Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Nodion Ned Llwyd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodion Ned Llwyd. Y LECSIWN. 'Does dim arall i'w gael y dyddiau hyn, ac ac yn wir mae lliaws mawr bron ag aros ar eu traed trwy'r nos mewn gwahanol leoedd i ddisgwyl y results." Mae yn ddigon posibl y buaswn innau gyda hwy, onibai nad wyf eto yn teimlo yn ddigon cryf i hynny. Ni bu'm mor dawel mewn Etholiad er pan wyfyn cofio. Nid wyf eto'n gweled fod y brwdfrydedd wedi codi yn uchel iawn yn y Bwrdeisdrefi yma. Feallai y teimla lliaws nad oes angen gwneud rhyw ymdrech fawr i orchfygu yr ymgeisydd Ceidwadol sydd ar y maes y tro hwn. Nid wyf eto wedi ei weled na'i glywed, ond clyw- ais ei fod yn cael cyfarfodydd digon tawel, a'i fod yn gallu dweyd tipyn yn ddigon trefnus. Fe wyr yn dda nad oes yr un siawns iddo lwyddo yn y frwydr hon, ac fe wyr y rhai a'i cymhellodd hefyd yr un peth. Tro gwael ac angharedig ynddynt oedd dyfod a neb allan yn awr. Wrth gwrs, eu haincan oedd cadw'r Canghellydd gartref rhag myned i helpu i leoedd eraill. Da gennyf nad ydynt wedi llwyddo. Mae wrthi yn ffyddlon ac yn cael derbyniad ardderchog i ba le bynnag yr a. Nid yw yn bwriadu cynnal ond un cyfarfod yn y gwahanol leoedd sydd yn perthyn i'w eth- olaeth. Caed cyfarfod ardderchog ym Man- gor nos Lun, y Penrhyn Hall wedi ei lenwi ymhell cyn amser dechreu'r cyfarfod. Dr. Hugh Jones ydoedd y cadeirydd, ac anherch- wyd yn effeithiol iawn gan Mr. Caradog Rees a'r Parch. Rhys J. Huws, Bethesda. Teimlaf yn falch fod trefniant wedi ei wneud i ni gael gwybod canlyniad y pleidleisio nos Sadwrn y tro hwn, ac nid aros hyd ddydd Llun. Mae yn bwysig fod pawb o honom yn gwneud yr hyn a allom i sicrhau buddugoliaeth fawr ac anrhydeddus. Mae gwerin gwlad yn deffro, Yn erbyn trais a brad, I lawr å Thy'r Arglwyddi! A glywir trwy y wlad Mae'r adeg wedi dyfod Cawn bellach ddod yn rhydd, Mae baner buddugoliaeth Gan ArwyrCymru Fydd." LLANDUDNO. Nos Wener ddiweddaf, yr oedd Dr. Lloyd Williams, Bangor, yn annerch y Cymmrodor- ion yma ar Alawon Gwerin." Mae yn debyg nad oes neb ag sydd yn talu cymaint o sylw i'r rhai hyn a Dr. Williams, yr oedd cynhulliad da yn bresennol, a mawr fwynhawyd y ddarlith ddyddorol ac addysgiadol. Mae Cymrodorion Llandudno yn cychwyn yn galonog, a nifer fawr wedi uno. ROE WEN. Yr wyf yn sicr y bydd yn ddrwg gan liaws ddeall fod y Parch. Gaianydd Williams wedi ei gaethiwo gan afiechyd. Mae yn debyg y bydd yn rhaid iddo fyned i Lerpwl eto. Drwg iawn gennyf am afiechyd y cyfaill mwyn. Hyderaf y caiff adferiad buan. Brysied wella. Bychan wyddwn ei fod ef a minnau yn gorfod cadw i fewn yr un pryd. Yr unig un a ddeallais i oedd yn poeni am fy mod i wedi gwella ydoedd "Searchlight." Cadwed yr "In Memoriam daw adeg y bydd yn am- serol i'w gyhoeddi ond nid yn fuan, gobeithio. Feallai y bydd yn synn ganddo ddeall fod Ned Llwyd yn mynd o gwmpas y wlad eto, a galwaf yn Abergele i edrych am dano yn fuan. Dichon y caf olwg ar yr In Memoriam y pryd hwnw. GWOBR DDA. Dymunaf longyfarch Mr Felix Davies, Bangor, ar ei waith yn enill £2 10s. yn LIan- rwst yr wythnos ddiweddaf. Da oedd iddo fod y pwyllgor wedi pennodi Mr Evan Lewis yn feirniad, onide mae yn sicr mai efe fuasai yn cipio y wobr hon. Deallaf fod Mr T. R. Williams, Trefriw, a Mr E. Lewis yn canmol dadganiad Mr Davies. Mr J. Evans, Henryd, enillodd y wobr am yr adroddiad. Trodd y cyfarfod yn llwyddiant mawr. Yr oedd Mr Evan Lewis yn beirniadu ym Methesda nos Wener a Sadwrn diweddaf. SAFLE'R PLEIDIAU. Cyfaital iawn ydynt i fynny i heno, ond yr wyf yn disgwyl y bydd pob dydd oddiyma ymlaen yn dangos llwyddiant y blaid Rydd- frydol. Yr ydym wedi colli rhai, ond yrydym yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i ennill eraill mewn llawer lie. Mae tlai yn pleidleisio nac yn yr Etholiad ddiweddaf. Tybed fod yr etholiadau yma yn dod yn rhy ami a bod yr etholwyr yn blino arnynt? Daliwn i gredu ac i ddisgwyl y goreu. Dim rhagor heno, gan na chaf aros ar fy nhraed yn hwyr gan Catrin. NED LLWYD.

IMae'r^Rhyfel ar ein Sodlau.

---.-..c-Etholiad Bwrdeisdrefi…

Advertising

NODIONI Llywarch Hen.I

Cyfarfod Ysgolion Dosbarth…

Cnau o Goed y Lecsiwn.

---.--. Conway Rural District…

Talycafn Christmas Show and…