Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AR DRAETH 1908.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AR DRAETH 1908. Unwaith eto, wele ni, wedi croesi i'r lan arall. Nos Fawrth ddiweddaf, safem ar ben- rhyn olaf 1907, a'r tir yn ysgwyd ac yn chwalu yn ddistaw dan ein traed. Nid oedd gennym ddewis ond croesi'r Hit tawel a gosod ein troed ar draeth dieithr 1908. Blwyddyn brofedigaethus fa 1907, mewn llawer ystyr, i Gymru. Cafodd meddwl ac ysbryd y genedl eu profi a'u cythryblu. Y mae helynt y Commisiwn Eglwysig wedi magu llawer o chwerwder rhwng yr Eglwys Sefydledig ac Ymneillduaeth yr oedd hynny i'w ddisgwyl. Yn anffodus, ar un adeg, bygythiai greu camddealltwriaeth a drwg- dybiaeth yn rhengoedd yr Ymneillduwyr, ac yn eu perthynas hwy a'u harweinwyr. Ond enillodd doethineb y dydd, ac yn lie colled, daeth i ni ennill o'r helynt. Peth arall sydd wedi peri pryder yng Nghymru y llynedd yw trai y Diwygiad. Nid oedd neb ystyriol heb ragweled hyn i raddau. Pa haf fa erioedd heb euaf i'w ddilyn ? Ein perygl y dyddiau hyn yw craffu gymaint ar yr ochr dywell nes bod heb lygad clir i ganfod yr ochr oleu. Pa forwr feddyliai am adael ei long i drugaredd y tonnau, am fod un hwyl wedi myned gyda'r gwynt ? Nid ein gorchwyl ni yw gruddfan uwchben y siomedigaeth, ac anghofio bod yn ffyddlon i ofynion newydd gwaith. Daw eto adeg pan ddeallwn ystyr a disgyblaeth y Diwygiad yn well: pan fydd yr adgof o'r oriau euraidd" hynny yn un o drysorau dewisol ein profiad crefyddol. Peidiwn gadael i un math o siom beri i ni "lithro heibio'r angorfa." Erys y pethau goreu ni ddiflana'r fendith fewnol. Pwyswn lai ar ff urfiau o'r tu allan, ar draddodiad a theimlad -er cofio fod i'r pethau hyn eu gwerth pwyswn fwy ar y creigdir diymod hwnnw nas gall rhuthr-donnau Amser naddu dim arno. Cartrefwn ynghanol pethau disigl. ELFED.

Gwaith y Flwyddyn.

[No title]