.

------.-Nodion Ned Llwyd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion Ned Llwyd. LLAXFAIRFECHAN. Xos Lun cafwyd cyngherdd gwych yn y Ncuadd Gyhoeddus, yr elw at yr achos ym Mheniel. Gweithiodd y pwyllgor yn ffydd- Ion a chaed cymhulliad lliosog. Y llvwydd oedd Mr. D. Griffith, Plas Farm, boneddwr sydd yn wastad yn cynorthwyo achosion teilwng, a chafwyd anherchiad doeth ganddo. Nid wyf yn cofiu i mi weld neb erioed yn cael gwell gwandawiad. Cyfeiriodd at ffyddlon- db yr eglwys ym Mheniel yn llafurio dan gymaint o anfanteision. Anrhydedd ydyw cael boil yn aelod mewn eglwys fechan, gan fod hynny yn tynnu allan adnoddau yr ael- odau. Deiniol Fychan oedd yr arweinvdd, a sylwodd ei tod wedi cael y fraint o gymeryd rhan mewn amrvw gyfarfodydd vno o'r I blaen, ond na welod(I erioed gyfarfod mwy trefnus. Yr oedd disgwvliad y dvrfa wrth Mr. Griff. Owen, Lerpwl, ond lluddiwyd ef i fod yn bresennol, a sicrhaodd y pwyllgor wasanaeth y tenorydd swynol, Mr. Watkin Hughes, Rhos, buddugwr yn Eisteddfod Idangollen. Cafodd ei ail-aiw bob tro v cannodd, a phrawf hynny pa mor gymeradwy oedd ei ganeuon. Sicr yw v daw v cvfaill hwn yma yn fuan eto. Cafwvd caneuon swynol hefyd gan Miss Alice Jones a Miss Olwen Parry, ac unawd tlws ar v berdoneg gan Mi.-s Bessie Davies, Rose Mount. lhag- orol oedd yr unawd Merch y Cad ben," gan Mr. Tom Hughes. Mae Tom yn gwella o hyd. Cafwyd tri o ddarnau da gan y Glan Lavan Male Voice Party, dan arweiniad Mr. Hugh J. Jones. Mae'n synn na fuasai cor mor dda a hwn yn cystadlu mwy. Mae gan yr arweinydd feistrolaeth lwyr arnynt. Cyfeiliwyd gan Miss May Hughes a Mr. \V. J. Jones, ii.A., yn rhagorol iawn. Caed dau adroddiad effeithiol gan Mr. Henry Rees Davies, ac adroddwyd hefyd gan yr arwein- ydd. Wedi cael cwpaned o de a chroesaw yn Rose Mount, dychwelais gartref. TESTYNNAU RHYFEDD. Dydd Llun rhoddwyd yn fy Haw destynnau dau gyfarfod llenyddol. Yn un cynygir 7s. 6c. amdraethawd ar Gvlryngdod Cri-st," ac ymhellach ymlaen gwelais y cynygir 10s. o wobr am wneud cvflath. Dyna i chwi eithafion, onide ?—Gwelais fod y cyfarfod arall i'w gynnal ar ddydd Ionawr laf." Os y sylwch, fe welwch mai dydd Sul ydyw y diwrnod hwnnw. Mae yn amheus gennyf a gynhelir y cyfarfod ar y Sul.-Cefais hefyd destynnau Ei-teddfod Conwy y Nadolig. Da gennyf fod y pwyllgor yn rhoddi gwobr am farwnad ar ol yr hen gyfaill Bangorian. Bn pI yn ffyddlon iawn gyda'r Eisteddfod hon o'i dechreu. Deallaf fod gofyn mawr am y testynnau. Anfonwyd i mi hefyd destynnau Eisteddfod y Calan yng Nghol- wyn Bay. Cvnnygir yma wohrwyon syl- weddol, a cheir digon o amrywiaeth yn y testynnau. Nid wyf yn pryderu na fydd llwyddiant mawr yng Nghonwy a Cholwyn Bay. Rhaid i mi roi goreu iddi ar hyn y tro yma, gan fy mod yn wael yn fy ngwely ond dywed y meddyg y deuaf yn iawn cto vn fuan. NED LLWYD." Weekly News Office, Conwy. -c_

Colofn yr Awen.

Advertising

Great Orme's Head Tragedy.

Advertising

Summer School of Temperance.

Welsh Crusade Against Consumption.

[No title]

Llandudno Charity Association.

Llandudno Field Club.

Yspytty Ifan Sheep Dog Trials.

Great Orme's Head Tragedy.